Mae'r ddogfen hon yn rhoi hysbysiad bod Ofcom wedi gwneud Rheoliadau Telegraffiaeth Di-wifr (Cyfathrebu Lloeren Uniongyrchol i Ddyfais) (Eithriad) (Diwygio) 2026 (y "Rheoliadau Diwygio").
Mae'r Rheoliadau Diwygio yn diwygio (y "Rheoliadau Eithrio D2D"), a greodd eithriad trwydded ar gyfer ffonau symudol a dyfeisiau eraill â SIM sy'n cysylltu gyda gwasanaethau Uniongyrchol i Ddyfais ("D2D") sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yn y Rheoliadau.
Heddiw, rydym wedi diwygio’r Rheoliadau. Mae'r Rheoliadau’n creu eithriad trwydded newydd ar gyfer ffonau symudol a dyfeisiau eraill â SIM sy'n cysylltu gyda gwasanaethau D2D a ddarperir gan ddefnyddio amleddau penodol yn y band 900 MHz, yn y DU. Mae hyn yn dilyn ein penderfyniad ym mis Ebrill 2026 i gymeradwyo amrywiad trwydded i alluogi VodafoneThree i ddarparu gwasanaethau D2D gan ddefnyddio ei sbectrwm trwyddedig yn 900 MHz.
Mae'r penderfyniad hwn yn dilyn cyfres o ymgynghoriadau a datganiadau sy'n ymwneud â'n dull o awdurdodi gwasanaethau D2D. Mae gwneud y Rheoliadau Diwygio yn gweithredu penderfyniadau polisi Ofcom a nodir yn ein Datganiad ym mis Rhagfyr ynghylch defnyddio ffonau symudol a dyfeisiau eraill sydd â SIM ar gyfer gwasanaethau D2D a ddarperir gan Weithredwr Rhwydwaith Symudol (MNO) mewn partneriaeth â Gweithredwr Lloeren.
Bwriedir i'r rheoliadau hyn ddod i rym ar 10 Gorffennaf 2026.