Diweddariad: Sut mae Ofcom yn paratoi i reoleiddio diogelwch ar-lein

15 Mehefin 2023

Heddiw, rydym yn cyhoeddi'r diweddariad hwn ar sut mae Ofcom yn paratoi i reoleiddio diogelwch ar-lein, gan gynnwys amserlenni disgwyliedig a'r hyn sydd wedi newid ers i ni gyhoeddi ein map ffordd.

Gyda'r Mesur Diogelwch Ar-lein yng nghamau olaf proses seneddol y DU, dyma grynodeb o'r prif ddatblygiadau ym mharatoadau Ofcom ar gyfer ein rôl newydd fel rheoleiddiwr ers i ni gyhoeddi ein map ffordd i reoleiddio ym mis Gorffennaf 2022:

Bydd gennym ymagwedd fesul cam o hyd at ymgynghoriadau ar godau ac arweiniad, ond mae'r amseriadau wedi newid

Rydym yn dal i fwriadu cyhoeddi ein codau a'n harweiniad mewn tri cham. Fodd bynnag, mae'r amseriad amcangyfrifedig ar gyfer y rhain a nodwyd gennym yn y map ffordd wedi'i ddiwygio. Ein rhagdybiaeth weithiol flaenorol oedd derbyn Cydsyniad Brenhinol yn gynnar yn 2023. Mae hynny bellach yn debygol o fod yn hydref 2023.

Pan fydd pwerau Ofcom yn cychwyn, byddwn yn dechrau cyhoeddi ein tri cham o ymgynghoriadau. Nodwn isod y cerrig milltir hynny a fydd o ddiddordeb arbennig i wasanaethau sy'n debygol o ddod o dan gwmpas y rheoleiddio. Dyma ein cynlluniau diweddaraf ynghylch yr hyn y bydd y rhain yn ei gynnwys a'r amserau cyhoeddi:

Cam un – dyletswyddau niweidiau anghyfreithlon

Ein hymrwymiad blaenorol oedd cyhoeddi ein Codau Ymarfer drafft cyntaf o fewn 100 diwrnod ar ôl i'n pwerau ddechrau. Gan i ni gael mwy o amser bellach i baratoi'r rhain, rydym yn awr yn disgwyl cyhoeddi'r codau yn fuan iawn ar ôl cychwyn. Bydd y rhain yn nodi'r mesurau y gall gwasanaethau wedi'u rheoleiddio eu cymryd i liniaru'r risg o niwed anghyfreithlon.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi:

  • cofrestr risgiau sy'n ymwneud â chynnwys anghyfreithlon, a phroffiliau risg o nodweddion gwasanaeth y mae ein hasesiad wedi nodi eu bod yn gysylltiedig â risg uwch o niwed;
  • arweiniad drafft ar gyfer gwasanaethau ar sut i gynnal eu hasesiadau risg eu hunain ac ar sut y gall gwasanaethau nodi cynnwys anghyfreithlon;
  • arweiniad drafft ar gadw cofnodion; a
  • chanllawiau gorfodi drafft Ofcom.

Cam dau – dyletswyddau diogelwch plant a phornograffi

Bydd dyletswyddau amddiffyn plant yn cael eu disgrifio mewn dwy ran. Yn gyntaf, bydd gwasanaethau pornograffi ar-lein a rhanddeiliaid eraill â diddordeb yn gallu darllen ac ymateb i'n harweiniad drafft ar sicrwydd oedran o hydref 2023 (yn amodol ar siâp terfynol y Mesur ac amseriad y Cydsyniad Brenhinol). Bydd hyn yn berthnasol i'r holl wasanaethau sy'n dod o dan gwmpas Rhan 5 y Mesur Diogelwch Ar-lein.

Yn ail, bydd gwasanaethau wedi'u rheoleiddio a rhanddeiliaid eraill â diddordeb yn gallu darllen ac ymateb i Godau Ymarfer drafft mewn perthynas ag amddiffyn plant, tua chwe mis ar ôl i'n pwerau ddechrau.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn disgwyl ymgynghori ar:

  • cofrestr risgiau a phroffiliau risg sy'n ymwneud â niwed i blant; ac
  • arweiniad asesu risg drafft sy'n canolbwyntio ar niwed i blant.

Cam tri – tryloywder, grymuso defnyddwyr, a dyletswyddau eraill ar lwyfannau wedi'u categoreiddio

Bydd cyfran fach o wasanaethau wedi'u rheoleiddio'n wasanaethau Categori 1, 2A neu 2B os ydynt yn bodloni trothwyon penodol a nodir mewn is-ddeddfwriaeth sydd i'w gwneud gan Lywodraeth y DU. Mae ein cam gweithredu olaf yn canolbwyntio ar ofynion ychwanegol ar gyfer y gwasanaethau wedi'u categoreiddio hyn yn unig. Mae'r gofynion hynny'n cynnwys dyletswyddau i:

  • gynhyrchu adroddiadau tryloywder;
  • darparu offer grymuso defnyddwyr;
  • gweithredu'n unol â thelerau gwasanaeth;
  • amddiffyn mathau penodol o gynnwys newyddiadurol; ac
  • atal hysbysebu twyllodrus.

Mae'n rhaid i Ofcom gynhyrchu cofrestr o'r gwasanaethau wedi'u categoreiddio hyn. Byddwn yn rhoi cyngor i Lywodraeth y DU ar y trothwyon ar gyfer y categorïau hyn, a bydd Llywodraeth y DU wedyn yn gwneud is-ddeddfwriaeth ar gategoreiddio. Bydd gan ddiwydiant a rhanddeiliaid eraill gyfle i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth i ni a fydd yn cyfeirio ein cyngor i Lywodraeth y DU drwy Gais am Dystiolaeth y byddwn yn ei chyhoeddi yn haf 2023.

Rydym wedyn yn bwriadu rhoi ein cyngor i Lywodraeth y DU tua chwe mis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Byddwn yn cyhoeddi'r gofrestr gwasanaethau cyn gynted â phosib ar ôl i Lywodraeth y DU basio is-ddeddfwriaeth ar gategoreiddio.

Byddwn yn ymgynghori â diwydiant a rhanddeiliaid eraill ar sylwedd y dyletswyddau cyffredinol ar gyfer gwasanaethau wedi'u categoreiddio unwaith y bydd ein pwerau'n cychwyn. Rydym yn anelu at ymgynghori ar ein harweiniad tryloywder yn y cyfnod rhwng Cydsyniad Brenhinol a chwblhau'r gofrestr gwasanaethau gan Ofcom, er mwyn i ni lansio ein cyfundrefn dryloywder cyn gynted â phosib. Byddwn wedyn yn ymgynghori ar y codau ac arweiniad sy'n weddill ar ôl cyhoeddi'r gofrestr. Wrth baratoi, rydym yn bwriadu cyhoeddi Cais am Dystiolaeth pellach yn hydref 2023 ar y dyletswyddau sy'n berthnasol i wasanaethau wedi'u categoreiddio.

Ein Grŵp Diogelwch Ar-lein newydd

Aeth Grŵp Diogelwch Ar-lein (OSG) newydd yn Ofcom yn fyw ar 1 Ebrill 2023 gyda Gill Whitehead wedi'i phenodi'n Gyfarwyddwr y Grŵp. Mae'r grŵp yn elwa o ystod eang o arbenigedd gan gynnwys pobl a weithiodd yn y cwmnïau technoleg mwyaf ac arbenigwyr mewn niweidiau penodol.

Mae'r OSG yn dod â sawl tîm ynghyd:

  • Y tîm datblygu polisi sy'n cynnwys arbenigwyr polisi mewn niweidiau ar-lein a mesurau lliniaru. Maent yn arwain y gwaith o ddatblygu, ymgynghori a mireinio safbwyntiau polisi sy'n sefydlu'r camau y dylai gwasanaethau eu cymryd i wneud defnyddwyr yn ddiogel ar-lein.
  • Y tîm cyflwyno strategaeth sy'n sicrhau bod gan ein gwaith diogelwch ar-lein ffocws strategol clir a'r cydlyniad gweithredol trawsbynciol sydd ei angen i gyflawni yn erbyn ein blaenoriaethau. Mae hefyd yn arwain ar y strategaeth partneriaethau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid nad ydynt wedi'u rheoleiddio, megis cymdeithas sifil a gorfodi'r gyfraith.
  • Y tîm goruchwyliaeth newydd a fydd yn arwain ymgysylltiad Ofcom â gwasanaethau ar-lein, a fydd yn ceisio gyrru gwelliannau yn y ffordd y mae'r gwasanaethau sydd â'r effaith fwyaf yn gwarchod eu defnyddwyr, a sicrhau bod gwasanaethau llai yn deall y rheoliadau newydd ac yn gallu cydymffurfio â nhw.
  • Mae'r timau polisi technoleg a thechnoleg ymddiriedaeth a diogelwch, wedi'u ffurfio o arbenigwyr pwnc sy'n rhoi tystiolaeth a ddealltwriaeth i Ofcom o sut mae technolegau newydd a thechnolegau datblygol yn dylanwadu ar ddiogelwch ar-lein. Mae'r timau hyn hefyd yn cynnig arbenigedd technegol, ymgynghoriaeth ac arweiniad i gydweithwyr ar draws y grŵp.

Mae'r OSG hefyd yn gyfrifol am waith Ofcom o reoleiddio llwyfannau rhannu fideos (VSPs). Ein nodau bras wrth gyflwyno'r gyfundrefn VSP yw codi safonau, mynd i'r afael â diffyg cydymffurfio, cynyddu tryloywder, a pharatoi ar gyfer y gyfundrefn yn y dyfodol. Mae ein hadroddiad VSP cyntaf yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn ein blwyddyn gyntaf a'n strategaeth ar gyfer yr ail flwyddyn.

Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pellach os bydd newidiadau sylweddol pellach i'r amserlen neu i'r ymagwedd a nodwyd uchod.

Efallai y gwnaethoch chi golli...

Ers cyhoeddi ein Map Ffordd ym mis Gorffennaf 2022, rydym wedi cyhoeddi sawl papur ac adroddiad sy'n ymwneud â'n gwaith diogelwch ar-lein, yn ogystal â nifer o gyhoeddiadau am gamau gorfodi, cydweithredu rhyngwladol a mwy. Dyma rai enghreifftiau: