15 Chwefror 2021

Pumdeg tri o orsafoedd radio cymunedol i dderbyn cyllid mewn argyfwng

Bydd 53 o orsafoedd radio cymunedol ychwanegol yn derbyn cyllid mewn argyfwng drwy'r Gronfa Radio Cymunedol. Bydd hyn yn eu helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau lleol.

Yn ystod pandemig y coronaferiws (Covid-19), mae gorsafoedd radio cymunedol wedi darparu newyddion a chefnogaeth leol werthfawr i filiynau o bobl. Fodd bynnag, mae llawer o’r gorsafoedd hyn wedi wynebu heriau ariannol difrifol. Mewn ymateb, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyllid mewn argyfwng i'w helpu i dalu costau parhau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn i gymunedau lleol.

Hyd yn hyn, mae 111 o orsafoedd radio cymunedol wedi derbyn grantiau ariannol gwerth tua £406,000. Oherwydd effaith barhaus y pandemig, darparwyd £200,000 ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer trydydd cylch ariannu.

Mae Panel y Gronfa Radio Cymunedol, sy'n gweithredu'n annibynnol i Ofcom, bellach wedi dyfarnu'r arian ychwanegol hwn i 53 o orsafoedd radio cymunedol ledled y DU. Rydym wedi cyhoeddi manylion am ddull gweithredu a rhesymu'r panel wrth benderfynu pa geisiadau a dderbyniodd gyllid.

See also...