Cais am fewnbwn: Dyfodol y gwasanaeth post cyffredinol

  • Dechrau: 24 Ionawr 2024
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 03 Ebrill 2024

Mae gwasanaethau post yn parhau i fod yn arf cyfathrebu hanfodol i lawer o bobl a busnesau, ond mae’r ffordd mae pobl yn defnyddio gwasanaethau post wedi newid yn sylweddol. Ers pasio’r Ddeddf Gwasanaethau Post yn 2011, mae’r rhwymedigaethau cyfreithiol ar y darparwr gwasanaeth cyffredinol, y Post Brenhinol, wedi aros yr un fath i raddau helaeth, gyda nifer y llythyrau wedi haneru, a danfon parseli wedi dod yn fwyfwy pwysig.

Fel rheoleiddiwr post y DU, mae Ofcom yn goruchwylio’r gwasanaeth post cyffredinol, gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion pobl ar yr un pryd ag ystyried ei gynaliadwyedd ariannol a’i effeithlonrwydd. Mae’n ofynnol i’r Post Brenhinol ddarparu’r gwasanaeth cyffredinol, ac mae ei rwymedigaethau’n cynnwys cynnig danfon llythyrau o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a pharseli o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ogystal â chynnig dau gyflymder danfon ar gyfer ei brif gynnyrch gwasanaeth cyffredinol: Dosbarth Cyntaf (y diwrnod nesaf) ac Ail Ddosbarth (o fewn tri diwrnod). Nid yw’r rhwymedigaethau hyn wedi newid ers 2011, er gwaethaf newidiadau sylweddol yn y marchnadoedd post.

Mae’r ddogfen hon yn nodi tystiolaeth sy’n awgrymu bod angen i’r gwasanaeth cyffredinol newid er mwyn cyd-fynd yn well ag anghenion defnyddwyr a sicrhau y gall barhau i fod yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy yn y dyfodol. Rydym yn gofyn am fewnbwn gan bob parti sydd â diddordeb ar ein hasesiad, er mwyn cael trafodaeth gyhoeddus wybodus ynghylch sut y dylid moderneiddio’r fanyleb ar gyfer y dyfodol.


Prif ddogfennau

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Action with Communities in Rural England (PDF File, 103.7 KB) Sefydliad
Advisory Committee for Northern Ireland (PDF File, 159.8 KB) Sefydliad
Advisory Committee for Scotland (PDF File, 262.6 KB) Sefydliad
Caroline Lucas MP (PDF File, 54.7 KB) Ymateb
Catherine West MP (PDF File, 446.0 KB) Ymateb