Hysbyseb ar-lein

Mae hysbysebion ar-lein yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA), rheoleiddiwr hysbysebu annibynnol y DU. Cysylltwch â nhw yn uniongyrchol i gwyno am hysbyseb rydych chi wedi’i gweld ar-lein.

Hysbysebu twyllodrus

Os ydych chi’n credu bod hysbyseb ar-lein yn sgam, gallwch roi gwybod amdani i ASA.

Os ydych chi'n gweld rhywbeth sy'n peri pryder i chi ar wasanaeth ar-lein, dylech gwyno’n uniongyrchol i'r gwasanaeth ar-lein yn gyntaf oherwydd dylai allu eich helpu. Os ydych chi wedi rhoi gwybod am gynnwys a’ch bod yn dal yn bryderus nad oes camau wedi cael eu cymryd, gallwch ddweud wrth Ofcom.

Ni allwn ymateb i gwynion unigol nac ymchwilio iddynt

Er na allwn ymateb i’ch cwyn, bydd yn ein helpu i asesu a yw gwasanaethau wedi’u rheoleiddio yn gwneud digon i ddiogelu eu defnyddwyr – ac a ddylai Ofcom gymryd unrhyw gamau.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef sgam neu dwyll ar-lein

Cysylltwch ag Action Fraud os ydych chi’n meddwl eich bod wedi colli arian neu wedi cael eich hacio o ganlyniad i hysbyseb ar-lein.

Os ydych chi yn Yr Alban ac wedi colli arian oherwydd hysbyseb ar-lein, rhowch wybod i Police Scotland am y drosedd.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?