Atodiad 5: Rhannau o Siarter a Chytundeb y BBC

16 Mawrth 2023

Erthygl 46(7) o’r Siarter

Bydd yn rhaid i Ofcom sicrhau bod safonau’n cael eu dilyn yng nghynnwys Gwasanaethau Cyhoeddus perthnasol y DU sy’n gorfod bod yn unol â’r Codau Safonau a Thegwch.

Mae Siarter a Chytundeb y BBC ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/bbc-charter-and-framework-agreement

Atodlen 3, paragraffau 3 a 4 y Cytundeb

3. Safonau cynnwys

(1) Wrth ddarparu Gwasanaethau Darlledu Cyhoeddus yn y DU, rhaid i’r BBC ddilyn y safonau sydd wedi cael eu gosod o dan adran 319 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (“Cod Safonau” Ofcom). At ddibenion y gofynion yn y Cod Safonau sy’n rhoi grym i adran 320 o’r Ddeddf honno (gofynion didueddrwydd dyladwy arbennig), bydd y Gwasanaethau Cyhoeddus yn y DU sy’n wasanaethau radio yn cael eu trin fel gwasanaethau radio cenedlaethol.

(2) Wrth Ddarparu Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw Cyhoeddus yn y DU, rhaid i’r BBC ddilyn y Cod Safonau i’r graddau mae Ofcom yn penderfynu bod y safonau’n berthnasol i ddarparu’r gwasanaethau rhaglenni ar-alw hynny.

4. Y Cod Tegwch

(1) Rhaid i'r BBC ddilyn y cod sydd mewn grym o dan adran 107 o Ddeddf Darlledu 1996 -

(a) mewn cysylltiad â darparu Gwasanaethau Darlledu Cyhoeddus y DU; a
(b) mewn perthynas â'r rhaglenni sy’n cael eu cynnwys yn y gwasanaethau hynny.

(2) Wrth Ddarparu Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw Cyhoeddus yn y DU, rhaid i’r BBC ddilyn yr un cod i’r graddau mae Ofcom yn penderfynu bod y safonau’n berthnasol i ddarparu’r gwasanaethau rhaglenni ar-alw hynny.

(3) Yn rhinwedd Rhan 5 o Ddeddf Darlledu 1996, rhaid i Ofcom ystyried a dyfarnu ar gwynion sy’n dod ger eu bron ac sy’n ymwneud â-

(a) triniaeth anghyfiawn neu annheg mewn unrhyw raglen a ddarlledir gan y BBC; neu
(b) tarfu ar breifatrwydd heb gyfiawnhad wrth gael, neu mewn cysylltiad â chael, deunydd a gynhwysir mewn rhaglenni o’r fath.

(4) Rhaid i Ofcom drin cwynion sy’n ymwneud ag unrhyw raglen sydd wedi cael ei chynnwys ar Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw Cyhoeddus yn y DU yn yr un ffordd â rhaglenni sy’n cael eu darlledu gan y BBC.