Adroddiad blynyddol a chyfrifon Ofcom 2024-2025

Cyhoeddwyd: 11 Gorffennaf 2025

Woman wearing headphones and looking at a mobile device

Rydym yn credu bod rheoleiddio da yn mynd law yn llaw â buddsoddi ac arloesi. Mae hynny wastad wedi bod wrth galon ein gwaith. Ac ers mis Mai 2024, mae gan Ofcom ddyletswydd gyfreithiol i ystyried pa mor ddymunol ydy hyrwyddo twf economaidd.

Un o’n hegwyddorion rheoleiddio yw gweithredu gyda gogwydd yn erbyn ymyrryd, ond â pharodrwydd i ymyrryd yn ddiymdroi ac yn effeithiol pan fo angen. Rydym yn gwneud hynny’n gymesur, gan ganiatáu i gwmnïau archwilio ac arloesi.

Mae hyn yn bwysig, oherwydd bod technoleg yn ein sectorau’n esblygu’n gyflym. Rydym bob amser yn edrych ymlaen i weld sut gallwn ni helpu i sicrhau manteision yn y dyfodol i’r bobl sy’n defnyddio’r cynnyrch a’r gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio, yn ogystal â’r economi ehangach.

Mae ein hadroddiad blynyddol a’n cyfrifon ar gyfer 2024/25 yn dangos effaith ein gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rydym yn edrych ymlaen at lywio’r hyn sy’n digwydd nesaf

Uchafbwyntiau 2024/25

Diwygio’r gwasanaeth post

Bydd ein diwygiadau arfaethedig i’r gwasanaeth post yn galluogi’r Post Brenhinol i addasu mewn marchnad sy’n esblygu. Bydd yn diogelu at y dyfodol ddull cyfathrebu hanfodol a ddefnyddir gan filiynau o bobl yn y DU.

Cyrhaeddiad ehangach band eang

Mae tua 25 miliwn o gartrefi yn y DU nawr yn gallu cael mynediad at gysylltiadau sy’n gallu delio â gigabits, gan gynnwys rhwydweithiau cebl ffeibr llawn a gwibgyswllt, sydd bron â chyrraedd targed y Llywodraeth o sicrhau darpariaeth o 85% erbyn 2025.

Sicrhau cadernid telegyfathrebiadau

Mae ein gwaith parhaus o fonitro diogelwch a chadernid rhwydweithiau telegyfathrebiadau’r DU yn rhoi sicrwydd i’r defnyddwyr ac i’r busnesau sy’n dibynnu arnynt bob dydd.

Gweithredu’r Ddeddf Cyfryngau

Fe wnaethom ddechrau gweithredu’r Ddeddf Cyfryngau, deddfwriaeth a fydd yn diogelu darlledu gwasanaeth cyhoeddus, yn helpu cynulleidfaoedd i barhau i fwynhau rhaglenni o ansawdd, ac yn helpu i gefnogi economi greadigol y DU.

Siarad â chynulleidfaoedd

Drwy ein hymchwil i newidiadau yn newisiadau ac ymddygiad cynulleidfaoedd, gallwn ddeall eu hanghenion sy’n esblygu yn well a llywio ein rheolau a sut rydym yn gweithio yn y maes hwn.

Gwella hygyrchedd

Rydym wedi parhau i sicrhau bod pobl sydd ag amhariad ar eu clyw a’u golwg yn gallu cael gafael ar wasanaethau hanfodol fel is-deitlau, iaith arwyddion a disgrifiadau sain ar amrywiaeth o sianeli a llwyfannau teledu.

Gorfodi safonau, diogelu cynulleidfaoedd

Fe wnaethom asesu degau o filoedd o gwynion a chymryd camau pan oedd darlledwyr yn torri ein rheolau, gan sicrhau bod cynulleidfaoedd yn parhau i ymddiried yn yr hyn maen nhw’n ei weld a’i glywed.

Cynnal rhyddid mynegiant

Wrth i ni wneud ein gwaith i ddiogelu cynulleidfaoedd a chynnal rheolau darlledu, roeddem hefyd wedi parhau i ystyried hawl darlledwyr a chynulleidfaoedd i ryddid mynegiant – cydbwysedd hanfodol.

Hybu amrywiaeth

Rhaid i’r diwydiant darlledu adlewyrchu’r amrywiaeth o gynulleidfaoedd mae’n eu gwasanaethu. Mae ein gwaith i fonitro amrywiaeth yn y sector yn helpu i gyflawni hyn ac yn canfod meysydd i’w gwella.

Gweithredu

Mae ein gwaith fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein wedi dechrau’n ffurfiol – rydym wedi datgan beth yw’r rheolau, wedi dechrau cymryd camau gorfodi ac rydym eisoes wedi lansio ymchwiliadau i rai gwasanaethau ar-lein.

Canolbwyntio ar blant

Drwy ein hymchwil, rydym wedi nodi niwed penodol i blant ac rydym yn gweithio i’w diogelu rhag cynnwys anghyfreithlon a niweidiol.

Ymgynghori gofalus

Drwy ymgynghori manwl dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gallu nodi mesurau ymarferol y mae’n rhaid i ddarparwyr eu rhoi ar waith i wneud gwasanaethau’n fwy diogel i’w defnyddwyr.

Cysylltiadau gwell a chyflymach

Rydym yn barod i roi mynediad i sbectrwm radio newydd, gan wella cysylltiadau symudol yn yr ardaloedd lle mae eu hangen fwyaf.

Arloesi yn y tonnau awyr

Drwy rannu sbectrwm mewn ffyrdd arloesol, bydd tonnau awyr yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol, gan roi hwb i ddarpariaeth a pherfformiad i’r bobl y mae angen iddynt gadw mewn cysylltiad.

Hybu twf

Drwy nodi ffyrdd o ddefnyddio’r sbectrwm radio yn y dyfodol, rydym yn datgloi ffyrdd newydd a gwell o’i ddefnyddio, gan sbarduno cystadleuaeth wrth i ddarparwyr geisio diwallu anghenion defnyddwyr.

Ofcom KPIs (Ar gael yn Saesneg yn unig)

Public consultations allow stakeholders to comment on, and respond to, our proposals before any final decisions are made. If the period for consultation is too short, some of those with important views to share may not have enough time to prepare their responses. If it is too long, the market concerned may have changed dramatically.

Timeliness of decision making 2024/25 2023/24
Consultation period less than 10 weeks 71% 75%
Consultation period at least 10 weeks 29% 25%

Ofcom aims to ensure that impact assessments are carried out and properly presented in all relevant consultations

Impact assessments (IA) Target 2024/25 2023/24
Number of consultation documents 68 53
IA explicit in published document 64 43
Proportion 100% 94% 75%

Progress against the Government Greening Commitments (GGC) targets.

Key Performance Indicator Target 2024/25 2023/24
Mitigating climate change: working towards net zero by 2050
Overall emission reduction 58% 34% 33%
Direct emission reduction (scope 1 only) 33% 68% 63%
Car and van fleet zero emissions at the tailpipe 25% by 31 December 2022

100% by 31 December 2027

7%


7%

7%


7%

Domestic business flights emissions 30% 11% 0.3%
International business flights distance  2,118,110 km 1,758,892 km
Waste minimising and promoting resource efficiency
Overall waste generated reduction 15% 31% 22%
Waste going to landfill reduction 5% 100% 100%
Proportion of waste recycled 70% 57% 39%
Remove consumer single use plastic (CSUP) 100% 100% 100%
Food waste measurement 124 tonnes 143 tonnes
Paper use reduction 50% 98% 95%
Reducing water use
Water consumption reduction 8%  37% -1%
Water consumption measurement
5,890 m3 9,469 m3

In order for Ofcom to be as representative as we can be of the nations, regions and communities of the UK, as part of our five-year diversity and inclusion strategy, we set targets to increase the diversity of our workforce.

End ambition
(Mar 2026)
2024/25 2023/24
Senior female Equal balance 48% 46%
Senior ethnicity 19% (originally 16%) 15% 17%
Disabled – Ofcom-wide 15% 12% 12%

Senior levels include staff at Principal and senior managers and specialists (SMS) grades.

Ofcom has a statutory duty under the Communications Act 2003 to establish procedures for the handling and resolution of complaints from listeners and viewers about radio and television programmes broadcast. The target and performance against it is reported in working days.

Key Performance Indicators Target 2024/25 2023/24
Initial assessment of complaints 15 days 5.9 days 8 days
Complete cases taken forward for investigation 50 days 71.6 days 95.3 days
Assessment of Fairness and Privacy complaints 25 days 20.6 days 17.2 days
Adjudication of Fairness and Privacy complaints 90 days 82.8 days 90.7 days
Initial assessment of BBC online material complaints 15 days 11.7 days 18.1 days

Progress against the Quality of Service Targets for Complaints of Spectrum Interference Received

Key Performance Indicator Case Priority Target 2024/25 2023/24

Time to First Visit:

The time taken from reporting a complaint of interference to the time our engineer arrives on site to diagnose the problem (for those cases where a field visit is required).  

1 8 hours 100% 100%
2 18 hours 100% 63%
3 2 working days 100% 99%
4 5 working days 100% 99%
5 15 working days 100% 99%
6 No target

Resolution

The time taken from reporting a complaint of interference to the time the customer is advised that the case is resolved.

1 2 calendar days 100% 100%
2 5 working days 100% 100%
3 6 working days 98% 99%
4 20 working days 97% 97%
5 40 working days 99% 99%
6 60 working days 100% 99%

Progress against the Targets for Spectrum licence types

  • Category A - involve no frequency assignment, site clearance or international co-ordination
  • Category B - involve frequency assignment, but no site clearance or international co-ordination
  • Category C - require frequency assignment, and site clearance and/or international co-ordination
Key Performance Indicators Target 2024/25 2023/24
Category A licences 90% in 7 days 99% 97%
Category A (Amateur & Ships) 90% in 10 days 100% 95%
Avg. KPI for all Category A 100% 96%
Category B licences 100% in 42 days 92% 91%

Category C licences

90% in 42 days 97% 97%
100% in 60 days 99% 100%