Ymgynghoriad ar hysbysiadau diwedd contract a gorffen contract
- Dechrau: 31 Gorffennaf 2018
- Statws: Ar gau
- Diwedd: 09 Hydref 2018
Yn yr ymgynghoriad hwn, rydyn ni wedi cyflwyno cynigion i osod rheolau newydd a fydd yn mynnu bod darparwyr cyfathrebiadau yn anfon hysbysiad at eu cwsmeriaid pan fyddan nhw’n agosáu at ddiwedd cyfnod sylfaenol eu contract. Rydyn ni hefyd yn cynnig rheol newydd a fydd yn mynnu bod darparwyr yn anfon hysbysiad un-tro at eu cwsmeriaid sydd wedi gorffen cyfnod sylfaenol eu contract yn barod, pan nad oedd y cwsmeriaid hyn wedi cael gwybod am hynny ar y pryd. Bydd yr hysbysiadau hyn yn cael eu hanfon at gwsmeriaid preswyl a busnesau bach (deg unigolyn neu lai).
Ym mis Ebrill 2018, fe wnaethom gyhoeddi y byddai ein gwaith ymgysylltu â defnyddwyr yn canolbwyntio ar hysbysiadau diwedd contract. Mae’r ddogfen hon yn nodi ein canfyddiadau, ac yn gwahodd rhanddeiliaid i gyflwyno safbwyntiau ar ein cynigion.
Diweddariad 15 Mai 2019: cyhoeddi datganiad
Rydyn ni wedi cyhoeddi datganiad heddiw am helpu cwsmeriaid i gael gwell bargeinion yn dilyn ymgynghoriad pellach wnaethon ni agor yn Rhagfyr 2018.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
Andrew Griffiths (PDF File, 484.8 KB) | Ymateb |
BT (PDF File, 1.2 MB) | Sefydliad |
Citizens Advice (PDF File, 108.8 KB) | Sefydliad |
Communications Consumer Panel and ACOD (PDF File, 94.6 KB) | Sefydliad |
Consumer Forum for Communications (CFC) (PDF File, 248.3 KB) | Sefydliad |