6 Medi 2021

Datgelu’r cwynion telathrebu a theledu-drwy-dalu diweddaraf

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi'r tablau cynghrair diweddaraf am y cwynion rydym yn eu derbyn am brif gwmnïau’r DU ar gyfer ffôn cartref, band eang, ffôn symudol a theledu drwy dalu.

Mae’r adroddiad chwarterol yn datgelu nifer y cwynion a gyflwynwyd i Ofcom rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni am ddarparwyr telegyfathrebu a theledu drwy dalu sydd â chyfran o dros 1.5% o’r farchnad. Felly, mae’n cwmpasu’r trydydd cyfnod clo ledled y DU pan oedd yn rhaid i filiynau o bobl weithio gartref a phan fu’n rhaid i lawer o blant ysgol ddilyn eu hastudiaethau ar-lein.

Yn gyffredinol, roedd y cwynion am wasanaethau symudol wedi aros yn weddol sefydlog. Fodd bynnag, roedd y cwynion am fand eang a llinellau tir ar ei uchaf ers tair blynedd, tra bo cwynion am wasanaethau teledu drwy dalu wedi cynyddu yn ystod y chwarter hefyd.

Virgin Media oedd yn gyfrifol am gyfran sylweddol o’r cwynion hyn a’r cwmni hwn hefyd oedd y darparwr band eang, llinell dir a theledu drwy dalu y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdano. Prif fyrdwn cwynion cwsmeriaid Virgin Media i Ofcom oedd y ffordd roedd y cwmni wedi delio â’u cwynion yn y lle cyntaf.

Virgin Mobile oedd y cwmni symudol y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdano, ynghyd â Three. Ar y llaw arall, Tesco Mobile, Sky Mobile ac EE gafodd y nifer lleiaf o gwynion.

Sky ac EE oedd y darparwyr llinell dir a band eang y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdanynt, a Sky gafodd y nifer lleiaf o gwynion am deledu drwy dalu.

Dywedodd Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Ofcom: “Mae’r ffigurau hyn ar gyfer cwynion yn dod o anterth y pandemig, a oedd yn gyfnod anodd i bawb, gan gynnwys busnesau. Ond mae’n amlwg fod rhai darparwyr yn fwy nag eraill wedi cael trafferth gyda’u gwasanaethau i gwsmeriaid, ac rydym yn sylweddoli pa mor rhwystredig oedd hynny i’w cwsmeriaid ar adeg pan oedd angen y gwasanaethau cyfathrebu arnyn nhw fwyaf.

“Rydyn ni wedi dweud yn glir wrth ddarparwyr ein bod yn disgwyl y bydd y perfformiad nawr yn dychwelyd at o leiaf y lefelau a welsom cyn i’r pandemig daro – neu hyd yn oed yn well.”

Mae’r wybodaeth a gyhoeddwn am gwynion yn helpu pobl i gymharu cwmnïau pan fyddant yn chwilio am ddarparwr newydd ac yn annog cwmnïau i wella eu perfformiad. Mae ein hwb ansawdd gwasanaeth yn cynnig rhagor o wybodaeth am sut y gall pobl ddewis y darparwr gorau.

Er na all Ofcom ddatrys cwynion unigol, rydym yn cynnig cyngor i ddefnyddwyr, a gall yr wybodaeth a gawn arwain at lansio ymchwiliadau.

Dylai unrhyw un sy'n cael problemau wneud cwyn i'w darparwr yn gyntaf. Os ydynt yn anfodlon â'r canlyniad, gallant wneud cwyn i ombwdsmon annibynnol, a fydd yn edrych ar yr achos, ac yn dod i benderfyniad ynghylch hynny.

Cwynion ynglŷn â band eang yn y cartref fesul 100,000 o gwsmeriaid

Table showing fixed broadband complaints per 100,000 subscribers. It illustrates the providers receiving the fewest complaints at the top of the table and those receiving the most complaints are placed at the bottom of the table. The results are as follows:   EE – 7   Sky – 7   BT – 15   Industry average – 19   Plusnet – 21   Vodafone – 24   TalkTalk – 24   Virgin Media – 33

Graph showing trend data on residential consumer complaints received by Ofcom across fixed broadband by communications provider.   It shows the fixed broadband complaints per 100,000 subscribers for the Q2 2019 – Q1 2021 period.   Virgin Media generated the highest volume of fixed broadband complaints (at 33) in Q1 2021 followed by Vodafone at 24.    EE and Sky generated the lowest volume of fixed broadband complaints with both at 7.

Cwynion ynglŷn â ffôn llinell dir fesul 100,000 o gwsmeriaid

Table showing landline complaints per 100,000 subscribers. It illustrates the providers receiving the fewest complaints at the top of the table and those receiving the most complaints are placed at the bottom of the table. The results are as follows:   EE – 5   Sky – 5   BT – 9   Industry average – 11   Vodafone – 12   Plusnet – 13   Vodafone – 17   Virgin Media – 19

Graph showing trend data on residential consumer complaints received by Ofcom across landline by communications provider.   It shows the landline complaints per 100,000 subscribers for the Q2 2019 – Q1 2021 period.   Virgin Media generated the highest volume of landline complaints in Q1 2021 at 19.   EE and Sky continued to generate the fewest landline complaints with both at 5.

Cwynion ynglŷn â ffonau symudol fesul 100,000 o gwsmeriaid

Table showing pay monthly mobile complaints per 100,000 subscribers. It illustrates the providers receiving the fewest complaints at the top of the table and those receiving the most complaints are placed at the bottom of the table. The results are as follows:   Tesco Mobile – 1   Sky Mobile – 1   EE – 1   O2 – 2   Industry average – 3   BT Mobile – 3   Vodafone - 4   iD Mobile – 5   Virgin Mobile – 5   Three – 6

Graph showing trend data on residential consumer complaints received by Ofcom across pay-monthly mobile by communications provider.   It shows the pay-monthly mobile complaints per 100,000 subscribers for the Q2 2019 – Q1 2021 period.    Three (6) and Virgin Mobile (5) generated the highest volume of complaints about pay-monthly mobile services in Q1 2021.   Tesco Mobile, Sky Mobile and EE generated the lowest volume of complaints at 1.

Cwynion ynglŷn â theledu trwy dalu fesul 100,000 o gwsmeriaid

Table showing Pay TV complaints per 100,000 subscribers. It illustrates the providers receiving the fewest complaints at the top of the table and those receiving the most complaints are placed at the bottom of the table. The results are as follows:   Sky – 2   TalkTalk – 5   Industry average – 6   BT – 8   Virgin Media – 17

Graph showing trend data on residential consumer complaints received by Ofcom across pay TV by communications provider.   It shows the pay TV complaints per 100,000 subscribers for the Q2 2019 – Q1 2021 period.   Virgin Media was the most complained-about pay TV provider in Q4 2020 at 17.   Sky continued to generate the lowest volume of pay TV complaints at 2.

Nifer cymharol y cwynion fesul gwasanaeth fesul 100,000 o danysgrifwyr

Graph showing trend data on residential consumer complaints received by Ofcom across landline, fixed broadband, pay-monthly mobile and pay TV services, by communications provider   It shows the relative volume of complaints per sector per 100,000 subscribers for the Q1 2011 – Q1 2021 period.   The relative volume of complaints per 100,000 subscribers for broadband increased by comparison with Q4 2021 from 16 to 19.   The relative volume of complaints for landline increased from 9 to 11.   The relative volume of complaints for pay TV increased from 5 to 6.    The relative volume of complaints for mobile remained broadly the same at 3.

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Roedd y gwir wahaniaeth mesuradwy rhwng nifer y cwynion a gafodd y darparwyr band eang sefydlog canlynol fesul 100,000 o gwsmeriaid yn llai nag 1, felly dylid ystyried eu canlyniadau’n gyfartal: 1. EE a Sky; a 2. Vodafone a TalkTalk.
  2. Roedd y gwir wahaniaeth mesuradwy rhwng nifer y cwynion a gafodd y darparwyr llinell dir canlynol fesul 100,000 o gwsmeriaid yn llai nag un, felly dylid ystyried eu canlyniadau’n gyfartal: 1. EE a Sky; 2. cyfartaledd y diwydiant a Vodafone; a 3. Vodafone a Plusnet.
  3. Roedd y gwir wahaniaeth mesuradwy rhwng nifer y cwynion a gafodd y darparwyr ffonau symudol talu’n fisol canlynol fesul 100,000 o gwsmeriaid yn llai nag un, felly dylid ystyried eu canlyniadau’n gyfartal: 1. Tesco Mobile, Sky Mobile ac EE; 2. Sky Mobile, EE ac O2; 3. O2, cyfartaledd y diwydiant, a BT Mobile; 4. Vodafone, iD Mobile, a Virgin Mobile; a 5. Virgin Mobile a Three.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?

Related content