Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad mewn darlledu: offer er newid

Mae Ofcom yn ehangu'r ystod o ddata a gasglwn yn flynyddol gan weithluoedd darlledwyr teledu a radio i'n helpu i hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad ar draws y diwydiant darlledu.

Daw hyn yn sgil adolygiad pum mlynedd o gynnydd, a nododd ble y gallem helpu i symbylu gwelliannau pellach fel bod y sector wir yn adlewyrchu'r cynulleidfaoedd amrywiol y mae'n eu gwasanaethu.

Mae ein hymagwedd yn canolbwyntio'n gadarn ar symbylu tegwch a chynhwysiad, gan helpu darlledwyr i ymwreiddio amrywiaeth ar bob lefel o'u sefydliadau. Mae'r dolenni ar y dudalen hon yn manylu'r newidiadau yr ydym wedi'u gwneud i'n dull o gywain gwybodaeth amrywiaeth gan ddarlledwyr, yn ogystal â darparu arweiniad i'r diwydiant ar ei newydd wedd i adlewyrchu'r arferion gorau diweddaraf. Mae hefyd yn cynnwys adroddiad ar amrywiaeth gweithluoedd wyth darlledwr teledu a radio yn 2021-22.

Featured content