27 Chwefror 2023

Rhegu, noethni a rhyddiad mynegiant – datgelu sut mae Ofcom yn trin cwynion teledu

Yn y bennod hon o bodlediad Ofcom, Life Online, rydym yn trafod ein rôl fel rheoleiddiwr darlledu.

Pam mae pobl yn teimlo cymhelliant i gwyno wrth Ofcom, beth sy'n digwydd pan fyddant - ac a yw cyfryngau cymdeithasol yn annog mwy o gwynion - am deledu realiti'n benodol?

Mewn sgwrs sy'n amrywio o ryddid mynediad o noethni llwyr, mae'r newyddiadurwr a darlledwr Pandora Sykes, beirniad teledu a darlledwr Scott Bryan a Chyfarwyddwr Safonau a Diogelu Cynulleidfaoedd Adam Baxter yn trafod sut mae pobl yn teimlo am deledu realiti a pham nad oes y fath beth â hawl i beidio â chael eich tramgwyddo gan yr hyn a glywch nag a welwch ar y teledu neu'r radio.

Gallwch wylio ar YouTube a gwrando ar Spotify neu ble bynnag rydych chi'n cael eich podlediadau.

Mae fersiwn o'r podlediad ar gael gydag isdeitlau Cymraeg a, chyn bo hir, bydd gennym bodlediad newydd yn y Gymraeg. Yn y cyfamser, beth am wrando ar ein podlediad Cymraeg blaenorol, Y cyfryngau anghymdeithasol?

Related content