29 Medi 2022

Rhaid i gwmnïau telathrebu gefnogi cwsmeriaid yn well wrth i fwy o aelwydydd ei chael hi'n anodd talu biliau

  • 8 miliwn o gartrefi yn cael trafferth fforddio gwasanaethau cyfathrebu – dwywaith yn fwy nag yn 2021
  • Nid yw 97% o aelwydydd incwm isel cymwys eto wedi manteisio ar fargeinion band eang cyflym iawn am ddisgownt
  • Ofcom yn pwyso ar gwmnïau i ystyried a ellir cyfiawnhau cynnydd mawr mewn prisiau ar adeg o galedi ariannol eithriadol - ac yn mynnu camau ar y cyd gan y diwydiant i hyrwyddo tariffau cymdeithasol yn well

Mae Ofcom heddiw yn annog cwmnïau telathrebu i wneud mwy i gefnogi eu cwsmeriaid drwy'r argyfwng costau byw, wrth i ymchwil newydd ddatgelu bod y nifer uchaf erioed o aelwydydd yn ei chael hi'n anodd fforddio eu gwasanaethau cyfathrebu.

Mae astudiaeth fforddadwyedd flynyddol Ofcom wedi nodi bod bron i draean (29%) o gwsmeriaid - tua 8 miliwn o gartrefi - yn cael problemau wrth dalu eu biliau ffôn, band eang, teledu-drwy-dalu a ffrydio. Mae nifer y teuluoedd sy'n cael trafferthion wedi dyblu ers y flwyddyn ddiwethaf (o 15% ym mis Ebrill 2021) ac yn awr mae ar ei lefel uchaf ers dechrau ein cofnodion.

Oedolion ifainc 18-24 oed (43%), cartrefi â phlant (40%), derbynyddion budd-daliadau (39%) a phobl ag anabledd neu gyflwr cyfyngol (39%) yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o gael trafferth wrth fforddio gwasanaethau cyfathrebu. Dywedodd un o bob saith (14%) o ymatebwyr eu bod wedi torri'n ôl ar wariant arall, fel bwyd a dillad, er mwyn fforddio eu gwasanaethau cyfathrebu, a dywedodd 9% iddynt benderfynu canslo gwasanaeth.

A hithau'n siarad mewn cynhadledd ddiweddar a fynychwyd gan arweinwyr y diwydiant telathrebu, pwysleisiodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Ofcom, bryderon y rheoleiddiwr am y posibilrwydd o gynnydd mawr mewn prisiau i bobl sydd wedi'u cloi i'w contractau, yn ogystal â'r ddyletswydd ar ddarparwyr i drin eu cwsmeriaid yn deg - yn enwedig yn ystod cyfnod eithriadol o galedi i lawer o aelwydydd. Er nad yw Ofcom yn rheoleiddio prisiau manwerthu, fe bwysodd ar gwmnïau i feddwl yn ofalus iawn a ellir cyfiawnhau cynnydd mawr mewn prisiau yn ystod yr argyfwng costau byw.

Miliynau yn colli allan ar 'dariffau cymdeithasol' cyflym iawn

Mae ymchwil gan Ofcom yn dangos bod miliynau o aelwydydd sydd ag incwm isel yn dal i golli allan ar 'dariffau cymdeithasol' band eang - cysylltiadau cyflym iawn â gostyngiad arbennig am tua £10-20 - gan nad yw darparwyr yn gwneud digon i hysbysebu'r cymorth hwn, neu'n gwrthod cynnig y pecynnau hyn o gwbl.

Er bod y nifer sy'n manteisio ar dariffau cymdeithasol band eang wedi mwy na dyblu dros y chwe mis diwethaf - gan godi o 55,000 i 136,000 - dim ond 3% o aelwydydd cymwys sydd wedi cofrestru amdanynt. Mae hynny'n gadael 97% yn colli allan ar arbedion o tua £144 y flwyddyn ar gyfartaledd. Yn allweddol, nid yw cwsmeriaid ar y cytundebau hyn yn wynebu'r posibilrwydd y bydd prisiau'n codi yng nghanol y contract chwaith, sy'n golygu bod y gost i bob pwrpas wedi'i rhewi.

Ers i Ofcom ddechrau taflu goleuni ar y mater yma yn 2020, mae nifer y darparwyr sy'n cynnig tariffau cymdeithasol wedi codi o ddau i naw. Ond rydym am weld y diwydiant yn mynd ymhellach o lawer:

  • Dylai darparwyr band eang sy'n weddill, gan gynnwys TalkTalk, Shell Energy, EE, Plusnet a Vodafone gyflwyno tariff band eang cymdeithasol cyn gynted â phosib. Hyd nes y byddant yn gwneud hynny, rydym yn disgwyl i'r cwmnïau hyn ddiystyru taliadau terfynu cynnar ar gyfer unrhyw gwsmer sy'n dymuno newid i dariff cymdeithasol darparwr arall.
  • Dylai pob darparwr roi llawer mwy o ffocws ar hyrwyddo tariffau cymdeithasol. O ystyried nad yw bron i 70% o gwsmeriaid cymwys yn ymwybodol bod tariffau band eang cymdeithasol yn bodoli, rydym yn disgwyl i bob darparwr wneud llawer mwy i'w hyrwyddo - yn ogystal â gwneud cofrestru'n llawer haws drwy gyfeirio at y cynigion hyn yn gliriach ar eu gwefannau.
  • Dylai Virgin Media gryfhau ei gefnogaeth drwy gynnig tariff cymdeithasol cyflym iawn. Mae cynnig sylfaenol presennol y cwmni yn anarferol yn y diwydiant ac nid yw'n cydnabod y pwysigrwydd y mae cwsmeriaid yn ei roi ar gyflymder.
  • Mae Ofcom hefyd yn galw ar bob prif ddarparwr symudol i gyflwyno tariff cymdeithasol.

Nid yw bron i

70%

o gwsmeriaid cymwys yn ymwybodol bod tariffau band eang cymdeithasol yn bodoli

Mesurau diogelu newydd i bobl mewn dyled

Heddiw, mae Ofcom wedi cyflwyno arweiniad newydd ynghylch sut y dylai cwmnïau gefnogi cwsmeriaid mewn dyled neu sy'n cael trafferth talu.

Yn ogystal â chynnig tariffau cymdeithasol, dylai darparwyr gylchdroi rhwng ystod o sianeli cyfathrebu - fel llythyrau, e-bost, ffôn a negeseuon testun - er mwyn cynyddu'r siawns o gyrraedd cwsmeriaid mewn dyled a chynnig cymorth.

Mae ein canllaw hefyd yn ei gwneud hi'n glir y dylid osgoi neu isafu cyfyngu ar wasanaethau rhywun sy'n arbennig o ddibynnol arnynt – i'w gwthio i dalu ôl-ddyledion – a dim ond fel dewis olaf y dylid defnyddio datgysylltu.

Mae'r argyfwng costau byw yn rhoi straen na welwyd ei debyg o'r blaen ar gyllidebau cartrefi. Mae'n hanfodol bod y diwydiant yn rhoi ei gwsmeriaid yn gyntaf, ac yn canolbwyntio ar beth arall y gall ei wneud i helpu i'w cefnogi.

Mae hyn yn cynnwys pwyslais cryfach o lawer ar gynnig a hyrwyddo tariffau cymdeithasol, yn ogystal â meddwl yn ofalus a ellir cyfiawnhau codi prisiau'n sylweddol ar adeg pan fo cyllidebau eu cwsmeriaid o dan gymaint o bwysau.

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebu Ofcom

Astudiaeth achos tariff cymdeithasol

Mae fy mam yng nghyfraith 90 oed yn byw ar phen ei hun ac mae angen y we arni i gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu ar ei iPad. Roedd hi'n talu £30 y mis dan ei hen gytundeb, felly mae talu £15 y mis yn awr am fwy neu lai yr un pecyn yn anhygoel.

Roedd trosglwyddo i'w darparwr newydd yn gyflym, roedden nhw'n wych o ran rhoi gwybod i ni am sut roedd y archeb yn mynd.

John Muzyka, Wakefield

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae ein cyngor ar dariffau cymdeithasol yn cynnwys rhestr o'r pecynnau sydd ar gael.

Related content