Ymgynghoriad: Adolygiad o godi prisiau'n unol â chwyddiant

  • Dechrau: 12 Rhagfyr 2023
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 13 Chwefror 2024

Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi cynlluniau Ofcom ar gyfer mesurau newydd i ddiogelu'r prisiau y mae defnyddwyr yn eu talu ym maes telathrebu, gan gynnwys gwaharddiad ar godi prisiau'n unol â chwyddiant mewn ffordd ansicr yn y dyfodol.

Pan fydd pobl yn ymrwymo i gontract ffôn, band eang neu deledu-drwy-dalu, dylent fod yn glir ac yn sicr ynghylch yr hyn y bydd yn rhaid iddynt ei dalu drwy gydol ei gyfnod. Nid yw hyn bob amser wedi digwydd, oherwydd bod nifer cynyddol o delerau contract cwmnïau'n caniatáu codi prisiau blynyddol taliadau mewn-contract cwsmeriaid yn unol â chwyddiant y dyfodol mewn, ynghyd â chanran ychwanegol, fel arfer 3.9%.

Rydym yn pryderu bod telerau codi prisiau'n unol â chwyddiant nid yn unig yn ei gwneud hi'n anodd i bobl ddod o hyd i’r fargen orau, ond eu bod hefyd yn gwneud cystadleuaeth yn llai effeithiol. At hynny, maent yn ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid ysgwyddo risg a baich ansicrwydd ariannol o chwyddiant, gydag effeithiau gwirioneddol ar eu gallu i reoli costau.

Rydym yn cynnig gwahardd cwmnïau telathrebu rhag darparu ar gyfer codi prisiau'n unol â chwyddiant a chodi prisiau sydd wedi'u nodi mewn termau canrannol mewn contractau. Yn hytrach, lle mae contractau cwmnïau'n darparu mewn unrhyw ffordd ar gyfer codi'r pris yn ystod cyfnod y contract, rhaid i gwmnïau nodi hyn ymlaen llaw mewn punnoedd a cheiniogau.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatenion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 99.4 KB) (Saesneg yn unig)


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig


Ymatebion

Dim ymatebion i’w dangos.