EC decision 12 june WEB

Penderfyniad gan Bwyllgor Etholiadol Ofcom ar raglen arbennig Question Time y BBC ar Isetholiad Makerfield, 4 Mehefin 2026

Cyhoeddwyd: 12 Mehefin 2026

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi penderfyniad gan Bwyllgor Etholiadol Ofcom ynglŷn â chwyn gan Blaid Restore Britain mewn perthynas â Rhaglen Question Time y BBC ar Isetholiad Makerfield.

Darlledwyd y rhaglen ar BBC News am 9pm ac ar BBC One am 10:45pm ar 4 Mehefin 2026 ac roedd ar gael ar BBC iPlayer – cyn isetholiad Makerfield, sydd i fod i gael ei gynnal ar 18 Mehefin 2026.

Yn ystod cyfnod etholiadol, mae Bwrdd Ofcom yn dirprwyo awdurdod i Bwyllgor Etholiadol Ofcom er mwyn i'r Pwyllgor ystyried cwynion am ddidueddrwydd dyledus. Os bydd cwyn yn cael ei gadarnhau, gall fod angen gwneud yn iawn am hynny cyn yr etholiad.

Yn yr achos hwn, roedd y gŵyn yn ymwneud â phenderfyniad y BBC i beidio â chynnwys Rebecca Shepherd, ymgeisydd sy'n cynrychioli Plaid Restore Britain yn isetholiad Makerfield, ar banel y rhaglen Question Time.

Mater golygyddol i ddarlledwyr unigol yw fformat rhaglenni etholiadol – gan gynnwys penderfyniadau ynghylch y rhai sy’n cael eu gwahodd i gymryd rhan – cyn belled â bod y rhaglen yn cydymffurfio â Chod Darlledu Ofcom. 

Yn ôl ein rheolau ar ddidueddrwydd dyledus, pan fydd darlledwyr yn delio â materion gwleidyddol hynod dadleuol a materion pwysig sy'n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol – fel isetholiadau Seneddol – mae'n rhaid sicrhau didueddrwydd dyledus ac mae’n rhaid cynnwys ystod eang o safbwyntiau arwyddocaol a rhoi pwysau priodol iddynt. Rhaid rhoi sylw dyledus hefyd i bleidiau gwleidyddol yn ystod cyfnod yr etholiad.

Ar ôl ystyried y gŵyn a'r holl dystiolaeth berthnasol ar adeg y darllediad – gan gynnwys cefnogaeth etholiadol bresennol ac yn y gorffennol – mae’r Pwyllgor Etholiadol o’r farn bod y BBC wedi gwneud penderfyniad golygyddol rhesymol i beidio â chynnwys ymgeisydd Plaid Restore Britain yn y rhaglen. Mae'n ystyried bod y rhaglen yn cynnwys ystod eang o safbwyntiau arwyddocaol, ac y rhoddwyd sylw dyledus yn hynny o beth.

Er bod y Pwyllgor wedi canfod nad yw'r BBC wedi torri'r Cod mewn perthynas â rhaglen arbennig Question Time y BBC ar Isetholiad Makerfield ar 4 Mehefin 2026, mae'r Pwyllgor yn cydnabod y dirwedd wleidyddol ddeinamig, sy'n newid yn gyflym. Mae'n atgoffa pob darlledwr, yn ystod unrhyw gyfnod etholiadol, fod angen iddynt adolygu’n barhaus y dystiolaeth newydd berthnasol o'r gefnogaeth etholiadol gyfredol, er mwyn sicrhau bod pwysau priodol a sylw priodol yn cael eu rhoi i bleidiau gwleidyddol.