Gwneud cais am drwydded awyrenegol neu system awyrennau di-griw

Cyhoeddwyd: 6 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf: 27 Gorffennaf 2026

Gwneud cais am drwydded awyren

Gallwch wneud cais am drwydded awyren newydd, neu reoli un sydd eisoes yn bodoli drwy ein porth ar-lein. Os oes angen ffurflen gais bapur arnoch chi  cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein ffurflen ar y we, neu ysgrifennu atom ni.

Gwneud cais am drwydded gorsaf ddaear awyrenegol

I wneud cais am drwydded gorsaf ddaear, llenwch y ffurflen berthnasol a’i chyflwyno i spectrum.licensing@ofcom.org.uk

OfW586a: Ground station application form (PDF, 1.2 MB)

OfW586b: Ground station payment contact form (PDF, 821.2 KB)

OfW593: Aeronautical radar ground station licence application form (PDF, 1.0 MB)

OfW594: Aeronautical navigational aid radio ground station licence application form (PDF, 1.2 MB)

Gwneud cais am drwydded system awyrennau di-griw

Gallwch wneud cais am drwydded awyren newydd, neu reoli un sydd eisoes yn bodoli drwy ein porth ar-lein. Os oes angen ffurflen gais bapur arnoch chi  cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein ffurflen ar y we, neu ysgrifennu atom ni.

UAS Operator Radio licence guidance (PDF, 285.6 KB)

Sut mae’r broses drwyddedu’n gweithio

Os oes gennych gwestiynau am eich trwydded awyrenegol, mae’r atebion ar gael yma.

Wireless Telegraphy Act licensing policy manual (PDF, 305.2 KB)

EMF licence condition (PDF, 164.7 KB)

Ar gyfer trwyddedau awyrennau a thrwyddedau cludadwy, rydym fel arfer yn cyhoeddi trwydded o fewn 5 diwrnod o dderbyn ffurflen gais wedi’i chwblhau a ffi’r drwydded. Yn aml, bydd ceisiadau am gymhorthion gorsafoedd ddaear awyrennol a chymorth llywio yn  cymryd mwy o amser oherwydd yr angen i neilltuo amledd, a allai  fod angen ei gydlynu’n rhyngwladol. Mae'r dull cyflwyno  (e-bost neu lythyr) yn dibynnu ar eich dewis fel y nodir yn y cais.

Ar ben hynny, mae cyfnodau rhewi chwe wythnos ddwywaith y flwyddyn wedi'u gosod gan EUROCONTROL i ganiatáu cynllunio amledd (Bloc) ledled Ewrop . Mae'r cynllunio Bloc yn effeithio ar gyfathrebu aer-ddaear (COM2) 117.975 – 137 MHz yn unig.

Byddwch yn derbyn nodyn atgoffa ffioedd yn awtomatig tua chwe wythnos cyn i'ch ffi ddod yn ddyledus. Yna gallwch anfon taliad neu dalu ar-lein. Os ydych wedi sefydlu debyd uniongyrchol does dim angen i chi wneud dim, byddwn yn casglu'r ffi

Os na chawn ymateb  i'r hysbysiad atgoffa, byddwn yn cyhoeddi cynnig i ganslo hysbysiad ar ddyddiad dyledus y ffi drwydded a hysbysiad canslo fis ar ôl dyddiad dyledus y ffi drwydded.

Rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i fanylion cyfeiriad perchennog yr awyren/trwyddedai radio neu i'r dosbarthiadau o offer radio (e.e. VHF, altimetr radio). Ar gyfer awyrennau cofrestredig, dylech hefyd hysbysu eich  Cofrestrfa Awyrennau am unrhyw newidiadau.

Dylid cyflwyno newidiadau i drwydded Gorsaf Ddaear Awyrennol neu Gymorth Llywio radio morol  ar ffurflen gais. Ni ddylid gosod na defnyddio eich offer newydd nes ei fod wedi'i gymeradwyo.

Na, nid ellir trosglwyddo trwyddedau  rhwng trwyddedwyr nac awyrennau ac nid oes ad-daliad pro rata

I gael gwybodaeth am dalu eich trwydded, gweler Sut i wneud taliad i Ofcom.

Nid yw Ofcom bellach angen manylion gwneuthuriad a rhif model offer radio awyrennau at ddibenion trwyddedu. Mae rhifau cymeradwyo ar gyfer y rhan fwyaf o offer i'w cael ar wefan EASA. Os ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i'r rhifau cymeradwyo priodol, dylech gysylltu â gwneuthurwr neu fanwerthwr yr offer.

Efallai y byddwn yn dirymu eich Trwydded Awyren neu Orsaf Ddaear os nad ydych yn talu eich ffi. Yn ogystal, ar gyfer Trwydded Radio Awyren, efallai y byddwn yn dirymu eich trwydded os cawn wybod eich bod wedi gwaredu eich awyren. Os ydych yn dal i ddefnyddio'r offer radio, bydd angen i chi wneud cais am drwydded newydd gan ddefnyddio'r ffurflen gais priodol. Mae'n drosedd gweithredu offer radio awyrennol heb drwydded radio Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr ddilys .

Mae angen y dystysgrif gweithredwr priodol arnoch i ddefnyddio radio awyrennau. Y CAA sy'n gyfrifol am yr ardystiad gweithredwr.

Mae hyn yn cael ei reoli gan y CAA. Cysylltwch â nhw'n uniongyrchol (gwefan neu e-bost) i ofyn am y ffurflenni priodol.

Drwy leihau'r bylchiad sianel rhwng amleddau trosglwyddo olynol yn y bandiau VHF awyrennol, mae'r bylchiad sianel 8.33 kHz yn ychwanegu dwy sianel ychwanegol ar gyfer pob sianel 25 kHz. Mae hyn er mwyn goresgyn y tagfeydd amledd yn y tymor canolig i'r tymor hir trwy ddarparu mwy o sianeli. Ar gyfer sianel 8.33 kHz bydd gan yr amleddau trosglwyddo o leiaf bedwar digid ar ôl y pwynt degol. Er mwyn lleihau'r potensial am wallau rhwng y rheolydd a'r peilot, dyrannwyd rhif y sianel ar gyfer pob amledd sy'n debyg iawn i'r amledd. Gwneir hyn yn y fath fodd fel mai dim ond tri digid ar ôl y pwynt degol sy'n cael eu defnyddio. Pwrpas hyn yw symleiddio ynganiad yr amledd a siaradir dros yr awyr a lleihau nifer y digidau sydd angen eu mewnbynnu i'r radio ar fwrdd.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein taflen ar ddeall amleddau 8.33 kHz a'u rhif sianel benodol, a defnyddiwch ein trawsnewidydd i wirio'r amledd/sianel.

Deall amleddau 8.33 kHz a'u rhif sianel benodol (PDF, 349.3 KB)

Amledd 8.33 kHz i drawsnewidydd rhif sianel (XLSX, 16.5 KB)

Byddwch yn derbyn dogfen drwydded ar ôl talu’r anfoneb gyntaf,  cadwch hon yn ddiogel. Ni fyddwn  yn cyhoeddi copi o'ch trwydded ar ôl talu’r ffi gyfnodol. Pan gyhoeddir trwydded mae'n barhaol, felly mae'n ddilys nes iddi gael ei ildio neu ei ddirymu.

Ar gyfer ffioedd trwydded a delir yn ddiweddarach, byddwch yn derbyn cadarnhad o daliad y ffi drwydded fesul trwydded. Cadwch y cadarnhad hwn o daliad y ffi drwydded gyda'ch dogfen drwydded. Rydym wedi gwneud y newid hwn i gysoni trwyddedu awyrennol â'n cynhyrchion trwydded eraill.

Rate this page

Was this page helpful?