26 Hydref 2023

Creu bywyd mwy diogel ar-lein i bobl yn y DU

Heddiw, derbyniodd y Ddeddf Diogelwch Ar-lein Gydsyniad Brenhinol, sy'n golygu bod pwerau Ofcom fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein wedi cychwyn yn swyddogol.

Rydym bellach yn symud yn gyflym i weithredu'r cyfreithiau newydd a heddiw rydym wedi cyhoeddi ein dull rheoleiddio a'n llinellau amser. Rydym hefyd yn nodi sut y byddwn yn sbarduno newid yn unol â nodau’r Ddeddf ac yn cefnogi gwasanaethau i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol newydd.

Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn gwneud cwmnïau sy'n gweithredu ystod eang o wasanaethau ar-lein poblogaidd yn gyfreithiol gyfrifol am gadw pobl, yn enwedig plant, yn ddiogel ar-lein. Rhaid i wasanaethau wneud hyn drwy asesu a rheoli risgiau diogelwch sy'n codi yn sgil cynnwys ac ymddygiad ar eu gwefannau a'u hapiau.

Mae'r gwasanaethau sydd o fewn cwmpas y rheolau newydd yn cynnwys gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr fel gwasanaethau ar gyfryngau cymdeithasol i rannu lluniau a fideos, llwyfannau sgwrsio a negeseua gwib, gemau ar-lein ac ar ddyfeisiau symudol, yn ogystal â gwasanaethau chwilio a safleoedd pornograffi.

Rôl Ofcom

Ein ffocws ni fydd y gwasanaethau a'r nodweddion sy'n peri’r risg fwyaf o niwed i ddefnyddwyr y DU. Bydd hyn yn golygu goruchwylio'r gwasanaethau mwyaf a mwyaf peryglus yn rheoleiddiol yn barhaus.

Mae’n bwysig nodi na fyddwn yn cyfarwyddo cwmnïau i ddileu darnau penodol o gynnwys na thynnu cyfrifon penodol i lawr. Yn hytrach, byddwn yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol cynnwys ar-lein sy'n anghyfreithlon ac yn niweidiol i blant, trwy geisio sicrhau gwelliannau systemig ar draws y diwydiant - a thrwy hynny lleihau'r risg ar raddfa, yn hytrach na chanolbwyntio ar achosion unigol.

Bydd angen i ni daro cydbwysedd priodol, gan ymyrryd i amddiffyn defnyddwyr rhag niwed lle bo angen, tra’n sicrhau bod rheoleiddio yn diogelu preifatrwydd a rhyddid mynegiant yn briodol, ac yn hyrwyddo arloesedd.

Sut y byddwn yn ysgogi newid

Rydym yn disgwyl i'r diwydiant weithio gyda ni ac rydym yn disgwyl newid. Yn benodol, byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod cwmnïau technoleg:

  • yn meddu ar ddulliau llywodraethu diogelwch cryfach, fel bod diogelwch defnyddwyr yn cael ei gynrychioli ar bob lefel o'r sefydliad – o'r Bwrdd i lawr i dimau cynnyrch a pheirianneg;
  • yn dylunio a gweithredu eu gwasanaethau gyda diogelwch mewn golwg;
  • yn galluogi defnyddwyr i gael mwy o ddewis a rheolaeth dros eu profiad ar-lein; a’u bod
  • yn fwy tryloyw ynghylch eu mesurau diogelwch a'u penderfyniadau i hyrwyddo ymddiriedaeth.

Pan fyddwn yn nodi methiannau i gydymffurfio, gallwn osod dirwyon o hyd at £18m neu 10% o’r refeniw byd-eang sy’n cymhwyso (p’un bynnag sydd fwyaf).

"Mae'r cyfreithiau newydd hyn yn rhoi'r pŵer i Ofcom ddechrau gwneud gwahaniaeth go iawn wrth greu bywyd mwy diogel ar-lein i blant ac oedolion yn y DU. Rydym eisoes wedi hyfforddi a chyflogi timau arbenigol sydd â phrofiad ar draws y sector ar-lein, a heddiw rydym yn nodi llinell amser glir ar gyfer dwyn cwmnïau technoleg i gyfrif.

"Nid sensor mo Ofcom, ac nid diben ein pwerau newydd yw tynnu cynnwys i lawr. Ein gwaith ni yw mynd i'r afael ag achosion sylfaenol niwed. Byddwn yn gosod safonau newydd ar-lein, gan sicrhau bod safleoedd ac apiau yn fwy diogel trwy ddylunio. Mae’n bwysig nodi y byddwn hefyd yn cymryd ystyriaeth lawn o hawliau pobl i breifatrwydd a rhyddid mynegiant. Rydym yn gwybod nad oes modd cyflawni bywyd mwy diogel ar-lein dros nos; ond mae Ofcom yn barod i ateb graddau a natur frys yr her."

y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom

Map gweithredu

Bydd y cyfreithiau newydd yn cael eu cyflwyno mewn tri cham fel a ganlyn, gyda'r amseru yn cael ei yrru gan ofynion y Ddeddf ac is-ddeddfwriaeth berthnasol:

Cam un: Cynnwys anghyfreithlon

Rydym yn cyhoeddi ein hymgynghoriad cyntaf ar niwed anghyfreithlon - gan gynnwys deunydd yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol, cynnwys terfysgol a thwyll - ar 9 Tachwedd 2023. Bydd hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer sut y gall gwasanaethau gydymffurfio â'r dyletswyddau diogelwch cynnwys anghyfreithlon a'r Codau Ymarfer drafft.

Cam dau: Diogelwch plant, pornograffi, ac amddiffyn menywod a merched

Bydd ein hymgynghoriad cyntaf, y disgwylir iddo gael ei gynnal ym mis Rhagfyr 2023, yn nodi canllawiau drafft ar gyfer gwasanaethau sy'n lletya cynnwys pornograffig. Bydd ymgynghoriadau pellach yn ymwneud â'r dyletswyddau Diogelwch Plant o dan y Ddeddf yn dilyn yng Ngwanwyn 2024, a byddwn yn cyhoeddi canllawiau drafft ar ddiogelu menywod a merched erbyn Gwanwyn 2025.

Cam tri: Dyletswyddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau wedi’u categoreiddio

Mae'r dyletswyddau hyn – gan gynnwys dyletswyddau i gyhoeddi adroddiadau tryloywder a defnyddio mesurau grymuso defnyddwyr – yn berthnasol i wasanaeth sy'n bodloni meini prawf penodol sy'n ymwneud â nifer eu defnyddwyr neu nodweddion eu gwasanaeth sy’n peri risg uchel.  Byddwn yn cyhoeddi cyngor i'r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch categoreiddio, a chanllawiau drafft ar ein dull o adrodd tryloywder, yng Ngwanwyn 2024. Yn amodol ar gyflwyno is-ddeddfwriaeth sy'n pennu'r trothwyon ar gyfer categoreiddio, rydym yn disgwyl cyhoeddi cofrestr o wasanaethau wedi’u categoreiddio erbyn diwedd 2024. Bydd cynigion pellach, gan gynnwys Cod Ymarfer drafft ar hysbysebu twyllodrus a hysbysiadau tryloywder twyllodrus yn dilyn yn gynnar ac yng nghanol 2025 yn y drefn honno, gyda'n codau a'n canllawiau terfynol yn cael eu cyhoeddi tua diwedd yr un flwyddyn.

Mae gwybodaeth fanylach (PDF, 1.4 MB) am y gwahanol gamau gweithredu ar gael ar ein gwefan.

We will implement online safety regulation (and the fees regime) in three phases. First, duties on illegal harms will become enforceable from around the end of 2024. Second, duties on the protection of children will become enforceable by Summer 2025. Finally, additional duties on categorised services will become enforceable in early 2026.

Related content