29 Mawrth 2023

Datgelu bywyd ar-lein plant ac oedolion ifanc

  • Cael eu denu at ddrama: Mae plant yn hoffi fideos dramatig, byr ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Cynnydd yn y defnydd o ‘sgriniau hollt’: Tuedd i wylio dau fideo ar yr un pryd
  • Mwy gofalus, llai creadigol: Mae pobl ifanc yn fwy hunanymwybodol yn gymdeithasol, ac yn postio llai o fideos.
  • Amser o flaen sgrin: Pobl ifanc 16–24 oed yn fwy tebygol o gymryd egwyl oddi ar y cyfryngau cymdeithasol i reoli’u lles

Mae plant yn cael eu denu at fideos ar-lein ‘dramatig’ sydd, mae’n ymddangos, wedi’u dylunio i ysgogi cymaint â phosibl, ond sy’n gofyn am ychydig iawn o ymdrech a ffocws yn ôl astudiaeth flynyddol Ofcom o berthynas plant â’r cyfryngau a’r byd ar-lein.

Mae bron pob plentyn rhwng 3 ac 17 oed (96%) yn gwylio fideos ar safleoedd ac apiau rhannu fideos. Mae dros hanner yr holl blant yn gwylio cynnwys fideo sy’n cael ei ffrydio’n fyw (58%), sy’n cynyddu i 80% ymysg pobl ifanc 16-17 oed.

YouTube yw’r ap neu’r safle mwyaf poblogaidd o hyd, sy’n cael ei ddefnyddio gan bron i naw o bob deg plentyn 3–17 oed (88%), er bod apiau fideo ffurf fer TikTok (50% i 53%) a Snapchat (42% i 46%) wedi gweld cynnydd sylweddol yn y defnydd dros y flwyddyn ddiwethaf. [2]

Gwrthdaro, ymateb, cyflymdra – beth sy’n gwneud fideo poblogaidd

Gellir disgrifio llawer o’r cynnwys cyfryngau cymdeithasol sy’n cael ei ddefnyddio gan y cyfranogwyr ifanc yn ein hastudiaeth ddiweddaraf  Y Cyfryngau ym Mywyd Plant fel fideos ‘dramatig’, wedi’u llunio i ddenu a chynnal eu sylw, ond eu bod yn gofyn am ychydig iawn o ymdrech a ffocws.

Mae hel clecs, gwrthdaro, dadlau, heriau eithafol a mentro lle mae llawer iawn yn y fantol – sy’n aml yn golygu symiau mawr o arian – yn themâu sy’n codi dro ar ôl tro. Roedd fformatau fideo ‘cynnig sylwadau’ ac ‘ymateb’, yn enwedig y rheini a oedd yn ysgogi cystadleuaeth rhwng dylanwadwyr ac yn annog gwylwyr i ddewis ochr, hefyd yn apelio i’r cyfranogwyr.

Mae’r fideos hyn, sydd wedi dod yn boblogaidd yn sgil pobl fel Mr Beast, Infinite a JackSucksAtStuff, yn aml yn rhai byr, gydag arddull olygyddol benodol ac ysgogol, wedi’i bwriadu i greu’r effaith ddramatig fwyaf. Mae hyn yn cynnwys defnyddio llawer ar ‘doriadau naid’ yn y golygu, newid onglau camera yn gyflym, defnyddio effeithiau arbennig, animeiddiadau a siarad yn gyflym.

Apêl ‘sgriniau hollt’

Eleni hefyd gwelwyd cynnydd yn y defnydd o ‘sgriniau hollt’. Mae edrych ar gyfryngau cymdeithasol ar sgriniau hollt yn caniatáu i blant wylio mwy nag un fideo byr ar yr un pryd, ar un sgrin, un ai ochr yn ochr neu un uwch ben y llall. Mae’n ymddangos bod hyn yn ddilyniant o’r ymddygiadau ‘aml-sgrinio’ a welwyd mewn tonnau ymchwil blaenorol, lle dywedodd plant eu bod yn cael trafferth canolbwyntio ar un gweithgaredd ar sgrin ar y tro.

Weithiau roedd y ddau fideo ar sgrin hollt yr roedd y cyfranogwyr yn eu gwylio yn gysylltiedig, fel dylanwadwyr yn ymateb ac yn cynnig barn ar ddigwyddiadau yn y byd go iawn. Mewn achosion eraill, nid oedd cysylltiad amlwg rhwng y ddau fideo.

Cyfryngau cymdeithasol... ddim mor gymdeithasol â hynny

Mae plant yn llawer llai tebygol o bostio eu fideos eu hunain (32%) na’u gwylio (96%). Yn unol â hynny, dywedodd plant yn yr astudiaeth Y Cyfryngau ym Mywyd Plant eu bod yn gweld llai o gynnwys yn cael ei greu gan eu ffrindiau, a hyd yn oed pan fyddan nhw’n ei weld, maen nhw’n rhyngweithio llai â’r cynnwys. I'r plant hyn, mae rhyngweithio cymdeithasol rhwng ffrindiau ar-lein bellach wedi’i gyfyngu’n bennaf i apiau sgwrsio neu swyddogaethau negeseua mewn apiau, yn hytrach nag ar ffrydiau cyhoeddus.

Gyda’u ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu dominyddu gan gynnwys proffesiynol, soniodd y cyfranogwyr yn Y Cyfryngau ym Mywyd Plant am deimlo’n fwyfwy hunanymwybodol ynghylch sut roedden nhw’n portreadu eu hunain ar-lein – gan bostio’n anaml, i gylchoedd cyfyngedig, neu ddim o gwbl. Roedd rhai plant yn creu fideos a ffotograffau wedi’u golygu neu eu hidlo, ond roedden nhw’n eu cadw yn eu ‘drafftiau’, heb unrhyw fwriad o’u postio.

Taro cydbwysedd sgrin-bywyd-lles

Mae ymchwil heddiw hefyd yn cynnwys ymchwiliad trylwyr i fywydau ar-lein pobl ifanc hŷn yn eu harddegau ac oedolion ifanc rhwng 16 a 24 oed. Mae’r grŵp hwn ymysg y defnyddwyr mwyaf prysur ar-lein, fel arfer yn defnyddio naw gwefan neu ap cyfathrebu ar-lein yn rheolaidd – o’i gymharu â chwech ar gyfartaledd i oedolion sy’n defnyddio’r rhyngrwyd. Mae bron i naw o bob 10 (87%) yn defnyddio’r pedwar math o gyfathrebu ar-lein – cyfryngau cymdeithasol, negeseuon, rhannu fideos a ffrydio byw – llawer uwch na’r defnyddiwr cyffredin (61%).

Yn yr un modd â phlant iau, mae Snapchat a TikTok wedi dod yn fwy poblogaidd ymysg pobl ifanc 16-24 oed dros y flwyddyn ddiwethaf, gan basio Instagram fel y llwyfan cyfryngau cymdeithasol roedden nhw’n dweud roedden nhw’n ei ddefnyddio amlaf. Mae BeReal – ap sy’n gofyn i ddefnyddwyr rannu, unwaith y dydd, lun go iawn heb ei hidlo gyda ffrindiau – hefyd wedi gweld twf nodedig ymysg y grŵp oedran hwn, gyda’r defnydd yn cynyddu o 9% i 22% rhwng gwanwyn a hydref 2022.

Roedd ychydig dros hanner (51%) y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol rhwng 16 a 24 oed yn meddwl eu bod yn treulio gormod o amser ar y cyfryngau cymdeithasol: i fyny o 42% yn 2021, ac yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd (32%). Ond maen nhw hefyd yn gosod ffiniau. Roedd y grŵp hwn yn llawer mwy tebygol na’r cyfartaledd o gymryd seibiant bwriadol o ddefnyddio unrhyw apiau cyfryngau cymdeithasol (36% o’i gymharu â chyfartaledd o 25%) neu ddileu apiau i osgoi treulio gormod o amser arnyn nhw (32% o’i gymharu â chyfartaledd o 23%).

Mae pobl hŷn yn eu harddegau ac oedolion ifanc hefyd yn fwy tebygol ar y cyfan o chwilio am gynnwys a gwasanaethau ar-lein sy’n cefnogi eu lles (89% o’i gymharu â 78% o’r holl oedolion ar-lein). Yn benodol, mae defnyddio gwefannau neu apiau sydd wedi’u dylunio i helpu i ymlacio (44% o’i gymharu â 34%), gwella hwyliau (43% o’i gymharu â 26%), helpu i gysgu (37% o’i gymharu â 22%), rheoli gorbryder (33% o’i gymharu â 19%), dilyn rhaglen ffitrwydd neu olrhain iechyd (29% o’i gymharu â 24%), myfyrio (21% o’i gymharu â 15%) neu deimlo eu bod wedi cael egni newydd (20% o’i gymharu â 11%) yn uwch na’r cyfartaledd ymysg y grŵp oedran 16-24 hwn o ddefnyddwyr rhyngrwyd.

Nodiadau i olygyddion

  1. Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau yw rhaglen waith Ofcom i helpu i wella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ar-lein oedolion a phlant y Deyrnas Unedig. Mae’r astudiaethau ymchwil a nodir isod yn elfen graidd o’r rhaglen hon.

    Plant a Rhieni: Agweddau a Defnydd o Gyfryngau 2023: mae’n darparu tystiolaeth ar ddefnyddio’r cyfryngau, agweddau a dealltwriaeth ymysg plant 3-17 oed yn y DU, yn ogystal â safbwynt rhieni o ran ymddygiad eu plentyn (3-17 oed) ar y cyfryngau a’r strategaethau maen nhw’n dibynnu arnynt i amddiffyn eu plentyn ar-lein. Mae’r traciwr yn cynnwys tri arolwg: ymddygiad ac agweddau plant ar-lein, gwybodaeth a dealltwriaeth plant ar-lein, ac arolwg rhieni yn unig.

    • Agweddau ac ymddygiad plant ar-lein: gwaith maes, 5-27 Mai 2022 (W1), 3-24 Tachwedd 2022 (W2); sampl o 6,795 o blant 8-17 oed a rhieni plant 3-17 oed; methodoleg, panel ar-lein
    • Gwybodaeth a dealltwriaeth plant ar-lein: gwaith maes, 13 Hydref-14 Tachwedd 2022; sampl o 2,087 o blant 8-17 oed; methodoleg, panel ar-lein
    • Arolwg rhieni yn unig: gwaith maes, 3 Hydref – 30 Tachwedd 2022; sampl o 2,526 o rieni plant 3-17 oed; methodoleg, cymysgedd o baneli ar-lein ac arolygon post-i’r-we

    Y Cyfryngau ym Mywyd Plant 2023: mae’n darparu astudiaeth ansoddol gyfoethog a manwl sy’n ategu arolygon meintiol Ofcom o lythrennedd yn y cyfryngau. Mae’n ymdrin â’r cymhellion a’r cyd-destun ar gyfer defnyddio’r cyfryngau a sut mae’r cyfryngau’n rhyngweithio â bywyd bob dydd ac amgylchiadau domestig y plant yn yr astudiaeth. Mae’n astudiaeth hydredol sy’n seiliedig ar sampl o 21 o blant – cyn belled ag y bo modd, mae’n dilyn yr un grŵp o blant rhwng 8 ac 17 oed, gan gynnal cyfweliadau wedi’u ffilmio gyda nhw bob blwyddyn i gael gwybod am eu hagweddau a’u harferion ar y cyfryngau a sut y gallent fod wedi newid.

    Mae’r astudiaeth yn defnyddio methodoleg tair rhan i ymgorffori ymddygiad gwirioneddol yn ogystal ag ymddygiad sy’n cael ei hunan-adrodd. Mae’n cynnwys cyfweliad archwiliadol cychwynnol 2-3 awr; y plant yn cofnodi eu gweithgareddau cyfryngau eu hunain (gan gwblhau dyddiadur cyfryngau chwe diwrnod – sy’n cynnwys crynodeb data dyddiol ‘amser sgrin’ o’u ffonau clyfar, gwneud dwy dasg recordio sgrin 15 munud a chaniatáu i’r ymchwilwyr dracio eu defnydd o gyfryngau cymdeithasol dros gyfnod o ddwy wythnos); a chyfweliad dilynol 45 munud terfynol lle mae’r plant yn myfyrio ar eu hymddygiad cyfryngau eu hunain h.y. mae’r ymddygiadau wedi dod yn amlwg drwy ddwy elfen gyntaf yr astudiaeth.

    Agweddau Oedolion a’u Defnydd o Gyfryngau 2023: mae’n darparu tystiolaeth am y defnydd o gyfryngau, agweddau a dealltwriaeth ymysg oedolion yn y DU. Mae’r traciwr yn cynnwys tri arolwg: yr arolwg craidd, ymddygiad ac agweddau ar-lein, a gwybodaeth a dealltwriaeth ar-lein.

    • Arolwg craidd: gwaith maes, Medi-Tachwedd 2022; sampl o 3651 o oedolion 16 oed a hŷn; methodoleg, panel wyneb yn wyneb ac ar-lein cymysg
    • Ymddygiad ac agweddau ar-lein: gwaith maes, Ebrill-Mai 2022 (W1) a Hydref-Tachwedd 2022 (W2); sampl o 6100 o oedolion 16+ oed ar-lein; methodoleg, panel ar-lein
    • Gwybodaeth a dealltwriaeth ar-lein: gwaith maes, Hydref-Tachwedd 2022; sampl o 3041 o oedolion 16+ oed; methodoleg, panel ar-lein

    Y Cyfryngau ym Mywyd Oedolion 2023: mae’n darparu astudiaeth ansoddol gyfoethog a manwl sy’n ategu arolygon meintiol Ofcom o lythrennedd yn y cyfryngau o ran y cymhellion a’r cyd-destun ar gyfer defnyddio’r cyfryngau a sut mae’r cyfryngau’n rhyngweithio â bywyd bob dydd ac amgylchiadau domestig yr oedolion yn yr astudiaeth. Mae hwn yn brosiect hydredol, ethnograffig sydd wedi bod ar waith ers 2005. Mae’r ymchwil yn dilyn 20 o gyfranogwyr dros amser – gyda 12 ohonynt wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth ers o leiaf 15 mlynedd – sy’n cael eu cyfweld gartref i ddeall eu perthynas â’r cyfryngau digidol. Eleni, cafodd cyfweliadau o hyd at 90 munud eu cynnal wyneb yn wyneb yn y cartref yn bennaf, gyda thri chyfweliad yn cael eu cynnal dros Zoom.

  2. Mae bron iawn pob plentyn 3-17 oed yn defnyddio YouTube/YouTube Kids. Mae TikTok a Snapchat yn llawer mwy tebygol o gael eu defnyddio gan blant hŷn. Sylwch mai’r cyfrannau hyn yw’r rheini sy’n defnyddio’r llwyfannau hyn, nid sydd â phroffil arnyn nhw.

Plant sy’n defnyddio’r rhyngrwyd gan ddefnyddio YouTube/TikTok/Snapchat yn 2022

See also...