Os ydych yn defnyddio meicroffonau di-wifr, dyfeisiau ‘talkback’ (walkie-talkie) a gwasanaethau cynhyrchu ar gyfer radio a theledu, bydd angen trwydded gwneud rhaglenni a digwyddiadau arbennig arnoch chi. Mae hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith os ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â pherfformiad neu ddigwyddiad.
Nodyn Atgoffa Pwysig
Byddwch yn ymwybodol ein bod yn anelu at brosesu ceisiadau am drwyddedau o fewn tri diwrnod gwaith, ond yn ystod cyfnodau prysur (Ebrill i Fedi) gall hyn gymryd mwy o amser. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried yr amserlen hon wrth gyflwyno ceisiadau.
Mae'n ofyniad cyfreithiol bod trwydded Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr yn cael ei rhoi gan Ofcom cyn i chi ddechrau darlledu a bod eich offer yn cael ei weithredu yn unol â'ch trwydded. Mae cosbau am ddefnydd heb awdurdodi yn amrywio ond gallant gynnwys dirwyon mawr a charchar, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno'ch cais yn ddigon buan I sicrhau bod y drwydded briodol gennych.
Gellir gwneud y rhan fwyaf o geisiadau ar-lein yn gyflym ac yn effeithlon heb yr angen i aros. Gweler ein tudalen Gwnewch gais am Drwydded PMSE am fwy o wybodaeth neu i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.
50 MHz ychwanegol ar gyfer camerâu diwifr o 17 Tachwedd 2026
Rydym yn darparu sbevctrwm 50 MHz ychwanegol ar gyfer camerâu diwifr, o fewn 7250–7300MHz, a rennir gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae'r sbectrwm ychwanegol hwn ar gael o heddiw ymlaen, a hynny yn y lle cyntaf ar gyfer digwyddiadau lle ceir galw uchel (er enghraifft ar gyfer digwyddiadau fel rasio Fformiwla 1 yn Silverstone neu gemau'r Gymanwlad). Rydym yn bwriadu cynnig y sbectrwm hwn ar gael i’w archebu trwy ein porth ar-lein maes o law. Bydd y sbectrwm yn helpu'r sector i lywio’r ansicrwydd a nodwyd gennym yn ein hadolygiad sbectrwm sector ar gyfer PMSE.
Ionawr 2026 - Diweddariad ar ein hadolygiad o sbectrwm PMSE
Mae Ofcom yn adolygu'r defnydd o sbectrwm gan gymwysiadau PMSE sain a fideo i sicrhau bod ein penderfyniadau rheoli sbectrwm yn parhau i gefnogi'r sector i ddarparu manteision i ddinasyddion y DU a'r economi ehangach.
Rydym bellach wedi cyhoeddi Galwad am Fewnbwn yn gwahodd rhanddeiliaid - gan gynnwys defnyddwyr PMSE a gweithgynhyrchwyr offer - i ddarparu gwybodaeth i lywio ein hadolygiad.
Mai 2022 – Nodyn Atgoffa Pwysig
Cofiwch ein bod yn ceisio prosesu ceisiadau am drwyddedau o fewn tri diwrnod gwaith ond efallai y bydd yn cymryd mwy o amser yn ystod cyfnodau prysur (mis Ebrill i fis Medi). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried yr amserlen hon wrth gyflwyno ceisiadau.
Mae’n ofyniad cyfreithiol bod trwydded Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr yn cael ei rhoi gan Ofcom cyn i chi ddechrau darlledu a bod eich offer yn cael ei weithredu yn unol â’ch trwydded. Mae’r cosbau am ddefnydd heb awdurdod yn amrywio ond gallant gynnwys dirwyon mawr a charchar, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich cais gyda digon o amser i roi’r drwydded briodol ar waith.
Gellir gwneud y rhan fwyaf o geisiadau yn gyflym ac yn effeithlon ar-lein hefyd heb fod angen aros. Tarwch olwg ar y dudalen ‘Gwneud cais am Drwydded Gwneud Rhaglenni a Digwyddiadau Arbennig’ i gael rhagor o wybodaeth neu i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.