Cynyrchiadau a rhaglennu teledu rhanbarthol

Cyhoeddwyd: 15 Chwefror 2021
Diweddarwyd diwethaf: 6 Mawrth 2026

Mae cynhyrchu teledu tu allan i Lundain yn rhan hanfodol o'r sector darlledu yn y DU. Mae'n helpu i wasgaru ac i annog buddsoddiad a chyfleoedd gwaith yn y sector ledled y DU. Mae hefyd o fudd i gynulleidfaoedd drwy sicrhau amrywiaeth o raglenni a safbwyntiau golygyddol.

I helpu hyrwyddo cynhyrchu teledu yn y gwledydd a'r rhanbarthau, mae Ofcom yn gosod cwotâu ar ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ('PSB's'; BBC, gwasanaethau Sianel 3, Channel 4 a Channel 5), i sicrhau bod cyfran addas o'u rhaglenni rhwydwaith yn cael eu creu tu allan i'r M25.

Mae gan y BBC a gwasanaethau Sianel 3 gwotâu hefyd i ddarlledu rhaglenni lleol yn cynnwys newyddion rhanbarthol, ar draws gwahanol rannau o'r DU ('rhaglennu rhanbarthol'), a dylai cyfran addas o'r rhain gael eu cynhyrchu yn yr ardal leol.

I helpu'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i gyflawni'r anghenion hyn, rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau. Mae'r canllawiau hyn yn esbonio:

  • ein diffiniadau ni o gynyrchiadau a rhaglennu rhanbarthol
  • sut rydyn ni'n disgwyl i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i gydymffurfio â'u cwotâu
  • sut y dylid dyrannu cynyrchiadau i ardaloedd daearyddol penodol
  • sut rydyn ni'n monitro cydymffurfiaeth gyda'r rhwymedigaethau hyn

Darllenwch ein canllawiau ar gyfer teitlau a ddarlledwyd cyn 2021.

Darllenwch ein canllawiau ar gyfer teitlau a ddarlledwyd o 2021.

Fel rhan o'n gwaith i weithredu Deddf y Cyfryngau 2024 a moderneiddio fframwaith cwotâu gwasnanaethau darlledu cyhoeddus, gwnaethom ddiweddaru'r canllawiau hyn, mewn grym ers 1 Ionawr 2026. Darllenwch ein canllawiau ar gyfer teitlau a ddarlledwyd o 2026.

Defnyddiwch yr offeryn chwilio am ranbarthau Cod Post i wirio'r rhanbarth cyfatebol ar gyfer pob cod post yn y DU, yn seiliedig ar gronfa ddata Chwilio am Cod Post Ystadegau Gwladol (NSPL).

Pob blwyddyn rydyn ni'n cyhoeddi  Cofrestr teitlau rhaglenni a gynhyrchwyd y tu allan i Lundain sy'n rhoi manylion y rhaglenni mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi cyfri fel rhan o'u cwotâu cynhyrchu rhanbarthol.

Am wybodaeth ynghylch cynyrchiadau a rhaglennu darlledu gwasanaeth cyhoeddus, a sut maent yn cydymffurfio i'w hymrwymiadau  ewch i'r Adroddiadau Cydymffurfio Blynyddol PSB

Ymdrinnir â chwynion ynghylch cydymffurfiaeth darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gyda'u hymrwymiadau cynhyrchu a rhaglennu yn Amodau cyffredinol ar gyfer archwilio torri rheolau trwyddedau darlledu .

Mae gennym set arall o ganllawiau sy'n berthnasol i'r BBC. Rhain yw ein Canllawiau ar gyfer gorfodi anghenion yng Nghytundeb y BBC a chydymffurfio gyda gweithredoedd gorfodi Ofcom 

Darllenwch sut i wneud cwyn sy'n ymwneud â chynyrchiadau a rhaglennu rhanbarthol