Gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth


O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth), mae'n ofynnol i ni ddarparu gwybodaeth sydd gennym, oni bai bod eithriad yn berthnasol.

Nid yw'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni greu gwybodaeth na chasglu rhestrau o wahanol ffynonellau. Nid yw'n ofynnol i ni ychwaith roi cyngor na barn, er y byddwn yn gyffredinol yn ceisio rhoi gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd i chi a allai fod o gymorth neu nodi sefydliadau eraill a allai helpu.

Os yw cais yn ymwneud â'r amgylchedd, mae'n ofynnol i ni ymdrin ag ef o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR) er ei fod wedi'i gyflwyno fel cais Rhyddid Gwybodaeth.

Beth allaf ofyn amdano?

Gallwch ofyn am unrhyw beth sy'n ymwneud â chylch gwaith Ofcom. Ond gofynnir i chi chwilio neu bori'r wefan hon yn gyntaf, i wirio a yw'r wybodaeth eisoes ar gael.

Gallwch ddarllen ein hymatebion i geisiadau blaenorol. Rydym hefyd yn cynnal cynllun cyhoeddi, a allai eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r math o wybodaeth sydd gennym a gallwn ei rhyddhau.

Rydym yn ceisio bod mor dryloyw â phosib a sicrhau bod gwybodaeth ar gael heb fod angen gwneud cais amdani.

Fodd bynnag, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gallwn ddal gwybodaeth benodol yn ôl, er enghraifft:

  • os yw'n fasnachol sensitif neu'n gyfrinachol;
  • os gellid dadlau bod ei datgelu'n gyfystyr ag ymosodiad di-sail ar breifatrwydd; neu
  • os gallai effeithio ar ein hangen am gyfnewid barn neu drafod yn rhydd a di-flewyn ar dafod ac y byddai'n llesteirio gallu Ofcom i gyflawni ein dyletswyddau rheoleiddio.

Gallwn hefyd wrthod rhyddhau gwybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi ar ddyddiad dilynol.

Os byddwch yn gofyn am wybodaeth yr ydym yn ei hystyried ei bod wedi'i heithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, byddwn yn esbonio pam yr ystyriwn fod eithriad yn berthnasol.

Sut mae cyflwyno cais?

Llenwch y ffurflen Rhyddid Gwybodaeth i wneud cais am wybodaeth.

Gallwch yrru e-bost atom hefyd yn information.requests@ofcom.org.uk

Byddwn yn ateb eich cais trwy eich cyfeiriad e-bost.

Os oes angen help neu gyngor arnoch i ddod o hyd i wybodaeth, gallwch ffonio Canolfan Gyswllt Ofcom ar:

Ffôn: 0300 123 3333
Ffôn testun: 020 7981 3043
Llinell Gymraeg: 0300 123 2023

Pryd bynnag y bo’n bosib, byddwn yn darparu gwybodaeth mewn fformat hygyrch.

Cyflwyno cais trwy gyfryngau cymdeithasol

Gallwch gyflwyno cais rhyddid gwybodaeth i ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn neu Instagram. Os ydych am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyflwyno cais, cofiwch:

  • dagio Ofcom ar y llwyfan cyfryngau cymdeithasol i anfon hysbysiad o'n cais atom (os hoffech wneud cais yn Gymraeg, ein cyfrif Twitter Cymraeg yw @OfcomCymraeg)
  • cynnwys eich enw llawn a'ch cwestiwn; a
  • nodi 'FOI' unrhyw le yn eich neges.

Bydd ein tîm cyfryngau cymdeithasol yn cydnabod eich postiad ac yn ymateb fel y bo'n briodol.

Noder, er ein bod yn derbyn ceisiadau trwy gyfryngau cymdeithasol, efallai y byddwn yn gofyn am gyfeiriad e-bost er mwyn delio â'ch cais, neu i ddilysu bod y cais yn dod gan 'berson go iawn'. Mae hyn yn gweddu i ganllawiau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Ni allwn gyhoeddi ein llythyr penderfyniad Rhyddid Gwybodaeth yn uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol. Yn lle, byddwn yn cyhoeddi copi o'r llythyr ar ein gwefan ac yn darparu dolen i'r llythyr hwnnw wrth ymateb i'ch postiad ar gyfryngau cymdeithasol.

Faint mae'n ei gostio?

Yn y rhan fwyaf o achosion mae ceisiadau'n rhad ac am ddim. Fodd bynnag, os ydych yn gwneud cais am faint sylweddol o wybodaeth sy’n gofyn am lawer o waith argraffu, llungopïo neu fformatio, rydym yn cael codi ffi fach i dalu am y costau hyn. Byddwn bob amser yn dweud wrthych chi os ydym yn debygol o godi ffi.

Faint fydd yn cymryd i glywed yn ôl?

Byddwn yn ymateb i chi ynglŷn â'ch cais o fewn 20 niwrnod gwaith o'i dderbyn.