Mae Ofcom wedi rhoi ei ganiatâd i gais gan Sky i ddarparu darllediad byw ecsgliwsif o Gwpan Ryder yn 2025.
Mae Sky UK Limited ("Sky") yn bwriadu darlledu'n fyw o Gwpan Ryder, sydd i fod i gael ei gynnal rhwng 26 a 28 Medi 2025, ar ei sianeli Sky Sports.
Mae'r BBC wedi caffael hawliau i ddarlledu uchafbwyntiau dyddiol o’r Cwpan Ryder ar BBC One neu BBC Two, yn ogystal â darlledu ar un pryd ar BBC iPlayer. Mae gan y BBC hefyd hawliau i ddarparu sylwebaeth radio fyw ar BBC Radio 5 Live a 5 Sports Extra, ymhlith gwasanaethau eraill.
Mae Cwpan Ryder wedi'i ddynodi’n ddigwyddiad rhestredig Grŵp B at ddibenion Deddf Darlledu 1996 ("y Ddeddf"). Felly, mae Sky angen cydsyniad Ofcom i ddarlledu darllediad teledu byw ecsgliwsifo’r digwyddiad a dan adran 101 o'r Ddeddf. Fodd bynnag, pan fydd ail ddarlledwr, yn yr achos hwn y BBC, yn darparu darllediadau eilaidd digonol o ddigwyddiad rhestredig Grŵp B, a bod hawliau i ddarparu darllediadau radio cenedlaethol byw hefyd wedi'u caffael, gall Ofcom roi caniatâd 'awtomatig' i ddarlledu heb ymgynghori.
Mae paragraffau 1.18 i 1.21 o Gôd Ofcom ar Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig Eraill yn nodi bod yn rhaid i'r gwasanaethau a ddarperir gan y ddau ddarlledwr fod mewn gwahanol gategorïau at ddibenion y Ddeddf a darparu mwy o wybodaeth am yr hyn sy'n gyfystyr â sylw eilaidd digonol. Yn yr achos hwn, mae sianeli Sky Sports Sky yn 'wasanaethau nad ydynt gymwys' ac mae sianeli'r BBC yn 'wasanaethau sy’n cymwys'. Mae'r BBC wedi cadarnhau bod yr hawliau y mae wedi'u caffael yn galluogi darparu sylw eilaidd digonol, yn unol â gofynion y Cod.
Ar ôl ystyried y wybodaeth a ddarparwyd gan Sky, a gwybodaeth atodol a ddarparwyd gan y BBC, mae Ofcom wedi penderfynu rhoi caniatâd awtomatig i gais Sky.
Related content