Cynyrchiadau a rhaglennu teledu rhanbarthol

15 Chwefror 2021

Mae cynhyrchu teledu tu allan i Lundain yn rhan hanfodol o'r sector darlledu yn y DU. Mae'n helpu i wasgaru ac i annog buddsoddiad a chyfleoedd gwaith yn y sector ledled y DU. Mae hefyd o fudd i gynulleidfaoedd drwy sicrhau amrywiaeth o raglenni a safbwyntiau golygyddol.

I helpu hyrwyddo cynhyrchu teledu yn y gwledydd a'r rhanbarthau, mae Ofcom yn gosod cwotâu ar ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ('PSB's'; BBC, gwasanaethau Sianel 3, Channel 4 a Channel 5), i sicrhau bod cyfran addas o'u rhaglenni rhwydwaith yn cael eu creu tu allan i'r M25.

Mae gan y BBC a gwasanaethau Sianel 3 gwotâu hefyd i ddarlledu rhaglenni lleol yn cynnwys newyddion rhanbarthol, ar draws gwahanol rannau o'r DU ('rhaglennu rhanbarthol'), a dylai cyfran addas o'r rhain gael eu cynhyrchu yn yr ardal leol.