18 Hydref 2021

Sut i ddiogelu eich hun yn erbyn galwadau ffôn a negeseuon testun sgam

Ni fu erioed yn bwysicach diogelu eich hun yn erbyn galwadau ffôn a negeseuon testun sgam.

Maent wedi bod ar gynnydd, yn enwedig yn ystod cyfnodau clo'r flwyddyn a hanner ddiwethaf, ac mae ymchwil Ofcom yn dangos bod llawer ohonom wedi dod i gysylltiad â rhyw fath o sgam.

Pa fathau o sgam sy'n bodoli?

Mae galwadau a negeseuon testun sgam yn cael eu cyflawni gan droseddwyr sy'n ceisio'ch annog i drosglwyddo arian, neu wybodaeth bersonol neu ariannol.

Mae'r sgamwyr yn mynd yn fwy soffistigedig o ran sut maen nhw'n gweithredu, ac weithiau gall fod yn anodd dweud a ydych chi'n derbyn galwad neu neges destun ddilys. Weithiau, gall sgamwyr esgus eu bod yn eich ffonio o'ch banc neu gymdeithas adeiladu, neu efallai yn honni eu bod yn cynrychioli eich cwmni ffôn neu fand eang neu gan gwmnïau cludo parseli. Efallai bydd sgamwyr hyd yn oed yn esgus eu bod o'r llywodraeth, HMRC neu'r GIG ac yn ceisio manteisio ar faterion yn y newyddion i roi'r argraff eu bod yn ddilys.

Ar adegau penodol o'r flwyddyn, gall fod cynnydd hyd yn oed mewn rhai mathau o sgamiau. Er enghraifft, yn ystod cyfnodau clo'r DU pan oedd pobl yn dibynnu ar gwmnïau cludo parseli, sylwodd llawer ar gynnydd mewn sgamiau 'parsel a gollwyd', lle mae rhywun yn cael galwad neu neges destun yn dweud wrthynt fod cwmni dosbarthu yn ceisio cludo parsel iddynt neu fod angen iddynt dalu ffi ychwanegol. Yn yr achosion hyn, mae'r twyllwyr am gael gafael ar eich manylion ariannol neu bersonol, neu efallai bod eu negeseuon testun yn cynnwys dolen faleisus y maent eisiau i chi glicio arni.

Tri cham syml i gadw'n ddiogel rhag sgamiau

Yn ffodus, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i helpu osgoi cael eich twyllo, a gallant gael eu hesbonio mewn tri cham hwylus.

Os byddwch yn derbyn neges destun sgam...

Pwyllwch

Pwyllwch! Gallai'r neges fod yn sgam. Darllenwch yn ofalus a chadwch lygad allan am fanylion sydd i'w gweld yn amheus.

Peidiwch glicio

Peidiwch glicio unrhyw ddolenni neu roi manylion personol neu fanc.

Rhowch wybod

Rhowch wybod am unrhyw neges amheus i 7726 a rhowch wybod i ffrindiau a theulu hefyd.

Os byddwch yn derbyn galwad sgam...

Pwyllwch

Pwyllwch! Peidiwch â rhoi unrhyw fanylion personol neu fanc.

Datgysylltwch

Datgysylltwch a ffoniwch y cwmni maen nhw'n honni ei gynrychioli i wirio a yw'n sgam.

Rhowch wybod

Rhowch wybod am alwadau sgam i Action Fraud a rhowch wybod i'ch ffrindiau a theulu hefyd.

Cofiwch, hyd yn oed os ydych chi'n meddwl bod sgam yn hawdd i'w adnabod ac nad ydych chi'n meddwl y cewch eich dal allan, ystyriwch y bobl a allai gael eu twyllo. Dim ond drwy roi gwybod am y sgamiau hyn y gallwn, gyda'n gilydd, gymryd camau yn erbyn y troseddwyr sy'n eu cyflawni.

Beth yw 7726?

Mae 7726 yn rhif a ddefnyddir gan bob un o'r prif gwmnïau ffôn symudol er mwyn i'w cwsmeriaid adrodd am negeseuon testun maleisus. Yn wir, dewiswyd '7726' am ei fod yn sillafu 'SPAM' ar bysellbad ffôn alffaniwmerig – mae hynny'n ffordd ddefnyddiol o'i gofio.

Gallwch anfon neges destun amheus ymlaen at 7726 am ddim. Pan fyddwch wedi gwneud hyn, gall eich darparwr symudol ymchwilio i'r rhif i'ch atal rhag cael eich targedu eto.

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll, rhowch wybod i Action Fraud cyn gynted â phosib. Gallwch wneud hyn drwy ffonio 0300 123 2040 neu fynd i wefan Action Fraud yn www.actionfraud.police.uk

Action Fraud yw'r ganolfan adrodd ar gyfer twyll a seiberdroseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn Yr Alban dylid adrodd am dwyll neu unrhyw drosedd ariannol arall i'r Heddlu ar 101.

Mwy o wybodaeth

Yn ogystal â sgamiau, mae mathau eraill o alwadau a negeseuon dieisiau efallai y byddwch eisiau diogelu'ch hun yn eu herbyn. Bwrw golwg ar ein harweiniad ar sut i wneud hynny.

Related content