Rhoi gwybod i Ofcom am lwyfan rhannu fideos


Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar bwy sydd angen hysbysu Ofcom am wasanaeth. Bwriad y canllawiau hyn yw helpu darparwyr i hunanasesu a yw eu gwasanaethau'n bodloni'r diffiniad o lwyfan rhannu fideos ac a yw eu gwasanaeth yn dod o fewn awdurdodaeth y DU.

Gallwch roi gwybod i Ofcom am wasanaeth drwy gyflwyno ffurflen hysbysu ar-lein. Cyfeiriwch at y canllawiau wrth lenwi'r ffurflen.