Atodiad 1: Hyrwyddiadau ariannol ac argymhellion buddsoddi

08 Ionawr 2021

(Dylai darlledwyr teledu gyfeirio at Reol 9.35 yn Adran Naw y Cod uchod. Dylai darlledwyr radio gyfeirio at Reol 10.13 yn Adran Deg y Cod uchod).

Hyrwyddiadau Ariannol

1. Mae Adran 21 Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 yn gwahardd unrhyw un, wrth gynnal busnes, rhag traddodi gwahoddiad neu anogaeth i ymwneud â gweithgarwch buddsoddi. Yr enw cyffredin ar hyn yw “y cyfyngiad ar hyrwyddo ariannol”. Mae nifer o eithriadau i’r cyfyngiad ar hyrwyddo ariannol, a nodir y rhain yng Ngorchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Hyrwyddo Ariannol) 2005. Mae dau o’r eithriadau hyn yn neilltuol o berthnasol i ddarlledwyr: mae Erthygl 20 y Gorchymyn hwnnw’n cynnwys eithriad mewn perthynas â chyfathrebiadau gan newyddiadurwyr, ac mae Erthygl 20A y Gorchymyn hwnnw’n cynnwys eithriad mewn perthynas â darlledu hyrwyddiadau gan gyfarwyddwr cwmni neu gyflogai cwmni. Mae’r nodyn hwn yn pennu arweiniad rhwymol ar y modd y gall darlledwyr fanteisio ar yr eithriadau i’r cyfyngiad ar hyrwyddo ariannol.

Ystyr “hyrwyddiad ariannol”:

Mae hyrwyddiad ariannol yn wahoddiad neu anogaeth i ymwneud â gweithgarwch buddsoddi (yn unol ag adran 21(1) Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Cyfyngiadau ar hyrwyddo ariannol)).

Eithriad mewn perthynas â chyfathrebiadau gan newyddiadurwyr (eithriad Erthygl 20)

2. Mae’r eithriad ar gyfer cyfathrebiadau gan newyddiadurwyr yn berthnasol i unrhyw hyrwyddiad ariannol nad yw'n digwydd mewn amser real y byddant yn ei baratoi wrth weithredu fel newyddiadurwyr. Er mwyn i’r eithriad fod yn berthnasol i newyddiadurwyr darlledu, rhaid i’r hyrwyddiad ariannol fod naill ai:

  • yn wasanaeth newyddion neu wybodaeth a ddiweddarir yn rheolaidd (fel gwefan neu wasanaeth teletestun); neu
  • ddarllediad neu drawsyriad teledu neu radio, a mae'n rhaid i brif ddiben y darllediad beidio ag ymwneud â rhoi cyngor ar. neu arwain neu alluogi pobl i brynu neu werthu, gwarantau neu fuddsoddiadau sy’n seiliedig ar gontract.

3. Os cyfranddaliadau yw testun yr hyrwyddiad ariannol, a bod yr hyrwyddiad ariannol yn enwi’n uniongyrchol person sy’n cyhoeddi neu’n darparu’r cyfranddaliadau, mae'n rhaid i newyddiadurwyr fodloni gofyniad datgelu hefyd i elwa o’r eithriad.

Ystyr “cyfranddaliad”:

Mae cyfranddaliad yn golygu unrhyw gyfranddaliad mewn cwmni ac mae’n cynnwys deilliad o’r fath gyfranddaliad (gan gynnwys opsiynau a fasnachir).

Gofyniad datgelu:

Byddai’n rhaid datgelu buddiant ariannol pan fyddai’r newyddiadurwr (neu aelod agos o’i deulu) yn debygol o gael budd ariannol neu osgoi colled ariannol pe byddai pobl yn gweithredu’n unol â’r hyrwyddiad ariannol. Mewn achos o’r fath, rhaid i’r newyddiadurwr neu’r golygydd sy’n gyfrifol am yr hyrwyddiad ariannol ddatgan natur unrhyw fuddiant ariannol sydd ganddynt hwy (neu aelod agos o’u teulu).

Nodyn: Mae’r gofyniad datgelu’n amodol ar eithriadau penodol, a nodir ym mharagraffau 4 i 6 isod.

Ystyr “aelod agos o’r teulu”:

Mae aelod agos o’r teulu’n golygu priod a phlant dan ddeunaw mlwydd oed.

4. Yr eithriadau i’r gofyniad datgelu yw pan fo’r hyrwyddiad ariannol naill ai:

  • mewn gwasanaeth neu ddarllediad sydd â systemau a gweithdrefnau priodol sy’n atal cyhoeddi cyfathrebiadau heb ddatgelu buddiannau ariannol; neu
  • mewn gwasanaeth neu ddarllediad sy’n dod o fewn cylch gwaith:
    • y Cod Ymarfer a gyhoeddir gan Gomisiwn Cwynion y Wasg;
    • Cod Darlledu Ofcom; neu
    • y Canllawiau i Gynhyrchwyr a gyhoeddir gan y BBC.

5. Os yw darlledwr yn dymuno manteisio ar yr eithriad Erthygl 20 ar gyfer newyddiadurwyr, mae ganddo ddewis. Gall y darlledwr naill ai:

  • gydymffurfio â’r gofyniad datgelu; neu
  • roi systemau a gweithdrefnau priodol ar waith sy’n atal darlledu hyrwyddiadau ariannol heb ddatgelu buddiannau ariannol.

6.  Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (yr “FSA”) yn awgrymu y gellid cyflawni’r ail ddewis ym mharagraff 5 uchod drwy, er enghraifft, i’r darlledwr fynnu bod pobl sy’n gweithio ar raglenni ariannol yn datgan ac yn cofrestru eu perchnogaeth ar gyfranddaliadau. Byddai’r gofrestr hon ar gael i’r staff golygyddol mwyaf uwch sy’n gallu sicrhau na ddarlledir hyrwyddiadau hunangeisiol gan yr unigolyn dan sylw. Hefyd, byddai’r FSA yn disgwyl bod gofyniad i hysbysu staff perthnasol am fodolaeth y gofrestr hon ac am eu rhwymedigaethau i ddatgelu buddiannau ariannol, ac iddynt gadarnhau eu bod yn derbyn y rhwymedigaethau hyn yn ysgrifenedig.

Darlledu hyrwyddiadau gan gyfarwyddwr cwmni etc. (eithriad Erthygl 20A)

7.  Prif ddiben yr eithriad ar gyfer darlledu hyrwyddiadau gan gyfarwyddwyr cwmni yw gwarchod rhag y posibilrwydd, yn ystod cyfweliad a ddarlledir neu gyflwyniad gwefan byw, y caiff hyrwyddiad ariannol ei wneud yn anfwriadol gan gyfarwyddwr neu gyflogai cwmni neu fenter busnes arall pan nad yw’r person hwnnw’n gweithredu fel newyddiadurwr.

8.  Ar yr amod na wneir yr hyrwyddiad ariannol fel rhan o ymgyrch farchnata a drefnwyd, mae’r eithriad yn berthnasol pan fo’r hyrwyddiad ariannol:

  • yn cynnwys geiriau sy’n cael eu llefaru gan y cyfarwyddwr neu gyflogai a heb eu darlledu, eu trosglwyddo neu eu dangos yn ysgrifenedig; neu
  • yn cael ei ddangos yn ysgrifenedig dim ond am ei fod yn rhan o ddeialog ryngweithiol y mae’r cyfarwyddwr neu’r cyflogai yn rhan ohono, a bod disgwyliad yn ystod y ddeialog y bydd y person hwnnw’n ymateb ar unwaith i gwestiynau a ofynnir gan un sy’n derbyn y cyfathrebiad.

Mae’r eithriad hefyd yn mynnu y nodir pwy yw’r cyfarwyddwr neu’r cyflogai yn yr hyrwyddiad ariannol cyn ei draddodi.

Argymhellion buddsoddi

9.  Daeth Rheoliadau Argymhellion Buddsoddi (Cyfryngau) 2005 i rym ar 1 Gorffennaf 2005. Maent yn gosod safonau ar y rhai sydd, drwy’r cyfryngau, yn llunio argymhellion ar fuddsoddi neu’n lledaenu argymhellion buddsoddi a luniwyd gan drydydd parti. Mae’r safonau’n mynnu bod yr wybodaeth yn cael ei chyflwyno’n deg, ac y datgelir buddiannau arwyddocaol mewn buddsoddiad y mae rhywun yn ei argymell neu unrhyw wrthdaro buddiannau. Os yw rhywun yn cael ei reoleiddio gan yr FSA oherwydd ei weithgarwch wrth lunio argymhellion buddsoddi neu ledaenu argymhellion buddsoddi a luniwyd gan drydydd parti, bydd yn ddarostyngedig yn lle hynny i reolau’r FSA.

Ystyr “argymhelliad buddsoddi”:

Mae argymhelliad buddsoddi’n digwydd pan fydd rhywun yn argymell penderfyniad buddsoddi penodol yn uniongyrchol, er enghraifft, prynu neu werthu cyfranddaliadau penodol neu warantu cynnig cyfranddaliadau penodol.

10. Mae eithriadau o’r Rheoliadau i’r rhai sy’n llunio neu’n lledaenu rheoliadau yn y cyfryngau lle mae trefniadau hunanreoleiddio ar waith, gan gynnwys lle y mae Cod Darlledu Ofcom yn berthnasol.

11. Yn ôl dehongliad Ofcom o’r Rheoliadau, maent yn berthnasol i’w drwyddedeion ac i S4C fel a ganlyn. Lle mae pobl sy’n gweithio ar raglenni’n gwneud argymhelliad buddsoddi eu hunain, mae'n rhaid i’r darlledwr sicrhau:

  • ei bod yn glir pwy yw’r person sy’n gwneud yr argymhelliad;
  • bod yr argymhelliad buddsoddi wedi’i gyflwyno’n deg; a
  • bod unrhyw fuddiant ariannol y gellir disgwyl yn rhesymol iddo amharu ar wrthrychedd yr argymhelliad hwnnw’n cael ei ddatgelu.

Ystyr “wedi’i gyflwyno’n deg”:

Mae hyn yn golygu y dylid gofalu’n rhesymol:

  • bod ffeithiau’n cael eu gwahaniaethu oddi wrth wybodaeth nad yw’n ffeithiol (er enghraifft, barnau ac amcangyfrifon);
  • os oes amheuaeth ynghylch a yw ffynhonnell yn ddibynadwy, fod hyn yn cael ei nodi; a
  • bod pob rhagamcan, rhagolwg a tharged pris yn cael ei ddisgrifio felly.

12. Pan fo pobl sy’n gweithio ar raglenni’n lledaenu argymhelliad buddsoddi a wnaed gan drydydd parti, mae'n rhaid i’r darlledwr sicrhau:

  • ei bod yn glir pa gwmni sy’n gwneud y rhaglen; ac
  • os llunnir crynodeb o argymhelliad, ei fod yn eglur a heb fod yn gamarweiniol, a bod cyfeiriad at y sawl sydd wedi gwneud yr argymhelliad.

13. Hefyd, pan fo pobl sy’n gweithio ar raglenni un ai’n gwneud argymhelliad buddsoddi neu’n lledaenu argymhelliad a wnaed gan drydydd parti, mae'n rhaid i’r darlledwr sicrhau bod cyfeiriad clir yn ystod y rhaglen at y ffaith ei fod yn cael ei reoleiddio gan God Darlledu Ofcom. Byddai’r gofyniad hwn yn cael ei gyflawni, er enghraifft, drwy gynnwys cyfeiriad o'r fath yn y credydau ar ddiwedd y rhaglen.

Ystyr “pobl sy’n gweithio ar raglenni”:

Mae hyn yn golygu pobl sy’n cael eu cyflogi gan y darlledwr neu gynhyrchydd annibynnol, neu rywun sy’n gweithio i gynhyrchydd annibynnol, sy’n gwneud rhaglen ar ran y darlledwr.

Nodyn:

Pan fydd rhaglen deledu neu radio’n dangos rhywun sy’n cael ei reoleiddio gan yr FSA sy’n gwneud argymhelliad buddsoddi, y person hwnnw ac nid y darlledwr sy’n gyfrifol am gydymffurfiad y person hwnnw â rheolau’r FSA. Yn yr un modd, os yw person sy’n gweithio ar raglen yn cyfweld â rhywun nas rheoleiddir gan yr FSA sy’n gwneud argymhelliad buddsoddi, yr un a gyfwelir ac nid y darlledwr sy’n gyfrifol am sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau.