26 Mawrth 2024

Ofcom yn penodi Phil Henfrey yn Gyfarwyddwr Cymru

Mae Ofcom wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn penodi Phil Henfrey yn Gyfarwyddwr, Cymru.

Phil Henfrey

Cafodd Phil ei fagu yn Rhiwabon yng Ngogledd Cymru ac mae wedi bod yn enw amlwg ym myd newyddiaduraeth a darlledu yng Nghymru ers 34 mlynedd.

Mae’n ymuno o ITV, lle mae’n Bennaeth ITV Cymru Wales. Mae’r tîm mae’n ei arwain ar hyn o bryd yn cynhyrchu 278 awr yPhil Henfrey, Wales Director flwyddyn o raglenni newyddion a materion cyfoes gwasanaeth cyhoeddus am Gymru i ITV Cymru, ynghyd â rhaglenni a chynnwys digidol a gomisiynir gan ITV Network, S4C a BBC Cymru Wales. Mae’n rhan o Uwch Dîm Arwain ITV plc ac mae hefyd yn Aelod Anweithredol o Fwrdd Cymru Greadigol, asiantaeth Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r Diwydiannau Creadigol yng Nghymru. Mae’n byw ar waelod Cwm Rhondda gyda’i bartner a’u pedwar plentyn.

Fel Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru, bydd Phil yn gyfrifol am bob agwedd ar waith y sefydliad yng Nghymru. Ar y cyd â chydweithwyr ar draws Ofcom, bydd yn helpu i sicrhau ein bod yn gwbl effeithiol o ran cyflawni ein hamcanion a byddwn yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid ar hyd a lled Cymru.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno ag Ofcom a’i dîm talentog yng Nghymru fel Cyfarwyddwr Cymru. Bydd unrhyw un sy’n fy adnabod yn gwybod fy mod yn teimlo’n angerddol am Gymru a’r rôl hanfodol mae cyfathrebu’n ei chwarae ynddi.

“Mae annibyniaeth Ofcom a’i gysylltiad â’r bobl mae’n eu gwasanaethu yn ddau o’i gryfderau mawr, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm yn Ofcom a’r holl randdeiliaid yng Nghymru i helpu i gyflawni cenhadaeth Ofcom i sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb.”

- Phil Henfrey

“Mae Phil yn arweinydd profiadol a medrus dros ben a bydd yn dod â gwybodaeth ac arbenigedd gwerthfawr i Ofcom Cymru. Rwy’n gwybod y bydd Phil yn gwneud byd o wahaniaeth i sicrhau bod gwasanaethau cyfathrebu yn gweithio i unigolion, i deuluoedd ac i fusnesau ar hyd a lled Cymru. Rwy'n falch iawn o groesawu Phil i Ofcom.”

- Kate Biggs, Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus

Related content