18 Hydref 2022

Ofcom yn datgelu'r darparwyr ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu y cwynwyd fwyaf amdanynt

Heddiw rydym wedi cyhoeddi'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y cwynion rydym wedi'u derbyn ynghylch prif gwmnïau ffôn cartref, band eang, symudol a theledu-drwy-dalu y DU yn ystod y tri mis rhwng Ebrill a Mehefin.

I grynhoi, mae ein data cwynion diweddaraf yn dangos y canlynol:

  • Yn gyffredinol mae'r niferoedd o gwynion yn ystod y chwarter hwn yn cyfateb yn fras i'r tri mis blaenorol.
  • Shell Energy yw'r cwmni sy'n parhau i gynhyrchu'r nifer uchaf o gwynion am fand eang a llinell dir. Y rheswm mwyaf cyffredin dros y rhain oedd sut y bu'n ymdrin â chwynion cwsmeriaid.
  • Ar gyfer band eang, mae nifer y cwynion a dderbyniwyd am Shell Energy dair gwaith yn uwch na chyfartaledd y diwydiant.
  • Mae Sky yn parhau i ddenu'r nifer leiaf o gwynion am fand eang a llinell dir. 
  • O flwyddyn i flwyddyn, mae maint cymharol y cwynion ar gyfer band eang a llinell dir wedi gostwng ychydig, ac mae cwynion ar gyfer symudol talu'n fisol a gwasanaethau teledu-drwy-dalu wedi aros yr un fath.

Yn gyffredinol mae nifer y cwynion yn sefydlog, ond mae'r ffigurau hyn yn dangos bod angen i rai darparwyr wneud gwelliannau. A gyda chyllidebau cartref yn dynn yn ystod yr argyfwng costau byw, bydd pobl yn bwrw golwg agosach ar eu darparwr i sicrhau mai dyna'r un iawn ar eu cyfer o hyd.

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom

Symudol

BT Mobile a Virgin Mobile yw'r gweithredwyr symudol y cwynwyd fwyaf amdanynt gyda phedwar a thri chwyn yn drefn honno i bob 100,000 o gwsmeriaid. Mae'r cwynion yn ymwneud yn bennaf â phrofiad cwsmeriaid wrth newid darparwr (BT Mobile) a sut yr ymdriniwyd â'u cwyn (Virgin Mobile). Denodd Tesco Mobile, EE, Sky Mobile ac iD Mobile y nifer lleiaf o gwynion yn y sector symudol.

Band eang

Shell Energy yw'r darparwr band eang sy'n perfformio waethaf o bell ffordd, gyda 31 o gwynion i bob 100,000 o gwsmeriaid - bron tair gwaith yn uwch na chyfartaledd y diwydiant. Y mater y cwynwyd fwyaf amdano oedd sut mae'n trin cwynion gan gwsmeriaid. Perfformiodd Vodafone, TalkTalk, Virgin Media a Plusnet yn waeth na chyfartaledd y diwydiant hefyd.

Sky yw'r darparwr band eang sy'n perfformio orau, gan ddenu tri chwyn i bob 100,000 o gwsmeriaid. Fe'i dilynwyd gan EE (chwech), BT (wyth) a NOW Broadband (naw), oll o dan gyfartaledd y diwydiant o 11 o gwynion i bob 100,000 o gwsmeriaid.

Ffôn cartref

Eto, Shell Energy yw'r darparwr sy'n perfformio waethaf o bell ffordd, gan ddenu 23 o gwynion i bob 100,000 o gwsmeriaid - bron pedair gwaith yn uwch na chyfartaledd y diwydiant. Mae dwy o bob pump o'r cwynion hyn yn ymwneud â sut yr oedd yn trin cwynion. Denodd TalkTalk, Virgin Media, Vodafone, NOW Broadband a Plusnet fwy o gwynion na chyfartaledd y diwydiant o chwech i bob 100,000 o gwsmeriaid hefyd.

Sky yw'r darparwr ffôn cartref sy'n perfformio orau, gan ddenu dwy gŵyn i bob 100,000 o gwsmeriaid, o'i gymharu â chyfartaledd y diwydiant o chwech.

Teledu-drwy-dalu

Virgin Media sy'n parhau i ddenu'r nifer uchaf o gwynion am deledu-drwy-dalu, gyda deg cwyn i bob 100,000 o gwsmeriaid, o'i gymharu â chyfartaledd y diwydiant o bedwar. Y rheswm mwyaf cyffredin dros y rhain oedd sut y bu'n ymdrin â chwynion cwsmeriaid. Denodd Sky y nifer lleiaf o gwynion am deledu-drwy-dalu.

Pam rydym yn cyhoeddi'r data hwn

Mae ein data am gwynion yn helpu pobl i gymharu darparwyr pan fyddan nhw'n siopa o gwmpas am wasanaeth newydd - ac mae hefyd yn helpu i annog cwmnïau i wella'u perfformiad.

Er na all Ofcom ddatrys cwynion unigol, rydym yn cynnig cyngor i bobl am y gwasanaethau telathrebu a theledu-drwy-dalu y maent yn ei ddefnyddio, ac mae'r wybodaeth a dderbyniwn yn gallu arwain at lansio ymchwiliadau.

Os ydych chi'n profi problemau gyda'ch ffôn cartref, band eang, gwasanaeth symudol neu deledu-drwy-dalu, dylech gwyno wrth eich darparwr yn gyntaf. Os ydych yn anfodlon ar y canlyniad, gallwch fynd â'r gŵyn at ombwdsmon annibynnol, a fydd yn archwilio'r achos ac yn gwneud dyfarniad arno.

Related content