31 Ionawr 2024

Mae clicio unwaith mewn peiriannau chwilio yn gallu arwain at gynnwys am hunan-niweidio a hunanladdiad

  • Mae un canlyniad o bob pump a geir wrth chwilio am ‘hunan-niweidio’ yn mawrygu, yn dathlu neu’n dangos sut mae cyflawni ymddygiad niweidiol
  • Chwilio am ddelweddau sy’n arwain at y canlyniadau mwyaf niweidiol neu eithafol
  • Mae termau chwilio cryptig am hunan-niweidio yn golygu ei bod hi’n anodd canfod a chymedroli

Mae cynnwys sy’n mawrygu neu’n dathlu hunan-niweidio ar gael yn gyffredin drwy beiriannau chwilio’r Rhyngrwyd, rhybuddiodd Ofcom heddiw.

Mae ymchwil a wnaed ar ran Ofcom gan y Network Contagion Research Institute yn datgelu i ba raddau mae’r prif beiriannau chwilio – Google, Microsoft Bing, DuckDuckGo, Yahoo! ac AOL – yn gallu gweithio fel pyrth i dudalennau gwe, delweddau a fideos niweidiol sy’n ymwneud â hunan-niweidio.

Roedd yr ymchwilwyr wedi rhoi ymholiadau chwilio cyffredin am gynnwys hunan-niweidiol, yn ogystal â thermau cryptig sydd fel arfer yn cael eu defnyddio gan gymunedau ar-lein i guddio eu gwir ystyr. Fe wnaethon nhw ddadansoddi dros 37,000 o ddolenni a gafodd eu dychwelwyd gan y peiriannau chwilio.

Canfu’r astudiaeth, ar draws y pum prif beiriant chwilio:

  • Mae cynnwys niweidiol am hunan-niweidio yn gyffredin. Roedd un canlyniad o bob pump (22%) yn arwain, drwy glicio unwaith, at gynnwys sy’n dathlu, yn mawrygu neu’n cynnig cyfarwyddiadau am hunan-niweidio nad yw’n hunanladdiad, am hunanladdiad neu am anhwylderau bwyta. Roedd 19 y cant o'r dolenni uchaf un ar dudalen gyntaf y canlyniadau yn arwain at gynnwys sy’n hyrwyddo neu'n hybu’r ymddygiadau hyn, gan gynyddu i 22% o'r pum canlyniad uchaf ar y dudalen gyntaf.
  • Mae risgiau penodol yn perthyn i chwilio am ddelweddau. Chwilio am ddelweddau oedd yn arwain at y gyfran uchaf o ganlyniadau niweidiol neu eithafol (50%), wedi’i ddilyn gan dudalennau gwe (28%) a fideos (22%). Mae ymchwil eisoes wedi dangos bod delweddau’n gallu bod yn fwy tebygol o ysbrydoli hunan-niweidio. Hefyd, mae’n gallu bod yn anodd i algorithmau canfod wahaniaethu rhwng delweddau sy’n mawrygu hunan-niweidio a’r rheini sy’n cael eu rhannu mewn cyd-destun meddygol neu wella.
  • Mae termau chwilio cryptig yn datgelu mwy o gynnwys niweidiol. Mae pobl chwe gwaith yn fwy tebygol o ddod o hyd i gynnwys niweidiol am hunan-niweidio drwy ddefnyddio termau chwilio sy’n fwriadol aneglur, sy’n arfer cyffredin ymysg cymunedau ar-lein. Mae natur benodol ac esblygol y termau hyn yn peri heriau sylweddol i wasanaethau o ran canfod y deunyddiau hyn.[1]
  • Cyfeirir at gynnwys cymorth, cefnogaeth ac addysgol. Cafodd un canlyniad o bob pump (22%) ei gategoreiddio fel canlyniad ‘ataliol’, a oedd yn arwain at gynnwys a oedd yn canolbwyntio ar gael help i bobl – fel gwasanaethau iechyd meddwl neu ddeunyddiau addysgol am beryglon hunan-niweidio.

“Peiriannau chwilio yw man cychwyn profiad ar-lein pobl yn aml, ac rydyn ni’n poeni mai dim ond unwaith mae angen clicio wedyn i gyrraedd cynnwys niweidiol iawn am hunan-niweidio.

“Mae angen i wasanaethau chwilio ddeall eu risgiau posibl ac effeithiolrwydd eu mesurau amddiffyn – yn enwedig i gadw plant yn ddiogel ar-lein, cyn ein hymgynghoriad amrywiol a gynhelir yn y Gwanwyn.”

Almudena Lara, Cyfarwyddwr Datblygu Polisi Diogelwch Ar-lein yn Ofcom

Amddiffyn plant rhag cynnwys niweidiol

Mae rhai peiriannau chwilio yn cynnig mesurau diogelwch fel gosodiadau ‘chwilio diogel’ a phylu delweddau er mwyn cyfyngu ar gynnwys amhriodol i ddefnyddwyr. Ni chafodd y rhain eu defnyddio gan yr ymchwilwyr yn ein hastudiaeth.

Rhaid i wasanaethau chwilio weithredu i sicrhau eu bod yn barod i gyflawni eu gofynion o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Yn benodol, bydd yn rhaid iddynt gymryd camau i leihau’r siawns y bydd plant yn dod ar draws cynnwys niweidiol ar eu gwasanaeth – fel cynnwys sy’n hyrwyddo hunan-niweidio, hunanladdiad ac anhwylderau bwyta.

Wrth edrych ar lwybrau posibl plant at niwed drwy wasanaethau chwilio, mae adroddiad heddiw yn rhan bwysig o sylfaen dystiolaeth Ofcom i lywio ein dealltwriaeth o’r risgiau mae pobl ifanc yn eu hwynebu ar-lein.

Yn y gwanwyn, byddwn yn ymgynghori ar ein Codau Ymarfer Amddiffyn Plant. Bydd y Codau hyn yn nodi’r camau ymarferol y gall gwasanaethau chwilio eu cymryd i amddiffyn plant yn ddigonol.

Nodiadau i olygyddion:

1.Mae ‘gwagle-data’ yn broblem amlwg a heriol yn y cyd-destun hwn. Mae ‘gwagle data’ yn cyfeirio at sefyllfaoedd lle nad yw’r galw chwilio am allweddeiriau penodol yn cael ei fodloni â gwybodaeth ddibynadwy neu ddiogel, oherwydd natur aneglur gymharol y termau neu’r ymadroddion chwilio sy’n cael eu defnyddio. Mae’n bosibl felly bod defnyddio iaith gryptig i chwilio yn arwain at gynnwys mwy niweidiol, gan fod algorithmau yn ceisio darparu canlyniadau perthnasol, ond nid oes gwybodaeth ddiogel a chywir i lenwi’r bylchau hyn.

Related content