Mae Ofcom wedi dirymu’r drwydded ddarlledu teledu a ddelid gan Shells for Media Productions Limited ar gyfer Lualua TV, ar ôl dod i’r casgliad nad yw’r cwmni yn addas ac yn briodol i ddal trwydded ddarlledu.
Mae’r penderfyniad yn dilyn pryderon ynghylch cynnwys a oedd ar gael drwy ffrwd fyw ar-lein a chyfrif cyfryngau cymdeithasol Lualua TV, yn ogystal â’r ymatebodd y cwmni i geisiadau Ofcom am wybodaeth.
Wrth gyrraedd ei benderfyniad, ystyriodd Ofcom effaith dirymu’r drwydded ar hawliau’r darlledwr a chynulleidfaoedd i ryddid mynegiant. Nid yw Lualua TV yn darlledu ar hyn o bryd o dan y drwydded ar lwyfannau teledu a reoleiddir yn y DU. Mae dirymu’r drwydded yn golygu na fydd yn gallu darlledu ar lwyfan o’r fath o dan y drwydded hon.
Gallwch ddarllen ein penderfyniad yn llawn isod.
Penderfyniad i ddirymu trwydded – Shells for Media Productions Limited (PDF, 452 KB)