Adran Un: Diogelu pobl dan ddeunaw oed

03 Mawrth 2021

Mae'r adran hon yn amlinellu'r rheolau ynglŷn ag amserlennu a gwybodaeth am gynnwys rhaglenni mewn perthynas â diogelu plant dan ddeunaw oed.

Ymhlith yr eitemau deddfwriaeth perthnasol y mae, yn benodol, adrannau 3(4)(h) a 319(2)(a) ac (f) Deddf Cyfathrebiadau 2003, Erthygl 27 y Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clywedol, Erthygl 10 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a Siarter a Chytundeb y BBC.)

Rhaid darllen yr adran hon ar y cyd ag Adran Dau: Niwed a Thramgwydd.

Egwyddor

Sicrhau bod pobl dan ddeunaw oed yn cael eu diogelu.

Rheolau[1]

Gwybodaeth am amserlennu a chynnwys

1.1  Rhaid peidio â darlledu deunydd a allai amharu’n ddifrifol ar ddatblygiad corfforol, meddyliol neu foesol pobl dan ddeunaw oed.

1.2  Wrth ddarparu gwasanaethau, rhaid i ddarlledwyr gymryd pob cam rhesymol i ddiogelu pobl dan ddeunaw oed.

1.3  Rhaid diogelu plant hefyd, drwy amserlennu priodol, rhag deunydd sy’n anaddas iddynt. Er nad yw’r gofynion amserlennu yn yr adran hon yn berthnasol i ddarparu rhaglenni ar-alw, rhaid i’r BBC roi mesurau priodol ar waith ar Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC sy’n rhoi diogeliad cyfatebol i blant.

Ystyr “plant”

Pant yw pobl sydd o dan bymtheg mlwydd oed.

Ystyr “amserlennu priodol”:

Dylid barnu amserlennu priodol yn ôl:

  • natur y cynnwys;
  • nifer ac ystod oedran tebygol y plant yn y gynulleidfa, gan ystyried amser ysgol, penwythnosau a gwyliau;
  • amser dechrau ac amser gorffen y rhaglen;
  • natur y sianel neu’r orsaf a’r rhaglen benodol; a
  • disgwyliadau tebygol y gynulleidfa ar gyfer sianel neu orsaf benodol ar amser penodol ac ar ddiwrnod penodol.

Dylai darlledwyr gwasanaethau a dderbynnir mewn Partïon ECTT roi sylw i unrhyw wahaniaethau amser perthnasol yn y wlad sy’n derbyn.

1.4: Rhaid i ddarlledwyr teledu lynu wrth y trothwy

Ystyr “y trothwy”:

Nid yw’r trothwy ond yn berthnasol i deledu. 2100 yw amser y trothwy. Yn gyffredinol, ni ddylid dangos deunydd sy’n anaddas i blant cyn 2100 neu ar ôl 0530.

Ar wasanaethau ffilm premiwm i danysgrifwyr sydd heb eu diogelu fel y nodir yn Rheol 1.24, mae’r trothwy am 2000. Nid yw’r trothwy yn berthnasol i sianeli pan fydd diogeliad amser dydd mandadol yn ei le (gweler Rheolau 1.24 ac 1.25).

1.5  Rhaid i ddarlledwyr radio fod yn neilltuol o ystyriol o adegau pan fydd plant yn arbennig o debygol o fod yn gwrando.

Ystyr "pan fydd plant yn arbennig o debygol o fod yn gwrando"

Mae'r ymadrodd hwn yn cyfeirio'n benodol at amser brecwast a'r cyfnod pan fydd plant yn cael eu hebrwng i'r ysgol, ond fe allai gynnwys amserau eraill.

1.6  Rhaid i’r newid at ddeunydd sy’n fwy addas i oedolion beidio â bod yn rhy sydyn wrth y trothwy (yn achos teledu) neu ar ôl yr amser pan fydd plant yn neilltuol o debygol o fod yn gwrando (yn achos radio). Yn achos teledu, dylai’r deunydd cryfaf ymddangos yn hwyrach ar yr amserlen.

1.7  Yn achos rhaglenni teledu a ddarlledir cyn y trothwy, neu raglenni radio a ddarlledir pan fydd plant yn neilltuol o debygol o fod yn gwrando, neu ar gyfer Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC, cynnwys sy’n debygol o gael ei gyrchu gan blant, dylid rhoi gwybodaeth glir i’r gynulleidfa am gynnwys a allai achosi gofid i rai plant, os yw hynny’n briodol (gan ystyried y cyd-destun).

(Am ystyr “cyd-destun” gweler Adran Dau: Niwed a Thramgwydd.)

Ystyr "tebygol o gael ei gyrchu gan blant"

Mae'r ffactorau sy'n effeithio ar ba un a yw cynnwys yn debygol o gael ei gyrchu gan blant yn cynnwys y canlynol (ond nid yw'n gyfyngedig iddynt):

  • natur y cynnwys - p'un a yw wedi'i anelu at blant neu o ddiddordeb penodol i blant, a
  • natur y mynediad i'r cynnwys e.e. a oes mesurau ar waith y bwriedir iddynt ddiogelu plant rhag gwylio a/neu wrando ar y cynnwys.

Sylw i droseddau rhywiol a throseddau eraill yn y DU sy’n ymwneud â phobl dan ddeunaw oed

1.8  Os yw cyfyngiadau statudol neu gyfyngiadau cyfreithiol eraill yn berthnasol sy’n atal enwi unigolion, dylai darlledwyr hwythau fod yn neilltuol o ofalus i beidio â rhoi cliwiau a allai arwain at adnabod y rhai nad ydynt eto’n oedolion (gallai’r oedran diffiniol fod yn wahanol mewn gwahanol rannau o’r DU) ac sydd, neu a allai fod, yn gysylltiedig fel dioddefwr, tyst, diffynnydd neu droseddwr arall yn achos troseddau rhywiol sy’n cael sylw mewn achosion mewn llysoedd troseddol, llysoedd sifil neu lysoedd teulu:

  • trwy adrodd gwybodaeth gyfyngedig a allai gael ei rhoi at ei gilydd ynghyd â gwybodaeth o ffynonellau eraill, er enghraifft mewn adroddiadau papurau newydd (yr 'effaith jig-so');
  • yn anfwriadol, er enghraifft trwy ddisgrifio trosedd fel "llosgach"; neu
  • mewn unrhyw ffordd anuniongyrchol arall.

(Noder: Dylai darlledwyr fod yn ymwybodol y gallai cyfyngiadau statudol ar adrodd fod mewn grym hyd yn oed os nad yw llys yn benodol wedi gwneud gorchymyn i’r perwyl hwnnw.)

1.9  Wrth roi sylw i unrhyw ymchwiliad cyn treial i drosedd honedig yn y DU, dylai darlledwyr roi sylw neilltuol i sefyllfa fregus bosibl unrhyw unigolyn nad yw eto’n oedolyn sy’n gysylltiedig â'r sefyllfa fel tyst neu ddioddefwr, cyn darlledu ei enw, ei gyfeiriad, enw ei ysgol neu sefydliad addysgol arall, ei weithle, neu unrhyw lun llonydd neu symudol ohono. Mae angen cyfiawnhad penodol hefyd dros ddarlledu deunydd o’r math hwnnw sy’n ymwneud ag adnabod unrhyw berson nad yw eto’n oedolyn sy’n gysylltiedig â’r amddiffyniad fel diffynnydd neu ddiffynnydd posibl.

Cyffuriau, ysmygu, toddyddion ac alcohol

1.10  Yn achos defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, camddefnyddio cyffuriau, ysmygu, camddefnyddio toddyddion a chamddefnyddio alcohol:

  • rhaid peidio â’i gynnwys mewn rhaglenni sydd wedi’u gwneud yn bennaf ar gyfer plant oni bai fod cyfiawnhad golygyddol cryf drosto;
  • rhaid eu hosgoi fel arfer a pha un bynnag rhaid peidio â’u  cymeradwyo,  eu hyrwyddo na’u ‘glamoreiddio’ mewn rhaglenni eraill a ddarlledir cyn y trothwy (yn achos teledu), pan fydd plant yn neilltuol o debygol o fod yn gwrando (yn achos radio), neu pan fo’n debyg y bydd y cynnwys yn cael ei gyrchu gan blant (yn achos Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC) oni bai fod cyfiawnhad golygyddol drosto;
  • rhaid peidio â’u cymeradwyo, eu hyrwyddo na’u ‘glamoreiddio’ mewn rhaglenni eraill y mae llawer o rai o dan ddeunaw oed yn debygol o’u gweld, eu clywed neu eu cyrchu oni bai fod cyfiawnhad golygyddol drosto.

Trais ac ymddygiad peryglus

1.11  Rhaid cyfyngu mewn modd priodol ar drais, ei ôl-effeithiau a disgrifiadau o drais, pa un a yw’n eiriol neu’n gorfforol, mewn rhaglenni a ddarlledir cyn y trothwy (yn achos teledu) pan mae plant yn neilltuol o debygol o fod yn gwrando (yn achos radio) neu pan fydd plant yn debygol o gyrchu cynnwys (yn achos Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC) a rhaid iddo gael ei gyfiawnhau gan y cyd-destun hefyd.

1.12  Yn achos trais, pa un a yw’n eiriol neu’n gorfforol, y gall plant ei efelychu’n rhwydd mewn modd sy’n niweidiol neu’n beryglus:

  • rhaid peidio â’u cynnwys mewn rhaglenni sydd wedi’u gwneud yn bennaf ar gyfer plant oni bai fod cyfiawnhad golygyddol cryf;
  • rhaid peidio â’i ddarlledu cyn y trothwy (yn achos teledu) pan mae plant yn neilltuol o debygol o fod yn gwrando (yn achos radio), neu pan fo’n debyg y bydd y cynnwys yn cael ei gyrchu gan blant (yn achos Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC) oni bai fod cyfiawnhad golygyddol.

1.13  Yn achos ymddygiad peryglus, neu bortreadau o ymddygiad peryglus, y mae plant yn debygol o allu ei efelychu’n rhwydd mewn modd sy’n niweidiol:

  • rhaid peidio â’u cynnwys mewn rhaglenni sydd wedi’u gwneud yn bennaf ar gyfer plant oni bai fod cyfiawnhad golygyddol cryf;
  • rhaid peidio â’i ddarlledu cyn y trothwy (yn achos teledu) pan mae plant yn neilltuol o debygol o fod yn gwrando (yn achos radio), neu pan fo’n debyg y bydd y cynnwys yn cael ei gyrchu gan blant (yn achos Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC) oni bai fod cyfiawnhad golygyddol.

(Mewn perthynas â Rheolau 1.11 i 1.13 gweler Rheolau 2.4 a 2.5 yn Adran Dau: Niwed a Thramgwydd.)

Iaith dramgwyddus

1.14  Rhaid peidio â darlledu’r iaith fwyaf tramgwyddus (yn achos teledu) pan fydd plant yn neilltuol o debygol o fod yn gwrando (yn achos radio), neu pan fo'n debyg y bydd y cynnwys yn cael ei gyrchu gan blant (yn achos Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC).

1.15  Rhaid peidio â defnyddio iaith dramgwyddus mewn rhaglenni sydd wedi’u gwneud ar gyfer plant iau heblaw yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol.

1.16  Rhaid peidio â darlledu iaith dramgwyddus cyn y trothwy (yn achos teledu)  pan mae plant yn neilltuol o debygol o fod yn gwrando (yn achos radio), neu pan fo’n debyg y bydd y cynnwys yn cael ei gyrchu gan blant (yn achos Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC) oni bai fod y cyd-destun yn cyfiawnhau hynny. Pa un bynnag, rhaid osgoi defnydd mynych o iaith o’r fath cyn y trothwy.

(Mewn perthynas â Rheolau 1.14 i 1.16 gweler Rheol 2.3 yn Adran Dau: Niwed a Thramgwydd.)

Deunydd Rhywiol

1.17  Ni chaniateir darlledu deunydd sy’n cyfateb i ddosbarthiad R18 Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (“BBFC”) ar unrhyw adeg.

1.18  Ni chaniateir darlledu ‘deunydd rhyw ar gyfer oedolion' - deunydd sy'n cynnwys delweddau a/neu iaith o natur rywiol gref sy’n cael eu darlledu’n bennaf ar gyfer cynnwrf neu gyffroad rhywiol – ar unrhyw adeg heblaw rhwng 2200 a 0530 ar wasanaethau premiwm i danysgrifwyr a gwasanaethau talu wrth wylio/talu fesul noson sy’n gweithredu gyda mynediad cyfyngedig gorfodol. At hynny, rhaid rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod y tanysgrifiwr yn oedolyn.

Ystyr "mynediad cyfyngedig gorfodol"

Mae mynediad cyfyngedig gorfodol yn golygu system mynediad trwy PIN (neu system ddiogelu gyfatebol arall) na all y defnyddiwr ei dileu, sy'n cyfyngu mynediad dim ond i'r rhai y mae ganddynt awdurdod i wylio.

1.19  Rhaid i ddarlledwyr sicrhau bod y cyd-destun yn cyfiawnhau deunydd a ddarlledir ar ôl y trothwy, neu sydd ar gael ar Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC, sy’n cynnwys delweddau a/neu iaith o natur rywiol amlwg neu gref, ond nad yw’n ‘ddeunydd rhyw ar gyfer oedolion’ fel y’i diffinnir yn Rheol 1.18 uchod.

(Gweler Rheolau 1.6 ac 1.18 a Rheol 2.3 yn Adran Dau: Niwed a Thramgwydd, sy'n cynnwys ystyr “cyd-destun”.)

1.20  Rhaid peidio â darlledu portreadau o gyfathrach rywiol cyn y trothwy (yn achos teledu) neu pan fydd plant yn neilltuol o debygol o fod yn gwrando (yn achos radio), neu pan fo’n debyg y bydd y cynnwys yn cael ei gyrchu gan blant (yn achos Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC) oni bai fod diben addysgol difrifol dros wneud hynny. Rhaid bod cyfiawnhad golygyddol dros unrhyw drafodaeth ar ymddygiad rhywiol, neu bortread ohono, os caiff ei gynnwys cyn y trothwy, pan fydd plant yn neilltuol o debygol o wrando, neu pan fo’n debyg y bydd y cynnwys yn cael ei gyrchu gan blant (yn achos Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC) a rhaid cyfyngu arno mewn modd priodol.

Noethni

1.21  Rhaid i noethni cyn y trothwy, neu pan fydd cynnwys yn debygol o gael ei gyrchu gan blant (yn achos Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC), fod wedi’i gyfiawnhau gan y cyd-destun.

Ffilmiau a gwarchodaeth orfodol yn ystod y dydd

Ystyr "gwarchodaeth orfodol yn ystod y dydd"

Mae gwarchodaeth orfodol yn ystod y dydd yn golygu bod system mynediad trwy PIN yn ei lle cyn 2100 ac ar ôl 0530 na all y defnyddiwr ei dileu sy'n cyfyngu mynediad dim ond i'r rhai y mae ganddynt awdurdod i wylio. Nid yw hyn yn berthnasol i 'ddeunydd rhywiol ar gyfer oedolion' y gellir ei ddangos, o dan Reol 1.18, dim ond rhwng 2200 a 0530 ac y mae'n rhaid iddo fod yn destun mynediad cyfyngedig gorfodol (gweler Rheol 1.18).

1.22  Rhaid peidio â darlledu unrhyw ffilm y mae Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC) wedi gwrthod rhoi dosbarthiad iddi oni bai iddi gael dosbarthiad wedyn neu i BBFC gadarnhau na fyddai'n cael ei gwrthod yn ôl y safonau gweithredu cyfredol. Hefyd, rhaid peidio â darlledu unrhyw ffilm sydd wedi’i thorri fel amod ar gyfer rhoi dosbarthiad iddi gan BBFC mewn fersiwn sy’n cynnwys y deunydd a dorrwyd oni bai fod:

  • BBFC wedi cadarnhau bod y deunydd wedi’i dorri i ganiatáu derbyn y ffilm mewn categori is; neu fod
  • BBFC wedi cadarnhau na fyddai’n rhaid torri’r ffilm yn ôl y safonau gweithredu cyfredol.

1.23  Rhaid peidio â darlledu ffilmiau sydd wedi'u dosbarthu'n 18 gan BBFC neu rai sy’n cyfateb iddynt cyn 2100 ar unrhyw wasanaeth (heblaw gwasanaethau talu wrth wylio), a hyd yn oed wedyn gallent fod yn anaddas i’w darlledu bryd hynny.

1.24  Ar yr amod bod gwarchodaeth orfodol ar waith yn ystod y dydd cyn 2100 ac ar ôl 0530 (neu cyn 2000 ac ar ôl 0530 ar gyfer ffilmiau hyd at ddosbarthiad 15 BBFC neu rai sy’n cyfateb iddynt ar wasanaethau ffilm premiwm i danysgrifwyr), caiff rhaglenni sy’n anaddas i blant a fyddai fel arfer yn cael eu hamserlennu ar ôl y trothwy, a ffilmiau hyd at ddosbarthiad 18 BBFC neu rai sy’n cyfateb iddynt, eu darlledu ar y teledu unrhyw bryd yn ystod y dydd. Rhaid darparu gwybodaeth glir gyda chynnwys rhaglenni a ffilmiau a fydd yn cynorthwyo’r oedolion i asesu pa mor addas ydynt i blant, ac mae’n rhaid esbonio’n glir i’r holl wylwyr beth yw’r warchodaeth orfodol sydd ar waith yn ystod y dydd.

Pan na fydd gwarchodaeth orfodol yn ystod y dydd ar waith, mae’n rhaid i ddarlledwyr gydymffurfio â rheolau Ofcom ar amserlennu a’r trothwy (gweler Rheolau 1.1 i 1.7).

Noder:

Gall "gwybodaeth glir am gynnwys rhaglenni a ffilmiau" gynnwys y canlynol ond nid yw'n gyfyngedig iddynt:

  • gwybodaeth am y rhaglen a ddarperir yn y canllaw rhaglen electronig (EPG) sy'n cyfeirio at unrhyw ddeunydd a allai fod yn anaddas megis "iaith gref", "noethni", "golygfeydd o drais graffig", neu "ddelweddau rhywiol”;
  • graddau (BBFC neu gyfwerth); a/neu
  • wybodaeth a roddir mewn cyhoeddiadau cyswllt.

1.25  Caiff gwasanaethau talu wrth wylio ddarlledu ffilmiau hyd at ddosbarthiad 18 BBFC neu rai sy’n cyfateb iddynt, ar unrhyw adeg o’r dydd ar yr amod bod gwarchodaeth orfodol yn ystod y dydd ar waith cyn 2100 ac ar ôl 0530.

Ar ben hynny:

  • rhaid darparu gwybodaeth am gynnwys rhaglen a fydd yn helpu oedolion i asesu ei haddasrwydd i blant;
  • rhaid cael system filio fanwl i danysgrifwyr sy’n rhestru’n glir y cwbl a wyliwyd gan gynnwys amseroedd a dyddiadau gwylio; a bod
  • rhaid i’r systemau diogelu hynny sydd ar waith i warchod plant gael eu hesbonio’n glir i’r holl danysgrifwyr.

(Gweler ystyr “gwarchodaeth orfodol yn ystod y dydd” uchod.)

1.26  Rhaid peidio â darlledu ffilmiau sydd wedi derbyn dosbarthiad R18 gan BBFC.

Dadreibio, yr ocwlt a’r goruwchnaturiol

1.27  Rhaid peidio â dangos arddangosiadau o ddadreibio, arferion yr ocwlt a’r goruwchnaturiol (yr honnir eu bod yn rhai go iawn) cyn y trothwy (yn achos teledu) neu pan fydd plant yn neilltuol o debygol o fod yn gwrando (yn achos radio), neu pan fo’n debyg y bydd y cynnwys yn cael ei gyrchu gan blant (yn achos Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC). Rhaid peidio â darlledu arferion goruwchnaturiol i ddibenion adloniant pan ellid disgwyl y bydd niferoedd sylweddol o blant yn gwylio, neu pan fyddant yn neilltuol o debygol o fod yn gwrando, neu pan fydd cynnwys yn debyg o gael ei gyrchugan blant (yn achos Gwasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC), (Nid yw’r rheol hon yn berthnasol i ddrama, ffilm na chomedi.).

(Gweler Rheolau 2.6 i 2.8 yn Adran Dau: Niwed a Thramgwydd a Rheol 4.7 yn Adran Pedwar: Crefydd.)

Cynnwys pobl dan ddeunaw oed mewn rhaglenni

1.28  Rhaid gofalu’n briodol am les ac urddas pobl o dan ddeunaw oed sy’n cymryd rhan neu’n cael eu cynnwys fel arall mewn rhaglenni. Rhaid gwneud hyn heb ystyried unrhyw ganiatâd a roddwyd gan yr un sy’n cymryd rhan neu gan riant, gwarcheidwad neu unigolyn arall sydd dros ddeunaw oed yn lle rhiant.

1.29  Mae’n rhaid peidio ag achosi trallod neu orbryder heb gyfiawnhad i bobl o dan ddeunaw oed o ganlyniad iddynt gymryd rhan mewn rhaglenni neu ddarlledu’r rhaglenni hynny.

1.30  Mae’n rhaid i wobrau a anelir at blant fod yn briodol ar gyfer amrediad oedran y gynulleidfa darged a’r cyfranogwyr.

(Gweler Rheol 2.16 yn Adran Dau: Tramgwydd a Niwed.)


Troednodyn

[1] Nid yw gofynion amserlennu yn Rheolau 1.3, 1.4, 1.5 ac 1.6 yn berthnasol i ODPS y BBC