Datgelu pwy yw’r darparwyr telegyfathrebiadau a theledu-drwy-dalu y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi’r ffigurau diweddaraf ar gyfer cwynion a gafwyd am y prif ddarparwyr ffonau llinell dir, ffonau symudol, band eang a theledu-drwy-dalu yn y DU rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2022.
Dyma grynodeb o’r hyn mae’r data cwynion diweddaraf yn ei ddangos:
- Parhaodd Shell Energy i fod y darparwr ffôn llinell dir a band eang a gafodd y nifer mwyaf o gwynion, gan ddenu mwy o gwynion am ei wasanaeth ffôn llinell dir nag yn y chwarter blaenorol (Gorffennaf i Medi 2022). Roedd y cwynion a wnaed gan gwsmeriaid yn ymwneud yn bennaf â namau, gwasanaeth a darpariaeth.
- Sky eto a gynhyrchodd y nifer lleiaf o gwynion am fand eang, gydag EE a Sky yn aros yn gydradd fel y darparwyr llinell dir y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdanynt.
- BT Mobile, Virgin Mobile ac O2 oedd y gweithredwyr symudol y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt, gyda chwsmeriaid yn cwyno’n bennaf am sut cafodd eu cwynion eu trin (BT Mobile, Virgin Mobile), eu profiad o namau, gwasanaeth a darpariaeth (O2), yn ogystal â phroblemau wrth newid darparwr (BT Mobile). Sky Mobile, EE, Tesco Mobile a Three a ddenodd y nifer lleiaf o gwynion yn y sector ffôn symudol.
- Virgin Media a BT oedd y darparwyr gwasanaeth teledu-drwy-dalu a gafodd y nifer fwyaf o gwynion. Roedd cwsmeriaid Virgin Media yn fwyaf tebygol o fod yn anfodlon â sut roedd yn delio â’u cwynion, ac roedd cwsmeriaid BT yn cwyno am eu profiadau o namau, gwasanaeth a darpariaeth. Sky gafodd y nifer lleiaf o gwynion am deledu-drwy-dalu.
Rydym yn parhau i boeni am y nifer fawr o gwynion y mae Shell yn eu cael yn gyson. Rydym yn parhau i ymgysylltu’n agos â’r darparwr ynghylch ei gynlluniau i godi ei safonau gwasanaeth i gwsmeriaid, ac rydym yn disgwyl gweld gwelliannau dros y misoedd nesaf.
Roedd nifer y cwynion a gawsom yn ystod y cyfnod hwn yn debyg i’r chwarter blaenorol. Roedd cwynion am wasanaethau llinell dir a theledu-drwy-dalu wedi gostwng rhywfaint, tra bod y cwynion am wasanaethau band eang sefydlog a ffôn symudol talu’n fisol wedi aros yr un fath.
Flwyddyn ar ôl blwyddyn, roedd nifer y cwynion a gawsom am wasanaethau band eang wedi cynyddu ychydig, ac roedd y cwynion am wasanaethau ffôn llinell dir, symudol talu’n fisol a theledu-drwy-dalu wedi aros yr un fath.
Band eang sefydlog
Llinell dir
Symudol talu'n fisol
Teledu-drwy-dalu
Pam rydym yn cyhoeddi’r data hwn
Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU, rydym yn cael cwynion gan gwsmeriaid am eu gwasanaethau ffôn llinell dir, band eang, ffôn symudol talu’n fisol a theledu-drwy-dalu.
Rydym yn casglu’r data hwn er mwyn deall yn well pam mae cwsmeriaid yn anfodlon. Mae hyn yn helpu pobl i gymharu darparwyr pan fyddant yn chwilio am wasanaeth newydd – ac mae hefyd yn helpu i annog cwmnïau i wella eu perfformiad.
Er na allwn ni ddatrys cwynion unigol, rydym yn cynnig cyngor i bobl am y gwasanaethau telegyfathrebiadau a theledu-drwy-dalu maent yn eu defnyddio, a gall yr wybodaeth rydym yn ei derbyn arwain at lansio ymchwiliadau.
Os ydych chi’n cael problemau gyda’ch ffôn llinell dir, band eang, ffôn symudol neu deledu-drwy-dalu, dylech chi gwyno wrth eich darparwr yn gyntaf. Os ydych yn anfodlon â'r canlyniad, gallwch chi wneud cwyn i ombwdsmon annibynnol, a fydd yn edrych ar yr achos, ac yn dod i benderfyniad ynghylch hynny.