8 Hydref 2020

Pobl y DU yn siarad yn hirach yn ystod y cyfnod clo

  • Roedd pobl wedi treulio tua 50% yn hirach ar eu ffôn symudol yn ystod dechrau’r cyfnod clo oherwydd y coronafeirws, yn ôl ymchwil gan Ofcom
  • Roedd defnyddio signalau symudol wedi symud o ganol trefi i’r maestrefi, wrth i filiynau weithio gartref
  • Roedd llawer mwy o sgyrsiau symudol mewn parciau ac yn yr awyr agored, wrth i bobl geisio treulio mwy o amser yn yr awyr agored
  • Gallai pobl gysylltu â rhwydwaith 4G 80% o'r amser pan roedden nhw wedi ceisio gwneud hynny
  • Roedd yr amser a gafodd ei dreulio ar alwadau symudol wedi codi’n sylweddol eleni, wrth i bobl droi at eu ffonau symudol i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid ac i weithio gartref.

    Mae ail adroddiad Materion Symudol Ofcom yn dadansoddi sut roedd oddeutu 200,000 o bobl wedi defnyddio eu ffonau symudol Android rhwng mis Ionawr a mis Ebrill eleni, gan daflu goleuni ar sut mae pobl yn gwneud galwadau ac yn mynd ar-lein pan fyddant yn mynd yma ac acw.

    Mae'r adroddiad yn datgelu gwahaniaethau mawr yn sut roedd pobl yn defnyddio eu ffonau cyn ac yn ystod dechrau cyfnod clo Covid-19.

    Roedd yr alwad symudol gyfartalog yn ystod wythnosau cyntaf y cyfnod clo yn para tua phum munud a hanner – bron i ddau funud yn hirach na cyn dechrau’r cyfnod clo ar gymdeithasu ac ar weithio.

Darlun yn dangos hyd galawadau symudol ar gyfartaledd cyn y cyfnod clo sef 3m 40 e ac yn ystod y cyfnod clo sef 5m 26 e

Ond yn fwy cyffredinol, nid yw nifer o bobl yn defnyddio eu ffôn symudol ar gyfer galwadau traddodiadol o gwbl. Mae data Ofcom yn dangos nad oedd dros un o bob pump (22%) wedi gwneud na derbyn yr un alwad ar eu rhwydwaith symudol yn ystod 11 wythnos gyntaf y flwyddyn. Efallai fod y cynnydd mewn gwasanaethau cyfathrebu mwy diweddar fel WhatsApp, Zoom ac eraill yn egluro hyn yn rhannol – boed hynny ar gyfer galwadau, negeseuon gwib neu alwadau fideo grŵp.

Nid oedd cyfran y bobl nad oedden nhw’n gwneud galwadau wedi newid cyn ac yn ystod y cyfnod clo, sy’n awgrymu ei bod yn well gan rai pobl ddefnyddio gwasanaethau gwahanol i gyfathrebu.

Ffonau symudol yn mynd allan i’r awyr agored

Roedd y coronafeirws hefyd wedi newid lle mae pobl yn defnyddio eu ffôn symudol. Roedd gweithgarwch symudol yng nghanol prifddinasoedd y DU wedi disgyn yn ddramatig ar ddechrau’r cyfnod clo – wrth i bobl symud i ffwrdd o swyddfeydd i weithio gartref.

Roedd Caerdydd (-26%), Belfast, Caeredin a Llundain (i gyd -33%) wedi gweld gostyngiadau sydyn mewn gweithgarwch symudol, yn enwedig mewn ardaloedd mwy canolog, tra bod mwy o weithgarwch symudol mewn ardaloedd maestrefol a gweledig wrth i bobl dreulio rhagor o amser yn eu hardaloedd lleol.

Mae ein hymchwil hefyd yn dangos sut roedd rhai pobl wedi defnyddio dechrau’r cyfnod clo i fanteisio ar y cyfle i fynd allan a mwynhau ardaloedd gwyrdd a thawel eu hardaloedd. Er enghraifft, gwelsom gynnydd mewn gweithgarwch symudol mewn rhannau o Barc Richmond yn Llundain, Blackford Hill yng Nghaeredin, Parc Sir Thomas and Lady Dixon ger Belfast; a phentrefan arfordirol Larnog yng Nghymru.

Darlun yn dangos cynnydd mewn cysylltiadau wifi a'r gostyngiad mewn cysylltiadau symudol ym mhrifddinasoedd y DU. Roedd cysylltiadau symudol ymhob un ag eithrio Caerdydd (26%) wedi gostwng 33%. Roedd cysylltiadau wifi wedi codi ymhob un.

Dywedodd Ian Macrae, Cyfarwyddwr Gwybodaeth am y Farchnad yn Ofcom: “Mae cadw mewn cysylltiad yn bwysicach nag erioed ac mae ein dadansoddiad yn rhoi darlun difyr dros ben o sut roedd pobl wedi symud o gwmpas a defnyddio eu ffonau symudol yn ystod y cyfnod clo. Roedd pobl wedi treulio mwy o amser o lawer yn siarad ar eu ffonau ac roedd canol dinasoedd yn dawelach o lawer nag o’r blaen, roedd llawer mwy yn defnyddio eu ffonau mewn mannau gwyrdd ar hyd a lled y DU.

“Mae ein data hefyd yn dangos bod pobl wedi gallu cysylltu â rhwydweithiau 4G cyflym y mwyafrif helaeth o’r amser.”

Perfformiad rhwydweithiau

Roedd ein hadroddiad hefyd yn edrych ar berfformiad rhwydweithiau symudol yn ystod rhan gyntaf y flwyddyn. Roedd rhwydwaith 4G ar gael i bobl 80% o’r amser. Pan roedd pobl yn ceisio cysylltu â rhwydweithiau 4G, roedd y cynigion hynny wedi llwyddo 97% o’r amser.

Fodd bynnag, roeddem hefyd wedi canfod bod cysylltiadau ddwywaith yn fwy tebygol o fethu mewn ardaloedd lle’r oedd galw uchel am ddarpariaeth symudol– fel canol dinasoedd a gorsafoedd trenau– yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur.

Mae cyngor ar wella signal eich ffôn symudol ar gael o wefan Ofcom.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae “cyn y cyfnod clo” yn cael ei ddiffinio yma fel 1 Ionawr i 22 Mawrth 2020, cyn datganiad Prif Weinidog y DU ar 23 Mawrth; mae “ar ôl y cyfnod clo” yn cyfeirio at 23 Mawrth – 30 Ebrill 2020
  2. Nid yw system iOS Apple yn caniatáu cofnodi gwybodaeth yn y cefndir yn yr un ffordd â system Android. Mae hynny’n golygu y byddai’n rhaid i’r defnyddiwr fod wedi rhedeg unrhyw brofion perfformiad rhwydwaith a chysylltiad yn weithredol, ac mae’n debygol mai dim ond nifer cyfyngedig iawn o gofnodion y byddai hyn wedi’u creu. Mae’r dull profi ar ffonau Android wedi golygu ein bod wedi gallu casglu data.
  3. Mae’r dadansoddiad o alwadau llais symudol am allan a oedd yn para dros 10 eiliad yn disgyn o fewn y cyfnodau ‘cyn y cyfnod clo’ ac ‘yn ystod y cyfnod clo’ sydd wedi cael eu diffinio’n barod. Roedd hyd cyfartalog galwad symudol cyn y cyfnod clo yn 3 munud a 40 eiliad ac roedd hyd cyfartalog galwad symudol yn ystod y cyfnod clo yn 5 munud a 26 eiliad.
  4. Roedd pobl oedd yn defnyddio rhwydwaith EE yn gwario’r mwyaf o amser wedi cysylltu i 4G (87% o gymharu â’r rhai hynny oedd yn defnyddio rhwydwaith Three oedd yn gwario 73% o’r amser yn defnyddio 4G.
  5. Roedd rhwydweithiau EE ar gael i bobl 81% o’r amser cyn y cyfnod clo ac 82% o’r amser yn ystod y cyfnod clo.

Related content