29 Tachwedd 2023

Sut y bydd y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn helpu amddiffyn menywod a merched

Mae rhyngweithio ar-lein yn chwarae rhan fawr yn ein bywydau bob dydd. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn cael profiadau cadarnhaol ar-lein, i lawer o fenywod a merched gall bywyd ar-lein fod yn estyniad o ddeinameg rhywedd niweidiol sy’n bodoli yn y gymdeithas ehangach.

Mae ein hymchwil yn dangos yr effeithir yn fwy negyddol ar fenywod gan gynnwys cas a throlio, ac na allant ddweud eu dweud a rhannu eu barn cystal ar-lein.  Mae menywod a merched hefyd yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan rai mathau o niwed ar-lein, megis camddefnyddio delweddau personol, seiberfflachio, ac ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi.

Gall y niwed hwn gynnwys amrywiaeth o ymddygiadau sy'n bygwth, bychanu, monitro, neu'n tawelu menywod a merched, a gallant ymestyn y tu hwnt i'r gofod ar-lein. Yn bwysig, mae gwahanol grwpiau o fenywod a merched yn cael eu heffeithio’n wahanol gan niwed ar-lein. Mae oedran, rhywioldeb, hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, ynghyd â llawer o ffactorau eraill, yn dylanwadu ar brofiadau menywod a merched ar-lein. Er enghraifft, mae menywod a merched o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig mewn mwy o berygl o brofi niwed ar-lein, ac maent ddwywaith yn fwy tebygol o gredu bod y risgiau o fod ar-lein yn drech na’r manteision.

Beth rydym yn ei wneud i daclo niwed i fenywod a merched ar-lein

Mae Ofcom yn ystyried bod amddiffyn menywod a merched ar-lein yn fater o'r pwys pennaf. O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, bydd gan wasanaethau ar-lein fel cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau chwilio ddyletswyddau i amddiffyn diogelwch defnyddwyr a’u hawliau – mae deall a mynd i’r afael â phrofiadau menywod a merched ar-lein yn rhan annatod o hyn.

Yn gynharach y mis hwn, fe wnaethom gyhoeddi ein hymgynghoriad cyntaf ar ein hymagwedd at reoleiddio ar-lein. Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y risg sy'n deillio o gynnwys anghyfreithlon. Mae’n cynnwys ein canllawiau drafft ar sut y dylai darparwyr gwasanaethau asesu’r risgiau o niwed ar eu gwasanaeth gan gynnwys camddefnyddio delweddau personol ac ymddygiad gorfodi a rheoli, a’n codau ymarfer drafft sy’n argymell mesurau diogelwch y gallant eu rhoi ar waith. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ymgynghoriadau yn y dyfodol yn canolbwyntio ar dryloywder ac ar sut yr ydym yn disgwyl i wasanaethau amddiffyn plant ar-lein. Bydd y mesurau a nodir yn yr ymgynghoriadau hyn yn cyfrannu at daclo trais a cham-drin sy'n seiliedig ar rywedd ar-lein, ond rydym yn cydnabod bod mwy o waith i’w wneud.

Ar ôl i'r ymgynghoriadau mawr gael eu cwblhau, yn hanner cyntaf 2025 rydym yn bwriadu cyhoeddi canllawiau drafft ar gyfer gwasanaethau ar-lein sy’n canolbwyntio ar gynnwys a gweithgarwch sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched. Bydd y canllawiau drafft yn cynnwys cyngor ac arfer gorau ar gyfer gwasanaethau ar sut y gallant fynd i'r afael â niwed sy'n seiliedig ar rywedd ar-lein. Wrth ddatblygu’r canllawiau hyn, byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr ar draws cymdeithas sifil, diwydiant, asiantaethau llywodraethol a’r byd academaidd ac yn cynnwys safbwyntiau goroeswyr a dioddefwyr trais a cham-drin sy'n seiliedig ar rywedd ar-lein.

Yn ogystal, rydym yn bwriadu adeiladu ar ein gwaith ymwybyddiaeth o'r cyfryngau presennol i helpu gwneud pobl yn fwy ymwybodol o gynnwys a gweithgarwch niweidiol sy'n seiliedig ar rywedd ar-lein, a helpu i’w leihau. Byddwn yn gwneud hyn drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau i gefnogi hyfforddi gweithwyr ieuenctid lleol ac addysgwyr ar gasineb at fenywod a merched ar-lein a gweithio gyda bechgyn a dynion i gefnogi perthnasoedd cadarnhaol rhwng y rhywiau.

Nod ein gwaith ar draws yr ymgynghoriadau, y canllawiau penodedig ac ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yw cefnogi gwasanaethau wedi’u rheoleiddio a fydd yn amddiffyn menywod a merched yn well ac yn eu galluogi i fyw bywyd mwy diogel ar-lein.

Mwy o wybodaeth am ein hymgynghoriadau

Mae ein hymgynghoriad cyntaf yn cynnwys ein cofrestr risgiau a phroffil risg drafft ar niwed anghyfreithlon, sy'n darparu gwybodaeth i wasanaethau ar sut y gallai rhai o swyddogaethau neu nodweddion eu gwasanaethau achosi risg. Mae hyn yn cynnwys sut mae demograffeg defnyddwyr (gan gynnwys rhywedd) yn dylanwadu ar y risg o wahanol fathau o niwed anghyfreithlon.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys ein codau ymarfer drafft, sy'n nodi'r mesurau yr ydym yn bwriadu eu hargymell ar gyfer gwasanaethau i amddiffyn defnyddwyr rhag niwed anghyfreithlon. Disgwyliwn i'r mesurau hyn - gan gynnwys y rhai ar wella rheolaethau i ddefnyddwyr, adrodd a chwynion - chwarae rhan wrth amddiffyn menywod a merched, yn ogystal â defnyddwyr agored i niwed eraill. Yn olaf, mae ein Canllaw Dyfarniadau Cynnwys Anghyfreithlon drafft yn helpu gwasanaethau i adnabod sut y gallai cynnwys anghyfreithlon edrych, gan gynnwys niwed anghyfreithlon sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched.

Y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyhoeddi ein hail ymgynghoriad a fydd yn canolbwyntio ar amddiffyn plant rhag nodweddion a chynnwys a allai fod yn niweidiol iddynt, megis deunydd treisgar a chamdriniol. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ein hymgynghoriad grymuso defnyddwyr, a fydd yn nodi'r hyn a ddisgwyliwn gan wasanaethau o ran sut y gall defnyddwyr reoli eu profiadau ar-lein.

Related content