Profiadau o symud i linellau tir digidol yn nhreialon Caersallog a Mildenhall

20 Medi 2022

Mae'r dechnoleg rydym yn ei defnyddio i wneud galwadau ffôn llinell dir yn newid. Mae'r hen Rwydwaith Ffôn Cyfnewidfeydd Cyhoeddus (PTSN) yn cael ei ddatgomisiynu, ac yn y pen draw bydd gwasanaethau ffôn traddodiadol yn cael eu darparu dros fand eang - gelwir hyn yn Llais dros Brotocol Rhyngrwyd (VoIP).

Ym mis Rhagfyr 2020, dechreuodd Openreach dreialu symud cwsmeriaid i VoIP yng Nghaersallog a Mildenhall. Fe wnaethom gomisiynu ymchwil ansoddol er mwyn deall profiad cwsmeriaid o'r treial.

Mae'r ddogfen hon yn disgrifio canfyddiadau ein hymchwil.

Symud i linellau tir digidol: Agweddau a phrofiadau defnyddwyr o bontio i wasanaethau Llais dros Brotocol Rhyngrwyd (VoIP) yn ardaloedd treial Openreach yng Nghaersallog a Mildenhall (PDF, 150.3 KB)