Datganiad: Pencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad 2026

Cyhoeddwyd: 17 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd diwethaf: 4 Chwefror 2026

Mae'r datganiad hwn yn nodi penderfyniad Ofcom yn dilyn ein hymgynghoriad ar geisiadau gan y BBC ac ITV am ganiatâd i ddangos darllediadau byw egsgliwsif o Bencampwriaeth Chwe Gwlad Dynion Rygbi'r Undeb yn 2026 ("Chwe Gwlad 2026").

Gwnaethom ymgynghori rhwng 17 Rhagfyr 2025 a 14 Ionawr 2026 ar geisiadau gan y BBC ac ITV am ganiatâd i ddangos darllediadau byw egsgliwsif o Chwe Gwlad 2026. Disgwylir i'r twrnamaint gael ei gynnal rhwng dydd Iau, 5 Chwefror a dydd Sadwrn, 14 Mawrth 2026.

Esboniodd ein hymgynghoriad ein bod yn bwriadu rhoi caniatâd i'r BBC ac ITV (a thrwyddedeion eraill Channel 3). Gwnaethom nodi ein safbwynt dros dro, sef, er bod y ceisiadau wedi'u gwneud ar y sail na fyddai unrhyw ddarpariaeth eilaidd yn cael ei ddarparu gan wasanaeth nad yw'n gymwys, ymddengys i ni o'r wybodaeth a ddarparwyd gan y BBC ac ITV fod darlledwyr gwasanaethau 'nad ydynt yn gymwys' wedi cael cyfle gwirioneddol i gaffael yr hawliau i ddarlledu eilaidd digonol o Chwe Gwlad 2026. Cawsom un ymateb i'r ymgynghoriad, a oedd yn cefnogi ddarpariaeth arfaethedig y BBC ac ITV.

Mae gemau’r Chwe Gwlad sy'n cynnwys gwledydd cartref wedi'u dynodi, gan yr Ysgrifennydd Gwladol, fel digwyddiadau rhestredig Grŵp B at ddibenion Deddf Darlledu 1996 ("y Ddeddf").[1] O dan y Ddeddf, mae angen caniatâd Ofcom lle byddai gan un categori o wasanaethau teledu hawliau egsgliwsif i ddarllediadau byw o ddigwyddiad rhestredig. Mae'r Ddeddf a Chod Ofcom ar Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig Eraill yn  gwahaniaethu rhwng gwasanaethau 'cymwys' (sianeli darledu am ddim sydd â chyrhaeddiad eang yn y DU) a gwasanaethau 'nad ydynt yn gymwys'. Lle mae'r un hawliau byw yn cael eu dal gan ddarlledwyr yn y ddau gategori, nid yw'r ddarpariaeth yn egsgliwsif, ac nid oes angen caniatâd  Ofcom.

Ar gyfer Chwe Gwlad 2026, mae'r BBC ac ITV/STV yn bwriadu rhannu darllediadau am ddim:

  • Mae'r BBC yn bwriadu darlledu'n fyw o gemau cartref Cymru a'r Alban (ac eithrio gêm gartref yr Alban yn erbyn Lloegr), a gêm oddi cartref yr Alban yn erbyn yr Eidal, ar BBC One neu BBC Two.
  • Mae ITV a STV yn bwriadu darlledu'n fyw o gemau cartref ac oddi cartref Lloegr, a gemau cartref Iwerddon a Ffrainc, ar draws rhwydwaith Channel 3.[2]

Mae gan S4C gytundeb gyda'r BBC ac ITV sy'n ei galluogi i ddangos darllediadau Cymraeg o gemau sy'n cynnwys Cymru.[3] Mae gan y BBC hefyd hawliau i ddarlledu darpariaeth radio fyw o'r holl gemau yn Chwe Gwlad 2026 ar BBC Radio 5 Live a BBC Radio 5 Sports Extra.

Ers i ni gyhoeddi ein hymgynghoriad, cyhoeddwyd bod Premier Sports wedi caffael hawliau i ddarlledu'n fyw o'r un gemau Chwe Gwlad 2026 â'r BBC. Fel yr eglurwyd uchod, nid oes angen caniatâd Ofcom pan fo'r un hawliau i ddarlledu darllediadau byw o ddigwyddiad rhestredig wedi'u caffael gan ddarlledwyr sy'n darparu gwasanaethau yn y ddau gategori ('cymwys' ac 'nad ydynt yn gymwys'). Gan fod Premier Sports (gwasanaeth 'nad yw'n gymwys') wedi cael yr un hawliau byw â'r BBC (gwasanaeth 'cymwys'), nid oes angen caniatâd Ofcom mwyach ar gyfer darllediad y BBC o Chwe Gwlad 2026. (Am yr un rheswm, nid oes angen caniatâd ar ddarllediadau byw Premier Sports.)

Mewn perthynas â darllediadau byw ITV o Chwe Gwlad 2026, mae Ofcom wedi penderfynu rhoi caniatâd. Fel y nodwyd yn yr ymgynghoriad (yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd gan y BBC ac ITV), ymddengys i ni fod darlledwyr gwasanaethau nad ydynt yn gymwys wedi cael cyfle gwirioneddol i gaffael hawliau i ddarllediadau eilaidd digonol, ac rydym yn nodi y bydd darllediadau arfaethedig y BBC ac ITV yn sicrhau bod darllediadau byw o'r twrnamaint yn parhau i fod ar gael am ddim i gynulleidfaoedd ledled y DU.


[1] Ar gyfer digwyddiadau rhestredig Grŵp B, nod y rheolau digwyddiadau rhestredig yw sicrhau bod darpariaeth (ond nid o reidrwydd darllediad byw) ar gael yn eang i gynulleidfaoedd am ddim. I'r perwyl hwn, mae'r Cod ar Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig Eraill yn nodi y bydd Ofcom yn rhoi ei ganiatâd i ddarlledwr sy'n darparu gwasanaeth mewn un categori (hynny yw, naill ai gwasanaeth cymwys neu wasanaeth nad yw'n gymwys), gael hawliau darlledu byw egsgliwsif i ddigwyddiad os oes darpariaeth ddigonol wedi'i gwneud ar gyfer darlledu eilaidd gan ddarlledwr sy'n darparu gwasanaeth yn y categori arall, a bod hawliau i ddarparu sylwebaeth radio fyw hefyd wedi'u caffael.

[2] Nid yw'r gêm a chwaraeir rhwng Ffrainc a'r Eidal yn ddigwyddiad rhestredig at ddibenion y Ddeddf.

[3] Nid oes angen caniatâd Ofcom ar S4C ar gyfer y darllediad hwn gan y bydd pob un o'r gemau hyn hefyd yn cael eu darlledu gan y BBC neu ITV. Gan fod S4C yn wasanaeth nad yw'n gymwys (at ddibenion y Ddeddf), a bod darllediadau'r BBC ac ITV i'w ddarlledu ar wasanaethau cymwys, mae'r eithriad yn adran 101(1) o'r Ddeddf yn gymwys.