29 Ebrill 2022

Jessica Zucker o Meta yn ymuno ag Ofcom i bweru'r ymgyrch dros ddiogelwch ar-lein

Jessica Zucker, senior leader for the Online Safety Policy team

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi penodiad uwch arweinydd ar gyfer ei dîm Polisi Diogelwch Ar-lein. Mae Jessica Zucker yn ymuno â ni o Meta (Facebook gynt), lle bu'n arwain tîm Polisi Camwybodaeth y cwmni yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica yn ogystal â gweithredu fel arweinydd camwybodaeth iechyd byd-eang y cwmni yn ystod y pandemig. Mae hi'n dod â mewnwelediad dwfn a phrofiad ymarferol i faes hollbwysig o gylch gwaith newydd Ofcom.

Gyda'r Mesur Diogelwch Ar-lein bellach yn mynd drwy Senedd y DU, mae Ofcom yn paratoi i weithredu pwerau newydd, gan greu bywyd mwy diogel ar-lein i bawb.  Ar ôl i'r Bil gael ei ddeddfu, bydd offer rheoleiddio newydd yn galluogi tîm Ofcom i fynnu gwybodaeth gan gwmnïau technoleg, gan asesu'n drylwyr eu hymagwedd at ymdrin â diogelwch ar-lein a'u dwyn i gyfrif os byddant yn methu â chyrraedd y safonau gofynnol.

Mae'r cyfrifoldebau newydd hyn yn adeiladu ar rôl Ofcom o reoleiddio llwyfannau rhannu fideos (VSP) a sefydlir yn y DU, sy'n cynnwys rhai o'r gwasanaethau fideo ar-lein mwyaf llwyddiannus a chyflymaf, gan gynnwys TikTok, Twitch a Snapchat. Gyda'i gilydd, mae'r cyfrifoldebau newydd hyn yn golygu'r ehangiad mwyaf arwyddocaol yng nghylch gwaith Ofcom ers ei ffurfio yn 2003.

Bydd Jessica yn ymuno yn gynnar ym mis Mehefin fel Cyfarwyddwr Polisi Diogelwch Ar-lein newydd, gan arwain gwaith Ofcom o weithredu rheoleiddio cynnwys ar-lein yn y DU. Gan weithio ochr yn ochr â'r ddau Gyfarwyddwr Polisi Diogelwch Ar-lein presennol, bydd yn goruchwylio tîm polisi a phortffolio sy'n ehangu'n gyflym. Bydd yn canolbwyntio ar waith Ofcom o reoleiddio llwyfannau rhannu fideos, gan sicrhau bod y gwaith hanfodol hwn hefyd yn llywio datblygiad y genhedlaeth nesaf o reoleiddio diogelwch ar-lein.

Fel rhan o Grŵp Arweinyddiaeth Uwch Ofcom, bydd hi'n cyfrannu at arweinyddiaeth, rheolaeth a datblygiad effeithiol cydweithwyr ar draws y Grŵp a'r sefydliad.

Rwy'n gyffrous iawn i ymuno ag Ofcom wrth iddynt baratoi i ymgymryd â'r cyfrifoldebau newydd a phwysig hyn.  Edrychaf ymlaen at weithio gyda thîm o'r radd flaenaf a fydd yn gosod y sylfaen fyd-eang ar gyfer rheoleiddio cynnwys.

Jessica Zucker

Meddai Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a Diogelwch Ar-lein Ofcom:

Rwy'n hynod falch bod Jessica wedi gwneud y penderfyniad i symud i Ofcom o Meta.  Cylch gwaith cyffrous yw hwn – bydd Jessica yn rhan o dîm gwych sy'n gweithio i ddiogelu rhyddid mynegiant ar yr un pryd â diogelu plant a grwpiau eraill sy'n agored i niwed rhag niwed ar-lein.  Mae'n gyfnod gwych i ymuno ag Ofcom.