Adolygiad o reoleiddio darlledu

Cyhoeddwyd: 20 Tachwedd 2025
Ymgynghori yn cau: 29 Ionawr 2026
Statws: Datganiad ar y gweill (Wedi'i Gau)
Diweddarwyd diwethaf: 8 Medi 2026

Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddwyd ein hadolygiad o’r Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSM) Argyfwng Darlledu, sy'n nodi ein barn ar sut gall diwydiant, y Llywodraeth ac Ofcom gefnogi dyfodol cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus.

Yn yr adolygiad, gwnaethom gydnabod bod y Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus (PSBs) – y BBC, ITV, STV, Channel 4, Channel 5 ac S4C – yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y DU drwy ddarparu newyddion sy’n hygyrch i bawb, dibynadwy a chynnwys unigryw o’r DU sy'n adlewyrchu amrywiaeth y genedl. Trwy hysbysu cynulleidfaoedd a dwyn sefydliadau i gyfrif a chynnig rhaglenni diwylliannol a chwaraeon, mae'r PSBs yn cefnogi cyfranogiad democrataidd a chydlyniant cymdeithasol; hebddynt, byddai gan y DU llai o gynnwys domestig ac yn wynebu risgiau mwy o ddarnio a pholareiddio cymdeithasol.

Yn Argyfwng Darlledu argymhellwyd chwe cham allweddol ar gyfer darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus (PSBs), platfformau rhannu fideo (VSPs), cyfryngau cymdeithasol, y Llywodraeth ac Ofcom. Un o'r argymhellion hyn oedd bod PSBs a VSPs fel YouTube yn cydweithio er mwyn sicrhau y gall cynulleidfaoedd weld a dod o hyd i gynnwys cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus yn hawdd, yn enwedig newyddion dibynadwy a rhaglenni plant y DU sy'n cefnogi dysgu a datblygiad cynulleidfaoedd ifanc. Thema ganolog ehangach oedd yr angen am fframwaith rheoleiddio modern a symlach sy'n adlewyrchu realiti marchnad gyfryngau sy'n newid yn gyflym. Dadleuom y bydd lleihau beichiau rheoleiddio diangen yn hanfodol i gynnal sector darlledu iach a ffyniannus yn y DU a chefnogi cynaliadwyedd y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fel y gallant barhau i ddarparu ar gyfer pob cynulleidfa. Tanlinellom bwysigrwydd eglurder brys gan y Llywodraeth ar ddyfodol dosbarthu teledu.

Mae’r datblygiadau ers cyhoeddi Argyfwng Darlledu yn tanlinellu cyflymder y newid ar draws y sector cyfryngau a'r pwysau ariannol a strwythurol parhaus sylweddol y mae darlledwyr y DU yn eu hwynebu. Yn ddiweddar, tynnodd y BBC sylw at bwysau ariannol cynyddol sy'n gysylltiedig â'r angen i ailgyfeirio buddsoddiad i wasanaethau digidol yn gyntaf i ddarparu'n well ar gyfer pob cynulleidfa yn ogystal â chostau cynyddol a'r cyfyngiadau ar gyllid traddodiadol. Yn ddiweddar, cyhoeddodd raglen arbed costau a chyhoeddiadau am doriadau swyddi sylweddol a gostyngiadau mewn gwasanaethau. Ar yr un pryd, mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol wedi dadlau bod y trawsnewidiad cyflym yn sut a ble mae cynulleidfaoedd yn gweld cynnwys wedi rhoi straen sylweddol ar eu refeniw ac o ganlyniad mae rhwymedigaethau rheoleiddio presennol yn dod yn anoddach i'w cynnal. Mewn ymateb, mae Channel 4 wedi parhau i ganolbwyntio ar reoli costau, arallgyfeirio refeniw a thwf mewn hysbysebu digidol a ffrydio fel rhan o'i strategaeth drawsnewid hirdymor, tra yn yr Alban, mae newidiadau wedi'u gwneud i drwyddedau STV i roi ei weithrediad newyddion ar sail fwy cynaliadwy wrth iddo barhau i fuddsoddi mewn darpariaeth newyddion digidol. Mae'r sector hefyd wedi gweld mwy o gydgrynhoi fel ymateb i'r pwysau hwn yn y farchnad, gan gynnwys Sky yn cytuno ar delerau i gaffael isadran Cyfryngau ac Adloniant ITV a chaffeiliad arfaethedig Paramount o Warner Brothers Discovery.

Gyda’i gilydd, mae'r datblygiadau hyn yn tynnu sylw at sector sy'n canolbwyntio'n gynyddol ar gynaliadwyedd ariannol, effeithlonrwydd gweithredol, cydgrynhoi a thrawsnewid digidol, tra’n parhau i gydbwyso'r blaenoriaethau hyn â chyflenwi cynnwys gwasanaeth cyhoeddus. Mae'r datblygiadau hyn hefyd wedi atgyfnerthu'r achos dros ddiwygio rheoleiddio ac wedi tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod rheoleiddio yn cefnogi arloesedd, buddsoddiad a chynaliadwyedd hirdymor. 

Yn dilyn Argyfwng Darlledu, a’n ymwybodol ofalgar o'r datblygiadau hyn, rydym wedi bod yn ymgysylltu â'r Llywodraeth a rhanddeiliaid i ddatblygu ein hargymhellion, yn enwedig mewn perthynas â symleiddio rheoleiddio a gallu cynulleidfaoedd i gael mynediad at gyfryngau gwasanaethau cyhoeddus ar y platfformau trydydd parti y maent yn troi atynt fwyfwy.

Darganfyddadwyedd cynnwys cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus ar blatfformau trydydd parti

Mae llawer o'r tueddiadau a amlygwyd gennym y llynedd yn parhau heb eu lleihau: er enghraifft, gwylio YouTube sydd wedi tyfu’r cyflymaf ymhlith gwylwyr hŷn ac ar y teledu. Mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi cymryd camau pellach i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar blatfformau trydydd parti, gyda mentrau diweddar gan gynnwys BBC yn nodi symudiad ehangach tuag at gynnwys a dosbarthiad sy’n frodorol i blatfform. Rydym wedi comisiynu ymchwil newydd ac wedi cynnal amrywiaeth o ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddeall y newidiadau hyn a'u goblygiadau ar gyfer cynnwys cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus ar-lein yn well. Awgryma ein canfyddiadau cychwynnol, a nodir yma, bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi sefydlu presenoldeb ystyrlon ar YouTube, yn enwedig ymhlith cynulleidfaoedd iau, a bod brandiau newyddion PSB yn parhau i fod ymhlith y darparwyr newyddion mwyaf ar y platfform yn ôl cyrhaeddiad.

Ar yr un pryd, mae ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid yn tynnu sylw at gyfleoedd a heriau i gyfryngau gwasanaethau cyhoeddus. Mae rhannu fideo a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill yn darparu ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd a phrofi a datblygu strategaethau newydd. Fodd bynnag, maent hefyd yn dwysáu cystadleuaeth am sylw ac yn ei gwneud hi’n ofynnol i ddarparwyr addasu i ymddygiadau cynulleidfaoedd ac amgylcheddau platfform sy'n newid yn gyflym. Byddwn yn parhau i adeiladu ein sylfaen dystiolaeth trwy ymchwil cynulleidfaoedd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn dyfnhau ein dealltwriaeth o sut mae cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn cael eu darganfod a'u defnyddio ar-lein.

Adolygiad o Reoleiddio Darlledu

Ym mis Tachwedd 2025, gwnaethom gyhoeddi Galwad am Fewnbwn yn gofyn am farn ar y blaenoriaethau ar gyfer diwygio rheoleiddio a darparu cynnwys cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Roedd yr ymatebion a gawsom yn amrywio o ran yr hyn oeddent yn canolbwyntio arno ond yn dangos cydnabyddiaeth eang bod angen moderneiddio'r fframwaith rheoleiddio presennol. Tynnodd rhanddeiliaid sylw at gyfleoedd i gael gwared ar ofynion sydd wedi dyddio, symleiddio prosesau gweinyddol a darparu mwy o hyblygrwydd i ddarlledwyr, gan barhau i ddiogelu cynulleidfaoedd a chefnogi'r gwaith o ddarparu canlyniadau gwasanaeth cyhoeddus.

Mae'r ymatebion hyn yn helpu i lunio ein blaenoriaethau i newidiadau y gallwn eu gwneud i'r fframwaith rheoleiddio presennol ac yn ein hymgysylltiad â'r Llywodraeth ar ddiwygio deddfwriaethol hirdymor. Yn y pen draw, ein amcan yw sicrhau bod rheoleiddio’n parhau i fod yn gymesur, wedi'i dargedu a’n effeithiol, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na phrosesau ac osgoi gofynion nad ydynt bellach yn gwasanaethu pwrpas clir er budd y cyhoeddus. Wrth i gynulleidfaoedd ddefnyddio cyfryngau fwyfwy ar draws ystod o blatfformau digidol, byddwn yn asesu a yw'r rhwymedigaethau presennol yn parhau i fod yn briodol, a ddylai fod cysondeb ar draws dulliau dosbarthu, a lle gallai mwy o hyblygrwydd helpu i gefnogi buddsoddiad mewn cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnal amddiffyniadau cryf i gynulleidfaoedd ac atebolrwydd effeithiol darparwyr cyfryngau.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Llywodraeth Papur Gwyrdd – Watch This Space – sy'n nodi cyfeiriad strategol newydd ar gyfer Cyfryngau'r DU, gan dynnu ar lawer o'r argymhellion o'n hadolygiad cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus a'n hadroddiad ar ddyfodol dosbarthu teledu. O fewn y papur hwn, cadarnhaodd y Llywodraeth ei bwriad i ddiffodd teledu Daearol Digidol (DTT) naill ai yn 2034 neu 2044 a chydnabod, yn y hirdymor, bod angen diwygio’r fframwaith rheoleiddio i adlewyrchu amgylchedd cwbl ddigidol. Cododd y papur ymhellach bwysigrwydd lleihau baich gweinyddol rheoleiddio ar fusnesau er mwyn hyrwyddo arloesedd a thwf, gan gynnal amddiffyniadau cryf i gynulleidfaoedd ac atebolrwydd effeithiol darparwyr cyfryngau.

Rydym yn croesawu Papur Gwyrdd y Llywodraeth ac yn cydweithio i ddatblygu cynigion mewn meysydd a allai fod angen newidiadau deddfwriaethol arnynt. Gallai hyn gynnwys mewn perthynas â sut mae'r system drwyddedu yn gweithio, pwy sy'n ddarostyngedig i safonau cynnwys a gofynion hygyrchedd, a sut mae'r rheoliad hwn yn gweithio’n ymarferol. Gall hefyd gynnwys mesurau i gefnogi darpariaeth hirdymor cynnwys cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig ar ôl i'r trwyddedau presennol ddod i ben ar ddiwedd 2034. Mae'r rhain i gyd yn feysydd a amlygwyd gan randdeiliaid mewn ymateb i'n Galwad am Fewnbwn a lle mae achos clir bod angen diwygio.

Mae meysydd eraill lle gallwn wneud rhai newidiadau i'n rheoleiddio heb yr angen am ddeddfwriaeth, er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd gan randdeiliaid, yn enwedig ein rheolau ar hysbysebu a chyfeiriadau masnachol. Rydym yn bwriadu cyhoeddi ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r rheolau hyn erbyn diwedd mis Mawrth 2027. Mae'n debygol y bydd meysydd eraill lle gellir lleihau'r baich gweinyddol ar ddarparwyr cyfryngau. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein ffordd o feddwl yn y meysydd hyn ac yn ymgynghori ar unrhyw newidiadau a gynigwn faes o law.

Ein amcan yw darparu fframwaith rheoleiddio sy'n symlach, yn fwy hyblyg ac sy'n cyd-fynd yn well â'r ffordd y mae cynulleidfaoedd bellach yn gwylio ac yn gwrando ar gynnwys. Byddwn yn gweithredu lle gallwn o dan ein pwerau presennol, byddwn yn cynghori'r Llywodraeth lle mae angen deddfwriaeth, ac fe fyddwn yn parhau i weithio gyda diwydiant a chynulleidfaoedd i gefnogi dyfodol cryf i gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.

Beth nesaf

Rydym wedi ymrwymo i barhau â'n gwaith yn y maes hwn er mwyn sicrhau bos sector darlledu cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus a darlledu yn gynaliadwy yn y DU ac yn parhau i wasanaethu cynulleidfaoedd y DU. Felly, byddwn yn:

  • Parhau i weithio gyda'r Llywodraeth i ddatblygu cynigion ar gyfer diwygio deddfwriaethol;
  • Cyhoeddi ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i reolau hysbysebu, nawdd a lleoli cynnyrch erbyn diwedd mis Mawrth 2027;
  • Parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod unrhyw newidiadau arfaethedig yn cefnogi cynulleidfaoedd a sector darlledu cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus a’r DU cynaliadwy;
  • Parhau i gryfhau ein sylfaen dystiolaeth, gan gynnwys gwella mesur cynulleidfaoedd, dyfnhau ein dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n sbarduno gwelededd ac ymgysylltiad a chynnal ymchwil pellach i ddisgwyliadau ac agweddau cynulleidfaoedd tuag at gynnwys ar-lein.

Mae tirwedd cyfryngau'r DU yn trawsnewid yn gyflym. Mae'n hanfodol nad yw rheoleiddio yn cyfyngu ar arloesedd nac yn atal buddsoddiad mewn cynnwys darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ac yn cefnogi cynulleidfaoedd ble bynnag y maent yn gwylio ac yn gwrando ar gynnwys.

Wrth i gewri technoleg fyd-eang orlifo'r farchnad gydag ystod gynyddol o gynnwys, mae darlledwyr traddodiadol mewn brwydr ffyrnig am sylw’r gynulleidfa, gyda dewisiadau gwylio ar-lein yn cael eu gyrru fwyfwy gan algorithmau. Mae cynulleidfaoedd yn llai tebygol o gael eu hamlygu i ehangder cynnwys y DU y mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei ddarparu, megis newyddion a rhaglenni dibynadwy a chywir sy'n cynrychioli amrywiaeth cenhedloedd a rhanbarthau'r DU ac yn dod â'r wlad at ei gilydd.

Yn yr amgylchedd cynyddol ddeinamig a heriol hwn, mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chael hi'n anoddach ariannu cynhyrchu a dosbarthu cynnwys o ansawdd uchel yn y DU i bob cynulleidfa. Mae hyn hefyd yn effeithio ar sector cynhyrchu'r DU – yn enwedig cwmnïau cynhyrchu llai a'r rhai yn y gwledydd a'r rhanbarthau.

Yn ein hadolygiad diweddar o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus – Argyfwng Darlledu – fe wnaethom alw am weithredu brys i gryfhau a chynnal cynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Roedd argymhellion ar gyfer y sector, y Llywodraeth ac Ofcom, gan gynnwys ymrwymiad gan Ofcom i edrych ar ddileu rheoleiddio sydd wedi dyddio.

Mae'r alwad am fewnbwn yn gofyn i randdeiliaid am eu barn ar sut mae angen i reoleiddio esblygu yn y tymor byr a hir dymor. Lle bo modd, darparwch dystiolaeth o reoleiddio nad yw bellach yn briodol o ystyried newidiadau ehangach yn y farchnad neu lle mae'n effeithio'n andwyol ar gynulleidfaoedd, arloesedd, cystadleuaeth neu ddarpariaeth cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol. Pan fyddwn yn ystyried y gallai fod angen newidiadau i'n rheoliadau, byddwn yn ymgynghori ar unrhyw addasiadau arfaethedig i'n rheolau. Efallai y bydd meysydd lle byddai angen newid deddfwriaethol, a byddwn yn trafod y rhain gyda'r Llywodraeth.

Ymatebion

Gwybodaeth cyswllt

Cyfeiriad

Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA