Gyda'r Nadolig ar y gorwel, mae llawer ohonom naill ai wrthi'n gwneud ein siopa anrhegion neu'n prynu pethau ar gyfer ein hanwyliaid ar y funud olaf.
A'r flwyddyn yma, fel blynyddoedd lawer, bydd anrhegion technoleg ar frig llawer o restrau Nadolig, waeth p'un a gânt eu prynu i rywun arall neu i gael y teclyn diweddaraf fel anrheg i'ch hun.
Ond a wyddech chi fod rhai o'r anrhegion mwyaf poblogaidd yn dibynnu ar sbectrwm radio i weithio?
Beth yw sbectrwm?
Allwch chi ddim weld na theimlo sbectrwm radio. Ond mae angen sbectrwm ar bob dyfais sy’n cyfathrebu’n ddi-wifr – boed hynny’n setiau teledu, allweddi car digyswllt, monitorau babanod, meicroffonau di-wifr neu rwydweithiau wi-fi. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mast lleol er mwyn i bobl allu gwneud galwadau ffôn a defnyddio'r rhyngrwyd.
Pam mae Ofcom yn rheoli'r defnydd o sbectrwm?
Mae sbectrwm yn adnodd cyfyngedig, felly mae angen ei reoli'n ofalus. Mae bandiau penodol o sbectrwm yn cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol hefyd. Er enghraifft, mae cwmnïau symudol yn defnyddio rhannau gwahanol o'r sbectrwm i gwmnïau teledu. Felly, mae angen ei reoli i sicrhau nad yw gwasanaethau'n ymyrryd â'i gilydd nac yn achosi aflonyddwch i bobl a busnesau.
Ydy fy anrheg yn dibynnu ar sbectrwm?
Mae yna lawer o declynnau na fyddech efallai'n sylweddoli bod angen sbectrwm arnynt i weithio. Rydyn ni wedi dewis nifer o'r rhai sy'n debygol o fod yn boblogaidd iawn y Nadolig yma, er mwyn rhoi syniad i chi o sut mae sbectrwm yn aml yn allweddol i'w ffordd o weithio.
Drôns – Gall drôns amrywio o'r modelau bach, dan do sy'n boblogaidd gyda phlant, i'r modelau awyr agored mwy pwrpasol a ddefnyddir gan hobiwyr a ffotograffwyr o'r awyr. Ond yr un peth yw'r dechnoleg sy'n sail iddynt i raddau helaeth. Gellir eu rheoli trwy ffôn clyfar neu lechen, neu â rheolydd penodol – ond maent yn dibynnu ar gysylltiad di-wifr i wneud hyn, ac mae'r cysylltiad di-wifr hwnnw'n defnyddio sbectrwm radio.
Teganau a reolir o bell – Mae'r rhan fwyaf o deganau a reolir o bell yn defnyddio tonnau radio i drawsyrru signalau o'r rheolydd i'r cerbyd - y signalau hyn sy'n cyfathrebu â'r tegan ac yn dweud wrtho sut i symud. Yn wir, efallai eich bod wedi clywed y teganau hyn yn cael eu galw'n 'deganau a reolir â radio’ hefyd.
Clustffonau Bluetooth - Mae Bluetooth yn dechnoleg ddi-wifr a defnyddir mewn llawer o'r offer sain di-wifr a ddefnyddiwn gartref ac wrth symud o gwmpas. Mae Bluetooth yn gweithio trwy ddefnyddio tonnau radio i alluogi ffynhonnell sain (a allai fod yn ffôn clyfar neu'n ddarn pwrpasol o offer hi-fi) i gyfathrebu â chlustffonau heb fod angen gwifrau.
Seinyddion clyfar – defnyddir seinyddion clyfar mewn llawer o gartrefi, a dangosodd ein hymchwil diweddar fod y dyfeisiau hyn yn helpu wrth daclo unigrwydd i bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Maent yn gweithredu ar rwydweithiau wi-fi cartref, sy'n dibynnu ar sbectrwm i weithredu.
Consolau a rheolyddion di-wifr – Mae taclau chwarae gemau bob amser yn anrhegion poblogaidd, ac mae rhai dyfeisiau a rheolyddion gemau'n gweithredu'n ddi-wifr. Er enghraifft, bydd rhai consolau'n cysylltu â'ch rhwydwaith wi-fi cartref er mwyn i chi chwarae gemau ar-lein. Ac mae rheolyddion â gwifrau yn perthyn i'r gorffennol bellach - rheolyddion di-wifr yw'r peth arferol bellach. Ac yn yr un modd â'r rheolydd ar gyfer car a reolir o bell, mae'r rheolydd yn cyfathrebu â'r consol ac yn 'dweud' wrth y consol beth i'w wneud, sydd wedyn yn arwain at y symudiadau a'r gweithredoedd rydych chi'n eu gweld yn y gêm ar y sgrin.