Diffodd 3G a 2G

27 Chwefror 2024

Bydd darparwyr rhwydweithiau symudol y DU yn diffodd eu rhwydweithiau 3G ac yna’u rhwydweithiau 2G dros y blynyddoedd nesaf. Yma dewch o hyd i wybodaeth a chyngor gennym ar gyfer diwydiant.

Mae gweithredwyr rhwydweithiau symudol (MNO) y DU wedi cadarnhau wrth Lywodraeth y DU nad ydynt yn bwriadu darparu rhwydweithiau symudol 2G a 3G y tu hwnt i 2033 fan bellaf. Bydd hyn yn ategu cyflwyno’r rhwydweithiau 4G a 5G a fydd yn cynnig gwasanaethau cyflymach a mwy dibynadwy i gwsmeriaid. Mae'r gweithredwyr yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain o ran amseriad a phroses y diffodd, ac maent i gyd yn bwriadu diffodd eu rhwydweithiau 3G yn gyntaf.

Bydd y broses ddiffodd yn effeithio ar gwsmeriaid sy’n defnyddio dyfeisiau a gwasanaethau symudol hŷn – mae gan y rhan fwyaf o gwsmeriaid ddyfeisiau 4G-alluog (ac yn gynyddol 5G-alluog) ac ni fydd hyn yn effeithio ar eu gwasanaethau nhw.

Ein rôl ni a'r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan ddarparwyr symudol

Er nad oes gan Ofcom rôl ffurfiol yn y broses ddiffodd, rydym am sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg ac y gallant barhau i gael mynediad at y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen.

Gyda hynny mewn cof, rydym wedi nodi sut rydym yn disgwyl i weithredwyr rhwydweithiau symudol fynd ati i ddiffodd eu gwasanaethau yn y ddogfen ganlynol. Mae'r ddogfen hon hefyd yn nodi'r gofynion rheoleiddio perthnasol y bydd angen i ddarparwyr eu bodloni yn ystod y broses hon.

Diffodd 3G a 2G: Ein disgwyliadau o ran darparwyr symudol (PDF, 301.6 KB)

Gweler hefyd:

We have made a correction to a typographical error in footnote 25 of the 3G and 2G switch-off: Our expectations of mobile providers document.