8 Chwefror 2024

Yr Arglwydd Grade – mae angen i hysbysebwyr barhau'n effro i effaith niwed ar-lein

Yn gynharach heddiw siaradodd Cadeirydd Ofcom, yr Arglwydd Grade, yng Nghynhadledd LEAD y Gymdeithas Hysbysebu, lle tynnodd sylw at sut y dylai hysbysebwyr ystyried effaith niwed ar-lein ar eu henw da ac ar y sector hysbysebu ehangach.

Dyma ddarn dethol o'i araith.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod y manteision gwych y mae hysbysebu ar-lein yn eu darparu. Yn yr un modd, gwyddom fod angen gwella rhai agweddau ar y farchnad. Yn rhy aml, mae diffyg tryloywder neu atebolrwydd yn y gadwyn gyflenwi. Mae hysbysebion anghyfreithlon, twyll a chynnwys atgas yn bygwth niweidio enw da’r sector a phawb sydd ynddo. Mae cwmnïau technoleg yn gwneud penderfyniadau nawr am eu buddsoddiad mewn ymddiriedaeth a diogelwch. Mae'n bosibl y bydd y rhai sy'n methu â buddsoddi'n methu â chydymffurfio.

“Nid oes unrhyw hysbysebwr eisiau i’w gwaith creadigol, eu llais i’r defnyddiwr, eu brand, ymddangos ochr yn ochr â chynnwys gwenwynig, peryglus neu anghyfreithlon. Rwy'n gwybod faint rydych chi'n ei fuddsoddi yn eich brand; ac nid yw brand yn ddim byd heb ymddiriedaeth.

“Felly os ydych chi'n farchnatwr gydag arian i'w wario ar-lein; neu os ydych chi'n asiantaeth sy'n cynllunio ac yn prynu ar ran cleientiaid; fy neges i chi yw hyn. Mae diogelwch ar-lein yn digwydd nawr, ac mae gennych chi gyfle i chwarae'ch rhan - trwy achub y blaen ar y niwed.

“Ar gyfer brandiau ac asiantaethau, mae hyn yn ymwneud â gwneud ymddiriedaeth a diogelwch yn flaenoriaeth. Yn bennaf oll, mae'n ymwneud â sicrhau bod y llwyfannau rydych chi'n gwario arian arnynt yn ymwybodol o'u dyletswyddau newydd o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Ydych chi'n siŵr nad yw eich gwariant ar hysbysebion ar-lein yn niweidio'ch brandiau gwerthfawr trwy gael ei 'algorithmo' ochr yn ochr â chynnwys niweidiol, erchyll? Pa mor dda yw eich gwaith monitro ymgyrchoedd wrth gadw chi i ffwrdd o gynnwys niweidiol?

“Mae llawer ohonoch yn gofyn y cwestiynau hyn yn barod, ac yn mynnu atebion. Os nad ydych, nawr yw'r amser. Mae gan hysbysebwyr drosoledd unigryw yn y frwydr yn erbyn cynnwys niweidiol. Ond does neb eisiau bod yn ymateb i argyfwng, ac erbyn hynny mae'r difrod wedi'i wneud. Dyma’r cyfle i achub y blaen ar y niwed a brechu’ch brandiau yn erbyn potensial heintus niwed ar-lein.”