
Heddiw, mae Ofcom wedi lansio ymchwiliad i weld a yw darparwr dau fwrdd delweddau ar-lein wedi methu â chydymffurfio â dyletswyddau i ddiogelu pobl yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon.
Oherwydd natur y safleoedd hyn, rydym wedi penderfynu peidio â'u henwi na'u darparwr.
Mynd i'r afael â niwed ar-lein yn erbyn menywod a merched
Mae'n anghyfreithlon yn y DU i rannu delweddau personol nad ydynt yn gydsyniol (NCII) neu ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM). O dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, mae'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau 'defnyddiwr-i-ddefnyddiwr' asesu a lliniaru'r risg y bydd defnyddwyr y DU yn dod ar draws y math hwn o gynnwys ar eu platfformau.[1]
Mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched, ac mae sicrhau bod safleoedd ac apiau yn mynd i'r afael â hyn yn un o flaenoriaethau uchaf Ofcom.[2]
Pan ddaeth y dyletswyddau newydd ar gwmnïau technoleg i rym y llynedd, fe wnaethom lansio rhaglen o gamau gorfodi yn erbyn gwasanaethau sy'n cael eu defnyddio i ddosbarthu CSAM ar unwaith. O ganlyniad, mae rhai wedi defnyddio offer awtomataidd i ganfod a dileu'r cynnwys ffiaidd hwn yn gyflym, tra bod eraill wedi tynnu gwasanaethau'n ôl o'r DU.
At ei gilydd, o dan y Ddeddf, rydym wedi lansio ymchwiliadau i bron i 100 o lwyfannau – gan gynnwys X, lle defnyddiwyd Grok i greu a rhannu delweddau rhywiol o fenywod a phlant. Rydym wedi cyhoeddi bron i ddwsin o ddirwyon am beidio â chydymffurfio, gan gynnwys yn erbyn safle dinoethni, sydd wedi tynnu'r gwasanaeth yn ôl o'r DU.
Gwnaethom gyhoeddi yn ddiweddar y byddwn yn cyflymu ein penderfyniad ar ofynion newydd arfaethedig i gwmnïau technoleg ddefnyddio technoleg i atal delweddau personol nad ydynt yn gydsyniol yn y lle cyntaf, gan ddod ag ef ymlaen i fis Mai.
Ymchwiliad newydd i fyrddau delweddau
Ein gwaith ni yw barnu a yw llwyfannau wedi cymryd camau priodol i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol – nid yw’n ymwneud â dweud wrth lwyfannau pa bostiadau neu gyfrifon penodol i'w tynnu i lawr.
Rydym wedi ymgysylltu'n helaeth â dioddefwyr, goroeswyr a grwpiau eiriolaeth, ac wedi cynnal asesiad cychwynnol o ddau safle a ddefnyddir i hwyluso cam-drin rhywiol ar sail delweddau. Heddiw, rydym wedi agor ymchwiliad ffurfiol i ganfod a yw darparwr y safleoedd hyn wedi methu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan y Ddeddf yn benodol:
- cynnal asesiad risg o gynnwys anghyfreithlon addas a digonol;
- defnyddio mesurau cymesur i atal unigolion rhag dod ar draws cynnwys anghyfreithlon â blaenoriaeth – gan gynnwys NCII a CSAM;[3]
- defnyddio systemau a phrosesau cymesur i leihau'r cyfnod o amser y mae cynnwys anghyfreithlon â blaenoriaeth yn bresennol;
- tynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr yn gyflym pan ddaw'n ymwybodol ohono;
- i nodi yn ei delerau gwasanaeth sut y caiff unigolion eu diogelu rhag cynnwys anghyfreithlon;
- rhoi gweithdrefnau adrodd cynnwys a chwynion ar waith mewn perthynas â chynnwys anghyfreithlon.
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad hwn cyn gynted â phosibl.
Proses ymchwilio Ofcom
Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn nodi'r broses y mae'n rhaid i Ofcom ei dilyn wrth ymchwilio i gwmni a phenderfynu a yw wedi methu â chydymffurfio â'i rwymedigaethau cyfreithiol.[4]
Ein cam cyntaf yw casglu a dadansoddi tystiolaeth i benderfynu a oes yna ddiffyg cydymffurfiaeth. Os, yn seiliedig ar y dystiolaeth honno, byddwn o'r farn bod methiant cydymffurfio wedi digwydd, byddwn yn cyhoeddi penderfyniad dros dro i'r cwmni, a fydd wedyn yn cael cyfle i ymateb i'n canfyddiadau yn llawn, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf, cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol.

Pwerau gorfodi
Os yw ein hymchwiliad yn canfod bod cwmni wedi torri'r gyfraith, gallwn ei gwneud yn ofynnol i lwyfannau gymryd camau penodol i gydymffurfio neu i unioni niwed a achosir gan y toriad. Gallwn hefyd osod dirwyon o hyd at £18 miliwn neu 10% o refeniw cymwys ledled y byd, pa un bynnag sydd fwyaf.
Yn yr achosion mwyaf difrifol o ddiffyg cydymffurfio parhaus, gallwn wneud cais i lys am 'fesurau tarfu ar fusnes', lle gallai llys osod gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr talu neu hysbysebwyr dynnu eu gwasanaethau yn ôl o blatfform, neu ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaeth rhyngrwyd rwystro mynediad i safle yn y DU.
Awdurdodaeth y DU
Fel mewn diwydiannau eraill, rhaid i gwmnïau sy'n darparu gwasanaeth ar-lein i bobl yn y DU gydymffurfio â chyfreithiau'r DU. Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ymwneud â diogelu pobl yn y DU. Nid yw'n gofyn i lwyfannau gyfyngu ar yr hyn y gall pobl mewn gwledydd eraill ei weld.[5]
Nodiadau i olygyddion
- Gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr yw lle gall pobl ddod ar draws cynnwys - gan gynnwys delweddau, fideos, negeseuon neu sylwadau - sydd wedi'i gynhyrchu, ei uwchlwytho neu ei rannu gan ddefnyddwyr eraill. Gweler 66D, is-adrannau 5-7 o'r Ddeddf Troseddau Rhywiol, fel y'i mewnosodwyd gan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, ar gyfer y diffiniad o gam-drin delweddau personol, ac mae Atodlen 6 yn egluro’r troseddau cam-fanteisio'n rhywiol a cham-drin plant sy'n droseddau blaenoriaeth o dan y Ddeddf.
- Ym mis Tachwedd, lansiwyd canllawiau diwydiant newydd sy’n mynnu bod cwmnïau technoleg yn camu i fyny i ddarparu profiad ar-lein mwy diogel i fenywod a merched yn y DU.
- Mae codau ymarfer niwed anghyfreithlon Ofcom yn nodi mesurau diogelwch y gall darparwyr eu gweithredu i gydymffurfio â'u dyletswyddau, megis: cael prosesau adrodd a chwynion defnyddwyr am gynnwys anghyfreithlon sy'n hawdd ei ddarganfod, ei gyrchu a'i ddefnyddio; adnoddau digonol a hyfforddi timau cymedroli cynnwys fel y bo'n briodol i ddelio â chynnwys anghyfreithlon; a chael systemau cymedroli cynnwys sydd wedi'u cynllunio i dynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr yn gyflym pan fyddant yn ymwybodol ohono. Mae'r cyfrifoldeb ar lwyfannau i benderfynu a yw cynnwys yn anghyfreithlon, a gallant ddefnyddio Canllawiau Dyfarniadau Cynnwys Anghyfreithlon Ofcom wrth wneud y penderfyniadau hyn.
- Gellir dod o hyd i'n Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein yma.
- Mae rhagor o wybodaeth am awdurdodaeth ar gael yma