9 Chwefror 2022

Ofcom yn nodi syniadau cychwynnol ar ddyfodol marchnadoedd a sbectrwm symudol

Heddiw, mae Ofcom wedi nodi ein syniadau cychwynnol ar sut y gallai marchnadoedd symudol ddatblygu a sut y gallai fod angen i rwydweithiau esblygu i ddiwallu'r galw yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi nodi sut y gallem addasu ein hymagwedd yn y maes hwn.

Ymagwedd at farchnadoedd symudol yn y dyfodol

Mae'r galw am wasanaethau symudol wedi tyfu'n gyflym dros y deng mlynedd diwethaf. Mae pobl yn disgwyl cael mynediad at wasanaethau symudol o ansawdd da lle bynnag y maent yn byw, yn gweithio ac yn teithio. Mae’r farchnad symudol wedi gwasanaethu’r DU yn dda, wedi’i sbarduno'n bennaf gan gystadleuaeth ymysg y pedwar gweithredwr rhwydwaith symudol (MNO) cenedlaethol.

Disgwyliwn y bydd y twf hwnnw'n parhau, gyda mwy o alw am wasanaethau sy'n llyncu data fel ffrydio a galwadau fideo. Bydd gweithredwyr MNO yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y twf hwn, ond rydym hefyd yn disgwyl gweld mwy o rôl i gwmnïau eraill o ran darparu rhwydweithiau symudol a gwerthu gwasanaethau symudol. O ystyried y newidiadau sy'n digwydd, rydym yn ystyried a allem addasu ein dull rheoleiddio a sut mae gwneud hynny.

Byddwn yn cymryd camau i egluro ein dull rheoleiddio yn y dyfodol er mwyn cefnogi buddsoddiad. Rydym hefyd yn cynnig nodi’n fwy clir sut rydym wedi ystyried buddsoddi wrth wneud penderfyniadau polisi yn y dyfodol. Ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw gynlluniau i gyflwyno unrhyw reolau prisio newydd i ddefnyddwyr; ond os daw problemau newydd i'r amlwg sy'n gofyn am ymyriad bellach, byddem yn barod i weithredu.

Rydym yn egluro ein safbwynt ar gyfuno’r farchnad symudol hefyd. Byddai ein safbwynt ar broses uno bosib yn seiliedig ar amgylchiadau penodol y broses uno benodol honno, yn hytrach na dim ond nifer y cystadleuwyr.

Ymagwedd at sbectrwm symudol yn y dyfodol

Mae sbectrwm radio (y tonnau anweledig sy'n galluogi technoleg ddi-wifr) yn adnodd pwysig a chyfyngedig sy'n hanfodol ar gyfer rhwydweithiau symudol. Mae llawer o sbectrwm wedi'i ddarparu ar gyfer ffonau symudol o dan 4 GHz, ond mae'r galw am sbectrwm yn tyfu ar draws sawl sector ac rydym yn disgwyl i hyn barhau.

Felly rydym yn ystyried y galw posib yn y dyfodol am wasanaethau symudol a'r goblygiadau ar gyfer sbectrwm. Bydd angen i rwydweithiau symudol esblygu i ddiwallu'r galw yn y dyfodol a darparu ansawdd y profiad sydd ei angen ar ddefnyddwyr a busnesau. Mae nifer o ffyrdd y gallant wneud hyn gan gynnwys:  defnydd ehangach a llawnach o ddaliadau sbectrwm presennol, gan ryddhau sbectrwm yn unol â chynlluniau presennol, uwchraddio technoleg a gosod mwy o safleoedd gan gynnwys celloedd bach.

Rydym yn rhagweld bod sbectrwm symudol a ddelir ar hyn o bryd a sbectrwm sydd eisoes wedi'u cynllunio i'w rhyddhau yn debygol o fod yn ddigonol yn fras i ddiwallu'r galw yn y dyfodol hyd at 2030 os bydd rhwydweithiau'n mabwysiadu amrywiaeth o strategaethau i wneud hyn.

Beth yw Sbectrwm

Allwch chi ddim weld na theimlo sbectrwm radio. Ond mae angen sbectrwm ar bob dyfais sy’n cyfathrebu’n ddi-wifr – boed hynny’n setiau teledu, yn allweddi car digyswllt, monitorau babanod, meicroffonau di-wifr a lloerennau. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mast lleol er mwyn i bobl allu gwneud galwadau ffôn a defnyddio'r rhyngrwyd.

Pam mae Ofcom yn rheoli'r defnydd o sbectrwm?

Dim ond hyn a hyn o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli’n ofalus. Mae bandiau penodol o sbectrwm yn cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol hefyd. Er enghraifft, mae cwmnïau symudol yn defnyddio rhannau gwahanol o'r sbectrwm i gwmnïau teledu. Felly, mae angen ei reoli i sicrhau nad oes ymyrraeth ar wasanaethau ac nad oes amharu ar bobl ac ar fusnesau.

Y camau nesaf

Rydym yn gwahodd sylwadau ar y ddwy ddogfen erbyn 8 Ebrill, ac yn bwriadu darparu diweddariadau pellach yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?

See also...