Beth yw niwtraliaeth y rhyngrwyd?


Niwtraliaeth y rhyngrwyd, neu ‘ryngrwyd agored’, yw’r egwyddor o sicrhau mai chi sy’n rheoli beth rydych chi’n ei weld ac yn ei wneud ar-lein - ac nid y darparwr band eang sy’n eich cysylltu chi â’r rhyngrwyd.

Mae’n ymwneud â phobl yn gallu cael gafael ar yr holl gynnwys rhyngrwyd cyfreithlon i’r un graddau; heb ymyrraeth gan ddarparwyr band eang.