Soundwave-web

Radio Busnes

Cyhoeddwyd: 5 Rhagfyr 2025

Mae trwyddedau Radio Busnes yn darparu atebion ar radio gyfathrebu i ystod eang o unigolion, busnesau, elusennau a sefydliadau yn y DU fel prifysgolion. Mae angen trwydded gan Ofcom ar gyfer defnyddio system radio.

Mae rhwydweithiau Radio Busnes yn cynnwys nifer o derfynellau symudol a/neu un neu fwy o orsafoedd sylfaen, ac yn gwasanaethu grŵp defnyddwyr caeedig hunan-ddarparedig sydd eisiau cyfathrebiadau llais a data pwrpasol a dibynadwy wrth law.

Cyfeiriadau cyflym 

Dylai trwyddedai Radio Busnes ysgafn ddefnyddio'r 'Porth Trwyddedu Ar-lein' lle gellir gwneud cais am drwyddedau ysgafn a'u rheoli. Dylai trwyddedau technegol ddefnyddio'r 'Gwasanaeth Ar-lein' i wneud cais am drwyddedau a’u hamrywio. Ni ellir rheoli trwyddedau technegol ar-lein ar hyn o bryd.

Mae trwydded fach yn cyfeirio at drwydded Simple UK, Simple Site, neu Suppliers Light. Maent yn drwyddedau 'wedi'u pecynnu ymlaen llaw' sy'n dod â rhestr benodol o amleddau i ddefnyddwyr eu hunan-gydlynu.

Mae trwydded dechnegol yn cyfeirio at drwydded wedi'i neilltuo yn dechnegol neu a ddifinnwyd yn ardal. Maent yn drwyddedau safle/ardal-benodol sy'n gofyn am gydlyniad technegol gan Ofcom.