Gwella eich profiad wifi


Mae'r rhyngrwyd yn chwarae rôl bwysig yn ein bywydau. Rydym yn dibynnu arno i gyfathrebu, gweithio, dysgu a chael hwyl. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn defnyddio wifi i gysylltu dyfeisiau fel ffonau symudol, gliniaduron a llechi â'n cysylltiad rhyngrwyd band eang cartref heb wifrau. Mae hyn yn ei gwneud yn bwysig bod ein wifi yn diwallu ein hanghenion. Yma, rydym yn nodi ffyrdd y gallwch wella eich wifi.

Ond yn gyntaf, mae cwestiwn pwysig y dylech ei ofyn:

Oes angen band eang gwell arnoch chi?

Mae sawl ffordd o wella eich wifi cartref ond ni waeth pa mor dda ydyw, ni fydd eich cysylltiad wifi byth yn perfformio'n well na'ch gwasanaeth band eang. Os yw eich cysylltiad diwifr yn araf neu os oes gennych broblemau pan fydd llawer o bobl yn cysylltu ar yr un pryd, efallai mai eich gwasanaeth band eang chi yw'r broblem. Gallai uwchraddio i wasanaeth band eang cyflymach drwsio hyn.

Beth allaf ei wneud i wella fy wifi?

Symud eich llwybrydd

Gall lleoliad eich llwybrydd effeithio ar eich wifi. Mae signalau wifi yn gwanhau wrth iddynt fynd drwy wrthrychau ac mae rhai deunyddiau'n rhwystro'r signal yn fwy nag eraill. Er enghraifft, fel arfer mae'n anos cael wifi drwy dŷ gyda waliau brics mewnol nag un gyda waliau gwag. Mae dŵr, metel a gwydr hefyd yn rhwystro'r signal, felly mae'n well rhoi eich llwybrydd i ffwrdd o wrthrychau fel rheiddiaduron a thanciau pysgod.

Mae llwybryddion yn anfon wifi i bob cyfeiriad, felly bydd gosod y llwybrydd yn ganolog yn y cartref ac oddi ar y llawr (er enghraifft, ar silff) yn golygu nad yw'r signal wifi yn cael ei golli drwy gael ei anfon y tu allan neu i mewn i'r ddaear. Os oes gan eich llwybrydd fwy nag un erail, pwyntiwch nhw i gyfeiriadau gwahanol (er enghraifft yn fertigol ac yn llorweddol) i sicrhau'r darpariaeth fwyaf sy'n bosib.

Gall rhai dyfeisiau trydanol ymyrryd â signal y llwybrydd, felly rhowch eich llwybrydd i ffwrdd o offer trydanol eraill, fel popty microdon, monitorau babanod, goleuadau addurniadol a ffonau diwifr.

Uwchraddio eich llwybrydd i fodel mwy diweddar

Os oes gennych fodel hŷn o lwybrydd, neu os yw'n datgysylltu'n aml, gallech elwa o uwchraddio eich llwybrydd. Yn aml, gall y llwybryddion diweddaraf gynnal nifer uwch o ddyfeisiau cysylltiedig a chynnig gwell signal a chyflymder na modelau hŷn.

Siaradwch â'ch darparwr band eang – efallai y byddant yn gallu anfon llwybrydd mwy newydd atoch. Opsiwn arall yw prynu llwybrydd nad yw'n cael ei ddarparu gan eich darparwr band eang. Gall y rhain ddarparu gwell wi-fi ond gallant fod yn anodd i'w gosod ac efallai na fydd eich darparwr band eang yn gallu eich helpu os bydd problem.

Defnyddio rhwydwaith rhwyll

Mae rhwydweithiau rhwyll yn cysylltu â'ch llwybrydd presennol ac yn creu eu rhwydwaith wifi eu hunain drwy flychau cysylltu sy'n cael eu gosod o amgylch y cartref. Mae systemau rhwyll yn gwella cryfder a chwmpas signalau wifi heb leihau perfformiad y cysylltiad band eang. Gallant fod yn eithaf drud gyda phecynnau cychwynnol yn amrywio o £60 i dros £200 ac efallai y bydd angen mwy o unedau rhwyll ar gartrefi mwy i gael darpariaeth lawn.

Beth ddylwn i chwilio amdano wrth ddewis llwybrydd neu rwydwaith rhwyll?

Mae sawl peth efallai y byddech am feddwl amdanynt wrth ddewis llwybrydd neu wasanaeth band eang.

  • Cyflymder cysylltu: Pa mor gyflym y gall y llwybrydd drosglwyddo data i'ch dyfeisiau?
  • Signal: A yw eich darparwr band eang yn cynnig gwasanaeth signal cartref cyfan?
  • Nifer y dyfeisiau cysylltiedig: Gall llwybryddion diweddarach gysylltu nifer uwch o ddyfeisiau cyn y bydd gostyngiad amlwg yn y perfformiad wifi.
  • Optimeiddio: A yw'r llwybrydd yn newid ei osodiadau'n awtomatig i ddarparu'r cysylltiad gorau?
  • Diogelwch: A yw'r llwybrydd/band eang yn cynnig nodweddion diogelwch fel rheolaethau gwrth-feirws ac i rieni?

Mae gwahanol genedlaethau o dechnoleg wifi, er enghraifft wifi 4, wifi 5 a wifi 6. Mae'r rhai sydd â rhifau uwch yn fwy datblygedig a gallant ddarparu cysylltiad data cyflymach. Gellir adnabod y cenedlaethau hyn o wifi hefyd drwy'r llythyrau ar ôl y cod wifi "IEEE 802.11" (er enghraifft, 'n', 'ac' neu 'ax') a gall dyfeisiau gael eu disgrifio hefyd gan ddefnyddio'r llythrennau hyn. Mae Wifi yn gweithredu mewn bandiau radio gwahanol - mae amleddau is yn darparu gwell darpariaeth, ond ar draul cyflymder is.

Safon Wifi Band radio Cyflymder uchaf arferol
Wifi 6 (IEEE 802.11ax) 2.4 GHz a 5 GHz Gwibgyswllt (600 Mbps+)
Wifi 5 (IEEE 802.11ac) 5 GHz Cyflym iawn (200 Mbps)
Wifi 4 (IEEE 802.11n) 2.4 GHz a 5 GHz Cyflym (100 Mbps)
Wifi 3 (IEEE 802.11g) 2.4 GHz Sylfaenol (20 Mbps)

Ffyrdd eraill o roi hwb i'ch wifi

  • Chywyddwyr, estynyddion a throswyr Wifi:Mae'r rhain yn chwyddo eich signal wifi. Gall eu rhoi lle mae'r signal presennol yn wan ymestyn darpariaeth ond, yn wahanol i systemau rhwyll, gallant effeithio ar gyflymder eich data a pha mor ymatebol y mae eich cysylltiad yn teimlo. Gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu addaswyr gyda'r marc 'CE'.
  • Llinell Bŵer: Mae technoleg Llinell Bŵer yn defnyddio gwifrau trydanol eich cartref i drosglwyddo data o amgylch y tŷ. Mae addaswyr yn cael eu plygio i mewn i socedi trydanol, ac mae un ohonynt wedi'i gysylltu â'r llwybrydd gyda chebl Ethernet a'r llall i'r dyfeisiau sy'n cael eu defnyddio naill ai gyda chebl neu wifi. Mae llinell bŵer yn rhad (gan ddechrau tua £20) ond mae pa mor dda y mae'n gweithio yn dibynnu ar eich gwifrau trydanol. Unwaith eto,ni ddylech ond brynu addaswyr Llinell Bŵer sydd â marc 'CE'.
  • Optimeiddio gosodiadau eich llwybrydd: Mae gan lawer o lwybryddion nodweddion sy'n optimeiddio perfformiad wifi yn awtomatig, er enghraifft drwy ddewis y sianel a ddefnyddir leiaf. Gellir cyflunio rhai o'r nodweddion hyn â llaw os oes gennych y wybodaeth dechnegol.
  • Uwchraddio dyfeisiau cleient hŷn: Ni fydd ffonau, llechi a gliniaduron sydd ond yn cefnogi technolegau wifi hŷn yn elwa o'r nodweddion perfformiad gwell a ddarperir gan y rhai diweddaraf, megis wifi 6.
  • Gostwng nifer y dyfeisiau sy'n gysylltiedig â'ch rhwydwaith wifi: Rhennir eich lled band rhwng dyfeisiau, felly bydd gostwng nifer y dyfeisiau yn eich rhwydwaith yn gwella cyfraddau data ar gyfer y dyfeisiau sy'n weddill.

Allwch chi ddefnyddio cebl?

Yn aml, mae ceblau Ethernet yn darparu gwell cysylltiad rhyngrwyd na wifi. Os oes gan eich dyfais soced Ethernet ac nad oes angen i chi ei symud o amgylch y tŷ yn ormodol, gall defnyddio cebl wella'r cysylltiad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio un a all gefnogi cyflymder eich band eang, neu gallai'r perfformiad fod yn israddol.