Hysbysu darparwr ffôn neu fand eang am farwolaeth cwsmer


Rydym yn gwybod y gall profedigaeth fod yn amser anodd sy'n peri loes. O dan reolau Ofcom, mae'n rhaid i ddarparwyr ffôn a band eang fod â pholisïau i'ch trin yn deg ac yn briodol os ydych yn cysylltu â nhw i gau neu newid cyfrif rhywun sydd wedi marw.

Pwy i gysylltu â nhw

Mae gan lawer o ddarparwyr mawr dîm arbenigol sy'n delio â phrofedigaeth. Gallech chwilio ar-lein am enw'r darparwr gyda'r gair 'bereavement' i ddod o hyd i'r manylion cywir, neu ofyn am y tîm hwn wrth ffonio.

Cyn cysylltu, ceisiwch ddod o hyd i:

  • enw llawn deiliad y cyfrif;
  • eu cyfeiriad a'u rhif ffôn; a
  • rhif y cyfrif os yn bosib.

Bydd hyn yn helpu'r darparwr i ddod o hyd i'r cyfrif.

Mae ein canllaw arfer da i drin cwsmeriaid agored i niwed yn deg (PDF, 1.3 MB) yn nodi sut y gall darparwyr wneud eu hunain yn fwy hygyrch, er enghraifft drwy gynnig amrywiaeth o ddulliau cyswllt. Gallai hyn gynnwys cyfeiriad e-bost penodedig neu ffurflen ar-lein yn ogystal â rhif ffôn, fel nad oes rhaid i chi siarad â chynghorydd os nad ydych chi eisiau.

Ni ddylai fod angen i chi dalu ffi

Dylai darparwr gau cyfrif y person a fu farw ar gais. Ni ddylai fod angen i chi dalu ffi gosb (a elwir hefyd yn Dâl Terfynu Cynnar neu ETC), er y mae'n bosib y caiff cyfrifon busnes eu trin yn wahanol. Er i ni ddeall efallai na fyddwch yn hysbysu'r darparwr am farwolaeth person yn syth, nid yw'n ofynnol i'r darparwr ôl-ddyddio cau'r cyfrif nac ad-dalu unrhyw arian a dalwyd, er y bydd rhai o bosib yn dewis gwneud hynny. Mae'n bosibl i ddarparwr adennill unrhyw daliadau dros ben ar gyfrif trwy brofiant, ond yn aml mae darparwyr hefyd yn hepgor y rhain.

Dylai'r darparwr gau'r cyfrif yn gyflym

Bydd gan ddarparwyr eu hamserlen eu hunain ar gyfer cau cyfrif, ond fe ddylen nhw wneud e cyn gynted â phosib. Rydym yn deall pa mor ofidus y gall fod i dderbyn deunydd marchnata ar gyfer rhywun sydd wedi marw, felly wrth gau cyfrif rhywun sydd wedi marw mae'n deg disgwyl i ddarparwyr beidio ag anfon unrhyw gyfathrebiadau pellach i'r person sydd wedi marw.

Efallai y gofynnir i chi am brawf

Efallai y bydd y darparwr yn gofyn i chi am gopi o'r dystysgrif marwolaeth, neu ei rif, er mwyn cau cyfrif. Dylai llungopi neu sgan wneud y tro.

Dywedwch wrth y darparwr os ydych am gadw rhifau ychwanegol, fel y rhai sydd ar gynllun teuluol

Os oedd mwy nag un rhif ar gyfrif y person sydd wedi marw, siaradwch â'r darparwr i gael gwybod beth allan nhw ei wneud. Efallai y bydd modd trosglwyddo'r cynllun i enw arall, trosglwyddo i dalu-wrth-ddefnyddio (os yw ar gael), neu drosglwyddo i dalu'n fisol (efallai y bydd angen iddynt wirio os ydych chi'n gymwys).

Beth os nad oedd cyfrif yn enw'r person a fu farw, e.e. roedd aelod arall o'r teulu'n talu'r biliau?

Siaradwch â'r darparwr. Efallai y byddan nhw'n fodlon cau'r cyfrif heb gosb o dan yr amgylchiadau hyn.

Efallai y gofynnir i chi ddychwelyd offer

Efallai y bydd y darparwr yn gofyn i chi ddychwelyd ffôn symudol os cafodd ei ddarparu fel rhan o gontract amser awyr, yn enwedig os yw'n newydd a/neu'n werthfawr. Yn yr un modd, efallai y gofynnir i chi ddychwelyd llwybrydd pan gaiff cyfrif llinell dir ei gau. Gall y darparwr roi amlen ragdalu i chi at y diben hwn.

Ad-dalu credyd ar gyfrif rhywun sydd wedi marw

Mae asedau person sydd wedi marw yn perthyn i'w hystâd. Efallai y bydd modd i ad-daliad gael ei dalu i gyfrif ysgutor. Mae cyfrif ysgutor yn caniatáu i ysgutorion gasglu taliadau sy'n ddyledus i ystâd rhywun sydd wedi marw cyn cael ei ddosbarthu i'r buddiolwyr. Fel arfer, mae hefyd yn bosib defnyddio cyfrif ysgutor i wneud taliadau ar ran yr ymadawedig, er enghraifft talu'r bil llinell dir mewn tŷ sy'n perthyn i ystâd y person ymadawedig. Dylai eich banc allu rhoi mwy o wybodaeth i chi am gyfrifon ysgutor.

Cadw'r gwasanaeth yn gysylltiedig

Efallai y byddwch am gadw cysylltiad ffôn neu fand eang, neu ddefnyddio gwasanaethau fel teledu-drwy-dalu, dros dro, er enghraifft hyd nes y gwerthir cartref y person sydd wedi marw. Os felly, bydd angen i chi sicrhau bod y biliau'n cael eu talu.

Os ydych am gadw gwasanaethau'n gysylltiedig dros y tymor hwy, bydd rhai darparwyr yn trosglwyddo cyfrif i enw arall ar gais. Bydd darparwyr eraill yn cau'r cyfrif ac yn agor cyfrif newydd ar gais (efallai y bydd isafswm cyfnod contract ar gyfer y cyfrif newydd a gwiriadau credyd gofynnol). Ni fydd gan ddeiliad cyfrif newydd fynediad at bethau fel biliau wedi'u eitemeiddio blaenorol. Mae'n bwysig hysbysu'r darparwr os ydych am gadw'r un rhif ffôn.

Os yw cyfrif mewn enwau ar y cyd, dylid ei roi yn enw'r person goroesol ar gais.

Gallai rhif symudol nas defnyddir yn y pen draw gael ei ailgylchu

Gall rhifau symudol gael eu hailgylchu ar ôl cyfnod, er mwyn sicrhau bod cyflenwad cyfyngedig y DU o rifau ffôn yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon.

Fel arfer mae cyfrifon talu-wrth-ddefnyddio'n gofyn am weithgarwch y gellir codi tâl amdano (fel galwad ffôn, neges destun neu ychwanegu credyd) o leiaf unwaith dros gyfnod penodol o amser i gadw'r rhif yn weithredol. Os na fydd hyn yn digwydd, mae'n bosib y caiff y cyfrif ei gau.

Gallai rhifau sy'n cael eu defnyddio gan gwsmeriaid talu'n fisol hefyd gael eu hailgylchu ar ôl i gyfrif gael ei gau.

Mae hyd yr amser cyn i ddarparwr symudol ystyried bod rhif ffôn yn segur yn amrywio, ond fel arfer mae'n rhywbeth rhwng tri a deuddeg mis. Mae ein canllaw yn cynnwys mwy o wybodaeth.

Alla i gwyno am gyfrif person sydd wedi marw os nad fi yw'r cwsmer?

Oes, ond efallai y gofynnir i chi am dystiolaeth bod gennych yr awdurdod i wneud hyn, e.e. chi yw ysgutor yr ystâd.

Bydd angen i chi ddilyn trefn gwynion arferol y darparwr - dylai hyn gael ei esbonio ar eu gwefan neu gan eu tîm gwasanaeth cwsmeriaid. Os bydd eich problem yn dal heb ei datrys ar ôl wyth wythnos, gallwch chi gwyno wrth gynllun Dull Datrys Anghydfod Amgen (ADR) annibynnol. Bydd angen i chi ddarparu prawf y gallwch ymdrin â'r ystâd, naill ai drwy ddarparu grant o brofiant neu lythyrau gweinyddu i'r darparwr neu gynllun ADR.

Enghreifftiau

Mi fues i'n byw gyda fy nhad nes iddo farw. Hoffwn drosglwyddo ei gyfrif llinell dir i'm henw i.

Bydd rhai darparwyr yn trosglwyddo cyfrif i enw arall o dan yr amgylchiadau hyn. Bydd darparwyr eraill yn cau'r cyfrif heb gosb ar gais ac yn agor cyfrif newydd yn eich enw. Efallai y bydd angen i chi ddarparu copi o'i dystysgrif marwolaeth neu ei rhif. Rhowch wybod i'ch darparwr llinell dir wybod yr hoffech chi gadw'r un rhif ffôn.

Mae balans credyd ar gyfrif talu-wrth-ddefnyddio symudol fy chwaer ddiweddar.

Mae asedau person sydd wedi marw yn perthyn i'w hystâd yn hytrach nag i'w berthynas agosaf, ond os oes cyfrif ysgutor, fel arfer gellir talu unrhyw ad-daliad i mewn i hynny.

Ymrwymodd fy mhartner i gontract symudol dwy flynedd yn fuan cyn iddo farw. Oes rhaid i mi ddychwelyd y ffôn symudol pan fyddaf yn canslo ei gontract?

Nid yw'r rhan fwyaf o ddarparwyr yn gofyn am ddychwelyd setiau llaw yn yr amgylchiadau hyn, ond os yw'r ffôn yn werthfawr ac wedi'i gaffael yn ddiweddar iawn, efallai y gofynnir i chi ei ddychwelyd.