Arweiniad: Llwyfannau rhannu fideos: pwy sydd angen hysbysu Ofcom?
O 6 Ebrill 2021, mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar ddarparwyr llwyfannau rhannu fideos (VSP) yn awdurdodaeth y DU i gyflwyno hysbysiad ffurfiol am eu gwasanaeth i Ofcom.
Math o wasanaeth fideo ar-lein yw VSP sy'n caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho a rhannu fideos gyda'r cyhoedd. Ar 1 Tachwedd 2020, daeth y Rheoliadau Gwasanaethau Cyfryngau Clyweled (AVMS) i rym, gan sefydlu rheolau newydd ar gyfer VSP a sefydlir yn y DU.
Mae meini prawf cyfreithiol penodol sy'n pennu a yw gwasanaeth yn bodloni'r diffiniad o VSP, ac a yw'n dod o fewn awdurdodaeth y DU. Y mae VSP yn gyfrifol am hunanasesu a yw’n bodloni'r meini prawf hyn. Os yw'n ymddangos bod gwasanaeth yn bodloni'r meini prawf statudol ond nad yw wedi rhoi gwybod i ni, mae gennym bwerau statudol i ofyn am wybodaeth er mwyn gwneud asesiad, ac i gymryd camau gorfodi os yw darparwr wedi methu â hysbysu. Gall hyn gynnwys sancsiwn ariannol a chyfarwyddo'r darparwr i hysbysu.
Nod yr arweiniad hwn yw helpu darparwyr i asesu a yw eu gwasanaeth o fewn cwmpas, a fydd yn golygu bod angen ei hysbysu i ni, a darparu tryloywder o ran sut rydym yn debygol o ddehongli'r meini prawf statudol.
Arweiniad: Llwyfannau rhannu fideos: pwy sydd angen hysbysu Ofcom? (PDF, 142.0 KB)
Daw'r rhwymedigaeth i hysbysu i rym ar 6 Ebrill 2021 a bydd gan ddarparwyr VSP presennol a sefydlir yn y DU tan 6 Mai 2021 i hysbysu i Ofcom am eu gwasanaeth. Ym mhob achos arall, mae'n ofynnol i ddarparwyr roi gwybod ymlaen llaw i Ofcom am eu bwriad i ddarparu gwasanaeth VSP o leiaf 10 niwrnod gwaith cyn ei lansio.
Os oes gennych gwestiynau am reoleiddio VSPs gan Ofcom, gyrrwch e-bost i vspregulation@ofcom.org.uk