
Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein hymchwil ddiweddaraf ar sut mae pobl yn y DU yn cael mynediad at a’n defnyddio gwahanol fathau o gyfryngau.
Rydym wedi tynnu rhai o'r prif ganfyddiadau allan yn ein datganiad i’r wasg, ond mae'r adroddiad yn cynnwys cymaint o ganfyddiadau rydym eisiau tynnu sylw at rai o'r ffeithiau a'r ffigurau diddorol eraill gwnaethom ddarganfod.
I edrych ar yr holl ganfyddiadau yn fwy manwl, gallwch ddarllen adroddiad llawn y DU ac adroddiadau’r gwledydd.
Mae'r rhan fwyaf o wylwyr yn hapus gyda darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus
Dywedodd saith o bob deg o bobl sy'n defnyddio darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (PSBs) eu bod yn fodlon â nhw. Ystyrir bod y PSBs yn cyflawni'n dda yn y rhan fwyaf o feysydd, yn enwedig yn darparu ystod eang o wahanol fathau o raglenni a chynnwys (73%), rhaglenni a chynnwys a wneir ar gyfer cynulleidfaoedd y DU (72%) a rhaglenni a chynnwys o ansawdd uchel a chreadigol (72%).
Mae lefelau boddhad yr un mor uchel ymhlith plant, gyda gwylwyr 8-16 oed a rhieni plant iau yn cytuno bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn gyffredinol yn darparu rhaglenni o ansawdd uchel y maent yn eu mwynhau (72%) a rhaglenni a chynnwys sy'n eu helpu i ddysgu (71%).
Mae radio yn parhau i fod yn bwysig i lawer ohonom – yn enwedig wrth deithio
Mae pobl sy'n gwrando ar y radio yn eu cerbydau yn gynulleidfa sy’n gynyddol bwysig, ac yn cyfrif am chwarter yr amser a dreulir yn gwrando - i fyny o bump yn 2022. Ar yr un pryd, mae gwrando ar y radio gartref wedi gostwng. Mae ychydig llai na chwarter y gwrandawyr yn dweud mai dim ond tra byddant yn y car y maent yn gwrando ar y radio.
Ar yr un pryd, mae poblogrwydd podlediadau yn parhau i gynyddu
Mae dros chwarter yr oedolion (27%) bellach yn gwrando ar bodlediad bob wythnos, yn ôl ffigurau RAJAR - cynnydd sylweddol o 7% ddegawd yn ôl. Roedd y rhai a fabwysiadodd yn gynnar yn 2016 yn bennaf o dan 35 oed, ond mae gan bobl 45-54 bellach gyrhaeddiad uwch na'r cyfartaledd – ac mae 13% o bobl 65+ oed bellach yn gwrando ar bodlediadau hefyd. Mae gwahaniaeth bach rhwng y rhywiau ymhlith gwrandawyr podlediadau, gyda 29% o ddynion a 24% o fenywod yn gwrando’n wythnosol.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu newyddion ar-lein
Mae platfformau digidol yn chwarae rhan gynyddol o ran defnydd o newyddion yn y DU, ac fe’u defnyddir gan 82% o bobl 16+ oed, o'i gymharu â 76% sy'n gwylio newyddion teledu darlledu. Mae'r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn chwarae rhan ganolog, gyda 60% o bobl yn ei ddefnyddio ar gyfer newyddion. Gwnaethom hefyd ganfod gwahaniad rhwng y cenedlaethau yn yr arfer o ddefnyddio newyddion - mae teledu (gan gynnwys ar-alw) fel ffynhonnell newyddion yn fwy poblogaidd ymhlith pobl hŷn, gyda 90% o'r rhai 75+ oed yn ei ddefnyddio i gael eu newyddion, o'i gymharu â 69% o bobl 16-24 oed. Ac mae'r gwrthwyneb yn wir am newyddion ar-lein, gyda 92% o bobl 16-34 yn mynd ar-lein i gael mynediad at newyddion, o'i gymharu â dim ond 47% o'r rhai dros 75 oed.
Ond yn ystod etholiadau, mae darllediadau teledu yn dangos ei werth
Er gwaethaf y twf yn y defnydd o newyddion ar-lein, gwnaethom hefyd ganfod bod gan y teledu rôl bwysig i'w chwarae pan fydd etholiadau'n digwydd. Edrychom ar gynulleidfaoedd yng Nghymru a’r Alban yn syth ar ôl etholiadau Senedd yr Alban a Senedd Cymru, a hefyd mewn ardaloedd o Loegr lle cynhaliwyd etholiadau lleol / etholiadau maer yn gynharach eleni. Ar draws yr ardaloedd a arolygwyd, roedd chwech o bob deg (62%) o bobl a oedd wedi bod yn ymwybodol o'r etholiadau wedi gweld newyddion amdanynt ar y teledu, tra mai dim ond traean a ddywedodd eu bod wedi gweld newyddion neu wybodaeth am yr etholiadau ar-lein. Ar yr un pryd, cafodd 15% newyddion sy'n gysylltiedig ag etholiad trwy radio neu bodlediadau, tra bod 13% yn ei gael o bapurau newydd.
Mae refeniw teledu-drwy-dalu yn tyfu, er gwaethaf niferoedd tanysgrifwyr yn sefyll yn llonydd
Cynyddodd refeniw ar gyfer gwasanaethau teledu-drwy-dalu a thanysgrifio fideo-ar-alw (SVoD) dros £1bn i £11.4bn yn 2025. Fodd bynnag, wrth i niferoedd tanysgrifwyr sefyll yn sefydlog, mae twf wedi'i yrru gan gynnydd mewn prisiau a chynigion bwndeli. Yn ogystal, mae platfformau SVoD hefyd yn adeiladu mewn hysbysebu, gan arallgyfeirio eu sylfeini refeniw. Roedd gan saith deg y cant o aelwydydd y DU o leiaf un tanysgrifiad SVoD yn 2026, cynnydd o ddau bwynt canran yn unig ers 2022.
Cynnwys cysylltiedig