19 Gorffennaf 2022

Sut mae Ofcom wedi helpu radio ysbyty i fynd ar y tonnau awyr FM

Heddiw rydym yn cyhoeddi ymagwedd newydd at ein rheolau trwyddedu a sbectrwm, sy'n golygu y bydd modd i amrywiaeth o wasanaethau radio 'cyfyngedig' fynd ar y tonnau awyr.

Mae ein hymagwedd hyblyg newydd yn golygu y bydd gwasanaethau radio cyfyngedig – sydd fel arfer yn darparu ar gyfer ardaloedd bach ac a all gynnwys radio ysbyty, traciau sain ffilmiau gyrru i mewn a gwasanaethau ar gyfer digwyddiadau – yn ei chael yn haws cael mynediad at y sbectrwm y mae arnynt ei angen er mwyn darlledu.

Studio room set up for recording. Side view

Darlledir y gwasanaethau cyfyngedig hyn yn y bandiau darlledu AM a FM yn bennaf, ond nid oes gennym ddigon o amleddau bob amser i ateb y galw. Ond drwy wneud newidiadau i'n dull o gynllunio sbectrwm, gallwn nodi bylchau bach yn y defnydd o sbectrwm – a elwir yn 'sbectrwm darpariaeth gyfyngedig’.

Gan mai dim ond darpariaeth gyfyngedig y mae'r sbectrwm hwn yn ei galluogi, nid yw'n addas ar gyfer darllediadau radio cenedlaethol, lleol a chymunedol, ond mae'n arbennig o addas ar gyfer gwasanaethau cyfyngedig nad oes ond angen eu darlledu o fewn ardal fach.

Rydym hefyd wedi symleiddio ein proses drwyddedu fel ei bod yn haws i'r gwasanaethau llai hyn gael y trwyddedau sydd eu hangen arnynt i ddarlledu.

Cyn y cyhoeddiad heddiw, cymerodd nifer o wasanaethau ran mewn treial i weld sut y byddai'r broses newydd yn gweithio. Un o'r rhain oedd Radio Ysbyty Stoke Mandeville, a leolir yn Aylesbury, Swydd Buckingham. Fel rhan o'r treial, roedd yr orsaf yn gallu darlledu ar amledd FM na fu ar gael iddo o'r blaen.

SMHR and Ofcom teams visit hospital

Bu i ni siarad â Simon Daniels, cadeirydd a pheiriannydd yr orsaf, i gael gwybod pam y cymerodd yr orsaf ran yn y treial a beth mae'r broses newydd yn ei olygu i'r tîm.

Roeddem yn awyddus i gymryd rhan yn y treial i helpu i sicrhau y gallai gorsafoedd radio ysbytai eraill wneud cais am amledd FM yn y dyfodol. Bu pwysau am ofod erioed ar y band FM ac mae rhai gorsafoedd wedi ei chael hi'n anodd dod o hyd i amledd FM.

Prif fantais amledd FM, wrth gwrs, yw derbyniad stereo hollol glir. Roeddem yn arfer bod ar AM ac er bod hyn yn rhoi darpariaeth dda, nid oedd yr ansawdd yn wych ar adegau, yn enwedig gyda'r nos.

Mae'r treial wedi mynd yn dda iawn i ni, roeddem am gydweithio'n agos ag Ofcom ynghylch sut roedd derbyniad ar y pŵer uwch yn gweithio allan i ni. Gwahoddwyd un o beirianwyr Ofcom i safle'r ysbyty a bu i ni ymweld â bron pob adeilad gyda'n gilydd. Cymerodd y peiriannydd fesuriadau prawf ac mae'r holl ddata hwn yn cael ei ddefnyddio gan Ofcom.

Rhoi hwb i bositifrwydd

Simon Daniels behind the scenes

Aeth Simon ymlaen i ddweud "Roedd fy arsylwad cyffredinol yn ystod y treial yn ddeublyg. Yn gyntaf, bu llawer o sgwrsio cadarnhaol iawn yn y gymuned radio ysbyty am y posibilrwydd y bydd mwy o amleddau FM ar gael. Yn ail, rwy'n teimlo bod gennym berthynas well o lawer nawr gydag Ofcom nag erioed o'r blaen ac rwy'n credu y gall Ofcom weld mewn gwirionedd y gallwn gyfrannu at ddewis gwrandawyr.”

“Y cam nesaf i ni yw, os bydd popeth yn iawn, yw aros ar ein hamledd prawf presennol ar ôl i'r treial ddod i ben. Yna, gobeithio, rydym yn ystyried a allai fod modd i ni ychwanegu trawsyrrydd FM pŵer isel yn y ddau ysbyty GIG Buckinghamshire Healthcare arall yn ein hardal - High Wycombe ac Amersham. Byddai hyn yn golygu y gallem ddarparu'r un gwasanaeth ar yr un amledd ar gyfer pob un o'r tri ysbyty.”

Ar gyfer unrhyw orsaf radio ysbyty sy'n ystyried dilyn llwybr tebyg i'n gorsaf ni, byddwn yn argymell cael sgwrs gynnar gydag Ofcom, a fydd yn rhoi cyngor ar ba gamau y mae angen eu cymryd a'r hyn a allai fod yn bosib neu ddim. Mae hyn yn arbed amser ac arian.”

“Rydym bob amser wedi cydweithio'n agos ag Ofcom ac wedi sicrhau ein bod yn bodloni'r safonau uchel sy'n ofynnol ar gyfer darlledu radio. Mae'r treial yn golygu ein bod yn darparu signal cliriach ar draws safle Stoke Mandeville ar FM ond rydym hefyd wedi darparu data defnyddiol iawn i dîm peirianneg Ofcom sy'n ymwneud ag amrywiaeth eang o adeiladau.”

Related content