Ymgynghoriad: Adnewyddu trwyddedau amlblecs radio cenedlaethol
- Dechrau: 09 Mehefin 2022
- Statws: Ar gau
- Diwedd: 21 Gorffennaf 2022
Bydd y trwyddedau amlblecs radio cenedlaethol sy’n cael eu dal gan Digital One a Sound Digital yn dod i ben yn 2023 a 2028 yn y drefn honno. Eleni, mae Llywodraeth y DU wedi pasio deddfwriaeth sy’n rhoi’r pŵer i Ofcom adnewyddu’r trwyddedau hyn tan 2035.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi ein cynigion ar gyfer y penderfyniadau rydym yn bwriadu eu gwneud wrth adnewyddu’r trwyddedau hyn:
- rydym yn cynnig na fyddem yn gosod unrhyw rwymedigaethau darpariaeth ychwanegol nac yn mynnu bod cynllun technegol newydd yn cael ei ddarparu wrth adnewyddu’r trwyddedau;
- rydym yn cynnig na fyddem yn mynnu bod y trwyddedeion yn darparu cynigion newydd ar gyfer sut byddent yn hyrwyddo neu’n helpu i brynu cyfarpar radio digidol;
- ein dewis ni fyddai peidio â gosod cyfradd PMR ar gyfer tymor newydd y trwyddedau, gan gydnabod y byddai ein hymagwedd yn gofyn am gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a allai ein cyfarwyddo ynghylch y gyfradd PMR i’w gosod.
Prif ddogfennau

Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
Arqiva (PDF File, 704.7 KB) | Sefydliad |
Boom Radio (PDF File, 200.8 KB) | Sefydliad |
British Forces Broadcasting Service (PDF File, 115.5 KB) | Sefydliad |
Children's Radio UK (PDF File, 427.3 KB) | Sefydliad |
Herbert J (PDF File, 412.3 KB) | Ymateb |